Alpau Morol
Cadwyn o fynyddoedd yn ne-orllewin yr Alpau yw'r Alpau Morol (Ffrangeg: Alpes maritimes, Eidaleg: Alpi Marittime). Mae prif grib y gadwyn yn dynodi'r ffin rhwng Ffrainc (département Alpes-Maritimes) a'r Eidal (Talaith Cuneo), gyda'r rhan fwyaf o'r gadwyn yn gorwedd yn Ffrainc. Mae bwlch mynydd Col de Tende yn gwahanu'r Alpau Morol a'r Alpau Ligwraidd ac mae Bwlch Maddalena yn ei gorwedd rhyngddynt a'r Alpau Cottaidd. Ceir Parc Cenedlaethol Mercantour yn yr Alpau Morol.
Math | alpine subsection |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Piemonte, Liguria, Provence-Alpes-Côte d'Azur |
Gwlad | Ffrainc Yr Eidal |
Uwch y môr | 3,297 metr |
Cyfesurynnau | 44.23139°N 7.17667°E |
Cadwyn fynydd | Maritime Alps and Nice Prealps |
Y gopa uchaf yw Monte Argentera (3297 metr / 10,794 troedfedd).
Llifa sawl afon trwy'r Alpau Morol, yn cynnwys Afon Roya, Afon Var ac Afon Verdon a'u llednentydd ar yr ochr Ffrengig; a'r Stura di Demonte a llednentydd eraill Afon Tanaro ac Afon Po ar yr ochr Eidalaidd.
Copaon
golyguPrif gopaon yr Alpau Morol yw:
Monte Argentera | 3297 m | (10,794 ft) | Mont Ténibre | 3032 m | (9948 ft) | |
Cime du Gélas | 3135 m | (10,286 ft) | Cime de l'Enchastraye | 2955 m | (9695 ft) | |
Monte Matto | 3087 m | (10,128 ft) | Mont Bégo | 2872 m | (9426 ft) | |
Mont Pelat | 3053 m | (10,017 ft) | Mont Mounier | 2818 m | (9246 ft) | |
Mont Clapier | 3046 m | (9994 ft) | Roche de l'Abisse | 2755 m | (9039 ft) |