Hanesydd a llenor o Sais oedd yn arbenigo yn hanes Ffrainc oedd Syr Alistair Allan Horne (9 Tachwedd 1925 – 25 Mai 2017). Ymhlith ei weithiau mae llyfrau ar Frwydr Verdun, Comiwn Paris, cwymp Ffrainc i'r Natsïaid, Rhyfel Algeria, a bywgraffiad awdurdodedig y Prif Weinidog Harold Macmillan.

Alistair Horne
GanwydAlistair Allan Horne Edit this on Wikidata
9 Tachwedd 1925 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mai 2017 Edit this on Wikidata
Swydd Rydychen Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, newyddiadurwr, cofiannydd Edit this on Wikidata
TadJames Horne Edit this on Wikidata
MamAuriol Hay Edit this on Wikidata
PriodRenira Margaret Ida Hawkins, Sheelin Ryan Edit this on Wikidata
PlantCamilla Horne, Vanessa Horne, Alexandra Horne Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Gwobr hanes Wolfson, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Marchog Faglor, Gwobr Hawthornden Edit this on Wikidata

Ganwyd Horne ym Mayfair, Llundain, a chafodd ei addysg yn ysgol breswyl Le Rosey (y Swistir) ac ysgol baratoi Millbrook (Efrog Newydd), cyn iddo astudio Saesneg yng Ngholeg yr Iesu, Caergrawnt. Gwasanaethodd yn yr Awyrlu Brenhinol a Gwarchodlu Coldstream rhwng 1943 a 1947, a chyrhaeddodd rheng capten yn y fyddin. Gweithiodd fel gohebydd tramor, ac o 1952 i 1955 ysgrifennodd o Orllewin yr Almaen fel gohebydd The Daily Telegraph. Yno bu hefyd yn asiant cudd-wybodaeth ar gyfer MI6.[1]

Sefydlodd gymrodoriaeth o dan ei enw ym 1969, gyda chefnogaeth yr hanesydd Raymond Carr (warden Coleg Sant Antwn, Rhydychen ar y pryd), i gefnogi ysgolheigion ifainc oedd am ysgrifennu llyfr Saesneg ar unrhyw faes yn hanes modern ers 1815. Bu derbynnydd y wobr yn treulio blwyddyn yn gweithio gydag academyddion eraill a chyda mynediad at adnoddau ymchwil. Lansiwyd gyrfa sawl hanesydd gan y gymrodoriaeth hon, gan gynnwys Norman Davies, Roy Foster, a Michael Ignatieff. Cyhoeddwyd cyfrol dan olygyddiaeth Horne, Telling Lives, yn 2000 i nodi llwyddiant y cynllun, a honodd mai dyma "menter fwyaf gwerth chweil fy mywyd bron".

Derbyniodd CBE ym 1992 a'r Légion d'honneur ym 1993. Urddwyd ef yn farchog yn 2003 am ei "wasanaethau i'r berthynas Eingl-Ffrengig". Ysgrifennodd ddau gofiant, A Bundle from Britain am ei gyfnod yn yr Unol Daleithiau o 1940 i 1943, a But What Do You Actually Do? am ei "grwydredigaeth lenyddol".[1]

Llyfryddiaeth

golygu
  • The Price of Glory: Verdun 1916 (1962)
  • The Fall of Paris: the Siege and the Commune 1870-71 (1965)
  • To Lose a Battle: France 1940 (1969)
  • A Savage War of Peace (1977)
  • Napoleon: Master of Europe, 1805-1807 (1979)
  • The French Army and Politics, 1870-1970 (1984)
  • Macmillan: the Official Biography (dwy gyfrol, 1988-89)
  • A Bundle from Britain (1993)
  • The Lonely Leader Monty 1944-1945 (1994)
  • Friend or Foe: An Anglo-Saxon History of France (2004)
  • Kissinger 1973, the Crucial Year (2009)
  • But What Do You Actually Do? (2011)

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Sir Alistair Horne obituary, The Guardian (31 Mai 2017). Adalwyd ar 3 Mehefin 2017.