Alexander McQueen
Dylunydd ffasiwn o Loegr oedd Alexander McQueen CBE (ganwyd Lee Alexander McQueen; 17 Mawrth 1969 – 11 Chwefror 2010),[1] a fu'n adnabyddus am ei dactegau sioc anghonfensiynol. Gweithiodd McQueen fel prif ddylunydd Givenchy am bum mlynedd cyn sefydlu labeli Alexander McQueen a McQ. Cafodd duluniadau dramatig McQueen eu gwisgo gan enwogion gan gynnwys Rihanna, Björk a Lady Gaga, a cawsont eu cymeradwyo. Enillodd wobr Dylunydd Ffasiwn Prydeinig y Flwyddyn bedair gwaith.
Alexander McQueen | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mawrth 1969 Lewisham |
Bu farw | 11 Chwefror 2010 Mayfair |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cynllunydd, dylunydd ffasiwn, arlunydd |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | No. 13 Climax, Dante |
Gwobr/au | CBE, The Fashion Awards, The Fashion Awards, The Fashion Awards, The Fashion Awards |
Gwefan | http://www.alexandermcqueen.com |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd yn Hackney, Llundain, yn fab i yrrwr tacsi a'r ifengaf o chwech o blant.[2] Dechreuodd McQueen wneud ffrogiau ar gyfer ei chwiorydd pan oedd yn ifanc gan ddatgan y bu'n bwriadu dod yn ddylunydd ffasiwn.[3] Dywedodd mai un o'i atgofion cynharaf oedd pan ddarluniodd ffrog ar wal pan oedd yn dri oed, lle roedd y papur wal wedi dod i ffwrdd yn y tŷ cyngor lle roedd y teulu'n byw.[4]
Mynychodd McQueen Ysgol Rokeby a gadawodd gydag ond Lefel O mewn celf, a gadawodd yr ysgol yn 16 oed, cyn gwneud prentisiaeth ar gyfer y teilwyr Savile Row Anderson & Sheppard. Wedi hynnu ymunodd â Gieves & Hawkes ac yn ddiweddarach y gwneuthurwyr gwisgoedd theatrig Angels and Bermans.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Alexander McQueen, UK fashion designer, found dead. BBC (11 Chwefror 2010).
- ↑ Obituary: Fashion king Alexander McQueen. BBC (11 Chwefror 2010).
- ↑ Maysa Rawi (11 Chwefror 2010). A life in fashion: How Alexander McQueen became 'the most influential designer of his generation'. The Daily Mail.
- ↑ Alexander McQueen Obituary. The Times. Adalwyd ar 11 Chwefror 2010.
- ↑ Mark =Tran (11 Chwefror 2010). Fashion designer Alexander McQueen dies. The Guardian. Adalwyd ar 11 Chwefror 2010.