Bugeilgerdd sy'n ddilyniant o gerddi gan y bardd John Ceiriog Hughes (Ceiriog: 1832-1887) yw Alun Mabon. Roedd ymhlith y mwyaf poblogaidd o gerddi'r bardd ac mae rhai ohonynt yn aros yn boblogaidd ac adnabyddus heddiw. Bu'r fugeilgerdd yn fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1861 ac fe'i cyhoeddwyd yn y gyfrol Oriau'r Bore (1862) dan y teitl 'Bugeilgan Delynegol neu Gantawd o Alawon Cenedlaethol Cymru'.

Penillion agoriadol Alun Mabon o "Gwaith Ceiriog", Cyfres y Fil
Gweler hefyd Mabon.

Arwr sy'n cynrychioli'r werin Gymreig yw Alun Mabon. Amaethwr ydyw, yn byw bywyd syml ac iach ar y bryniau. Ceir hanes ei garwriaeth a'i fywyd priodasol yn y cerddi, sy'n delynegol iawn eu naws gan gynrychioli chwaeth y cyfnod. Un o gymhellion Ceiriog oedd gwrthbrofi'r cyhuddiadau enllibus am y Cymry a'r diwylliant Cymraeg a gafwyd yn adroddiad Brad y Llyfrau Gleision.

Ceir 23 o ganeuon a thri 'adroddawd' yn y dilyniant. Yn eu plith ceir 'Cân yr Arad Goch', 'Bugail Aberdyfi', 'Y Gwcw' (Wrth ddychwel tuag adref, /Mi glywais gwcw lon) a'r delyneg enwog 'Aros Mae'r Mynyddau Mawr', gyda'u llinellau enwog am barhad cenedl y Cymry dros y canrifoedd:

Aros mae'r mynyddau mawr
Aros mae'r mynyddau mawr,
Rhuo trostynt mae y gwynt;
Clywir eto gyda'r wawr
Gân bugeiliaid megis cynt.
(toriad)
Wedi oes tymhestlog hir
Alun Mabon mwy nid yw,
Ond mae'r heniaith yn y tir
A'r alawon eto'n fyw.

Defnyddiwyd 'Aros Mae' gan Gwynfor Evans, arweinydd Plaid Cymru, fel teitl ei gyfrol boblogaidd a dylanwadol ar hanes Cymru (Aros Mae, Gwasg John Penry, 1971).

Llyfryddiaeth golygu

Ceir testunau hwylus o 'Aros Mae' a 'Nant y Mynydd' yn Blodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg, gol. Thomas Parry, tud. 381). Mae'r testynau hefyd ar gael ar Wicidestun Gwaith Ceiriog-Nant y Mynydd a Gwaith Ceiriog-Alun Mabon