Roedd Alpes Cottiae yn dalaith o'r Ymerodraeth Rufeinig. Hi oedd y ganol o'r tair talaith fechan yn ardal yr Alpau rhwng Gâl a'r Eidal. Yn y gorllewin roedd yn ffinio â Gallia Narbonensis, gyda talaith Italia i'r dwyrain, Alpes Maritimae i'r de ac Alpes Graiae i'r gogledd. Prifddinas y dalaith oedd Segusio (heddiw Susa yn Piemonte, Yr Eidal). Rhoddir yr enw yr Alpau Cottaidd i'r rhan yma o'r Alpau.

Alpes Cottiae
MathTalaith Rufeinig Edit this on Wikidata
PrifddinasSegusio Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 63 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladFfrainc, yr Eidal Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.016697°N 6.784058°E Edit this on Wikidata
Map
Talaith Alpes Cottiae yn yr Ymerodraeth Rufeinig

Er ei bod yn dalaith fechan roedd o bwysigrwydd strategol, gan ei bod yn amddiffyn y ffyrdd dros yr Alpau rhwng Gâl a'r Eidal, yn cynnwys y Vía Domitia. Enwyd y dalaith ar ôl Cottius, brenin un o lwythau y Liguriaid, oedd yn frenin y diriogaeth dan nawdd Rhufain. Yn y ganrif gyntaf daeth yr ardal yn rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig, gyda Cottius ac yna ei fab yn parhau i lywodraethu. Wedi marwolaeth mab Cottius daeth Alpes Cottiae yn dalaith ecwestraidd yn 64 - 65.

Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC
Achaea | Aegyptus | Affrica | Alpes Cottiae | Alpes Maritimae | Alpes Poenninae | Arabia Petraea | Armenia Inferior | Asia | Assyria | Bithynia | Britannia | Cappadocia | Cilicia | Commagene | Corsica et Sardinia | Creta et Cyrenaica | Cyprus | Dacia | Dalmatia | Epirus | Galatia | Gallia Aquitania | Gallia Belgica | Gallia Lugdunensis | Gallia Narbonensis | Germania Inferior | Germania Superior | Hispania Baetica | Hispania Lusitania | Hispania Tarraconensis | Italia | Iudaea | Lycaonia | Lycia | Macedonia | Mauretania Caesariensis | Mauretania Tingitana | Moesia | Noricum | Numidia | Osroene | Pannonia | Pamphylia | Pisidia | Pontus | Raetia | Sicilia | Sophene | Syria | Thracia