Llanio

treflan (neu bentrefan) yng Ngheredigion

Treflan ychydig i'r gogledd-orllewin o bentref Llanddewi Brefi, Ceredigion yw Llanio.

Llanio
Pont Llanio (detail) , Ceredigion - geograph.org.uk - 1224707.jpg
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.194898°N 3.988056°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElin Jones (Plaid Cymru)
AS/auBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Bychan yw'r boblogaeth, gyda dim ond ychydig o dai a ffermydd gwasgaredig ger glan Afon Teifi. Fodd bynnag, ceir nifer o hynafiaethau yn yr ardal, yn cynnwys olion caer Rufeinig Caer Llanio gyda vicus a baddondy, a ffordd Rufeinig Sarn Helen. Mae Tomen Llanio yn olion castell mwnt a beili.

Cynrychiolir y pentref yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).[1][2]

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014