British National Party

Y blaid gyfoes yw pwnc yr erthygl hon. Am y blaid yn y 1960au, gweler British National Party (1960au).

Plaid wleidyddol dde eithafol yn y Deyrnas Unedig yw'r British National Party (cyfieithiad answyddogol: "Plaid Genedlaethol Prydain") neu'r BNP ("PGP").[11] Mae ganddi tuda 56 o gynghorwyr mewn llywodraeth leol Lloegr, ond nid oes ganddi gynrychiolaeth o fewn Senedd y Deyrnas Unedig. Yn etholiad cyffredinol 2005, enillodd y BNP ond 0.7% o'r bleidlais boblogaidd, sef wythfed o'r holl bleidiau, ac yn etholiad 2007 Cynulliad Cymru daeth yn bumed yn nhermau pleidleisiau'r rhestrau rhanbarthol, ond eto methodd ag ennill unrhyw sedd. Enillodd dwy sedd i Senedd Ewrop yn 2009, un yn etholaeth Swydd Efrog a Humber, ac un yn etholaeth Gogledd Orllewin Lloegr.

British National Party/ Plaid Genedlaethol Prydain
Logo'r British National Party
Arweinydd Nick Griffin
Sefydlwyd 1982
Pencadlys Waltham Cross, Swydd Hertford
Ideoleg Wleidyddol Cenedlaetholdeb gwyn[1][2][3]
Cenedlaetholdeb Prydeinig,

Poblyddiaeth asgell-dde radicalaidd,[4][5][6]
Ffasgaeth(gwadir gan y BNP) [7][8][9][10]

Safbwynt Gwleidyddol Dde eithafol
Tadogaeth Ryngwladol Front national (Ffrainc)

Nationaldemokratische Partei Deutschlands (Yr Almaen)
Nationaldemokraterna (Sweden)

Tadogaeth Ewropeaidd Euronat
Grŵp Senedd Ewrop dim
Lliwiau Coch, gwyn a glas
Gwefan www.bnp.org.uk
Gwelwch hefyd Gwleidyddiaeth y DU

Yn ôl ei chyfansoddiad, mae'r BNP yn "ymrwymedig i atal a gwrthdroi'r llanw o fewnfudo di-wyn ac i adfer, trwy newidiadau cyfreithlon, trafodaeth a chydsyniad, y gyfran andros o fawr wyn o'r boblogaeth Brydeinig a fodolant ym Mhrydain cyn 1948".[12][13] Mae'r BNP yn cynnig "cymhellion cadarn ond gwirfoddol i fewnfudwyr a'u disgynyddion i ddychwelyd adref".[14] Dadleir y BNP o blaid diddymu holl ddeddfwriaeth wrth-wahaniaethu y Deyrnas Unedig, a chyfyngir aelodaeth bleidiol i "grwpiau ethnig Prydeinig brodorol sy'n deillio o'r dosbarth 'Cawcasaidd brodorol'".[12]

Cred y BNP bod yna gwahaniaethau hiliol biolegol arwyddocaol sy'n penderfynu ymddygiad a chymeriad unigolion. Haerir y blaid taw rhan o natur dynol yw ffafriaeth dros ethnigrwydd personol.[14] Yn hanesyddol, o dan arweinyddiaeth John Tyndall, roedd gan y BNP tueddiadau gwrth-Semitaidd cryf, ond yn ddiweddar mae'r blaid wedi tueddu canolbwyntio ar Fwslimiaid fel ei phrif wrthwynebydd. Datganodd y blaid yn gyhoeddus nid yw'n ystyried Hindŵiaid a Sikhiaid i fod yn fygythiad, er nad yw'r BNP yn derbyn bod Hindŵiaid a Sikhiaid ymarferol yn Brydeinig yn ddiwylliannol neu'n ethnig. Yn y gorffennol mae'r BNP wedi gweithio gyda grwpiau gwrth-Islamaidd Sikhaidd a Hindŵaidd.[15]

Caiff y BNP ei hymyleiddio gan bleidiau gwleidyddol prif ffrwd yn y Deyrnas Unedig, ac mae'r blaid wedi'i beirniadu'n gryf gan yr arweinydd Ceidwadol David Cameron, cyn-arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Syr Menzies Campbell, a chyn-Brif Weinidog Llafur Tony Blair.[16][17][18]

Hanes golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

2000au golygu

Yn Rhagfyr 2007 bu'r BNP yn dechrau cyfnod o ymladd mewnbleidiol, wnaeth cynnwys ymddiswyddiad a gwaharddiad dros 60 o'i swyddogion lleol a chenedlaethol.[19] Galwodd y gwrthryfelwyr, a alwodd eu hunain yn the Real BNP ("y Gwir BNP"), am waharddiad tri o swyddogion hynaf y blaid, a gyhuddent o ddwyn anfri ar y BNP. Roedd cyhuddiadau'r gwrthryfelwyr yn erbyn arweinyddiaeth y blaid yn cynnwys lladrad, bygio a phrosesu arian anghyfreithlon.[20][21]

Gweler hefyd golygu

Troednodion golygu

  1. Bonnett A. "How the British Working Class Became White: The Symbolic (Re)formation of Racialized Capitalism." The Journal of Historical Sociology 11.3 (1998): 316-340.
  2. Back, Les, Michael Keith, Azra Khan, Kalbir Shukra, a John Solomos. "New Labour's White Heart: Politics, Multiculturalism and the Return of Assimilation." The Political Quarterly 73.4 (2002): 445-454. DOI: 10.1111/1467-923X.00499.
  3. Gerstenfeld, Phyllis B., Diana R. Grant, a Chau-Pu Chiang. "Hate Online: A Content Analysis of Extremist Internet Sites." Analyses of Social Issues and Public Policy 3.1 (2003): 29-24. DOI :10.1111/j.1530-2415.2003.00013.x.
  4. Golder, Matt. "Explaining Variation In The Success Of Extreme Right Parties In Western Europe." Comparative Political Studies 36.4 (2003): 432-466. DOI: 10.1177/0010414003251176.
  5. Evans, Jocelyn A J. "The Dynamics of Social Change in Radical Right-wing Populist Party Support Archifwyd 2007-10-01 yn y Peiriant Wayback.." Comparative European Politics 3.1 (2005): 76-101.
  6. Mudde, Cas. "The Populist Zeitgeist." Government and Opposition 39.4 (2004): 542–563.
  7. Renton, D Fascism theory & practice (Llundain, 1999)
  8. Thurlow, R Fascism in Modern Britain (Basingstoke, 2000)
  9. Copsey, N "Contemporary Fascism in the Local Arena: the British National Party and Rights for Whites" yn Cronin, M (gol.) The Failure of British Fascism (Basingstoke, 1996)
  10. Copsey, N. Changing course or changing clothes? Reflections on the ideological evolution of the British National Party 1999-2006, Patterns of Prejudice, cyfrol 41, rhifyn 1, Chwefror 2007 , tud. 61 - 82.
  11. (Saesneg) Register of political parties: British National Party. Y Comisiwn Etholiadol. Adalwyd ar 31 Rhagfyr, 2007.
  12. 12.0 12.1 (Saesneg) Constitution of the British National Party. British National Party (dim ar gael, gweler fersiwn storfa Google).
  13. (Saesneg) Rojas, Rick (25 Hydref, 2007). British anti-immigration party leader to visit campus. thebatt.com. Adalwyd ar 31 Rhagfyr, 2007.
  14. 14.0 14.1 (Saesneg) British National Party: Rebuilding British Democracy, maniffesto etholiad cyffredinol 2005. British National Party (ar wefan y BBC). Adalwyd ar 31 Rhagfyr, 2007.
  15. (Saesneg) Harris, Paul (23 Rhagfyr, 2001). Hindu and Sikh extremists in link with BNP. The Observer. Adalwyd ar 31 Rhagfyr, 2007.
  16. (Saesneg) Jones, George (25 Ebrill, 2006). Cameron calls on voters to back anyone but the BNP. The Daily Telegraph. Adalwyd ar 31 Rhagfyr, 2007.
  17. (Saesneg) Jones, George (8 Chwefror, 2007). Blair admits 'paying penalty' for US links. The Daily Telegraph. Adalwyd ar 31 Rhagfyr, 2007.
  18. (Saesneg) Lib Dems appeal to ethnic minority voters. Y Democratiaid Rhyddfrydol (25 Ebrill, 2006). Adalwyd ar 31 Rhagfyr, 2007.
  19. (Saesneg) Enough Is Enough. blog personol. Adalwyd ar 31 Rhagfyr, 2007.
  20. (Saesneg) Taylor, Matthew (22 Rhagfyr, 2007). BNP at war amid allegations of illegal activity. The Guardian. Adalwyd ar 31 Rhagfyr, 2007.
  21. (Saesneg) Hardy, James (19 Rhagfyr, 2007). BNP divided after leadership row. BBC. Adalwyd ar 31 Rhagfyr, 2007.

Cysylltiadau allanol golygu