Ambrose Philips
Bardd a dramodydd o Loegr oedd Ambrose Philips (bedyddiwyd 9 Hydref 1674 – Mehefin 1749) sydd yn nodedig am ei fugeilgerddi.
Ambrose Philips | |
---|---|
Engrafiad o Ambrose Philips gan arlunydd di-enw o'r 18g | |
Ganwyd | 1674 Amwythig |
Bedyddiwyd | 9 Hydref 1674 |
Bu farw | 18 Mehefin 1749 Vauxhall, Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, gwleidydd, dramodydd, llenor |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Iwerddon |
Plaid Wleidyddol | Chwigiaid |
Ganed yn Amwythig, Swydd Amwythig, yn bedwerydd mab i'r brethynnwr Ambrose Philips (bu farw 1677) a'i wraig Margaret, Brookes gynt (1648–1712) o Sir Drefaldwyn. Am amser hir, credwyd i'w deulu hanu o Swydd Gaerlŷr, wedi i Robert Shiels gam-dybio yn Lives of the Poets (1753) ei fod yn perthyn i Syr Ambrose Philips (bu farw 1706). Yn wir, o Swydd Warwick oedd teulu ei dad. Mynychodd Ysgol Amwythig cyn iddo astudio yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt. Bu'n gymrawd yno o 1699 i 1704. Cyfrannodd Philips gerdd er cof am y Frenhines Mari II i'r gyfrol Lacrymae Cantabrigienses (1695) a gyflwynwyd o Brifysgol Caergrawnt i'r teulu brenhinol. Ym 1700 ysgrifennodd fywgraffiad byr o John Williams, Archesgob Efrog, un o gymwynaswyr Coleg Sant Ioan.[1]
Ym 1705 fe'i comisiynwyd yn gapten-lefftenant yng nghatrawd y troedfilwyr, ac aeth ar ymgyrch i Sbaen yn ystod Rhyfel Olyniaeth Sbaen. Cafodd ei gipio yn sgil Brwydr Almansa (Ebrill 1707), a llwyddodd i ffoi a dychwelyd i Loegr cyn diwedd y flwyddyn. Yn Ionawr 1709 aeth i Ddenmarc fel ysgrifennydd i'r cennad Prydeinig, a bu yn y swydd honno nes diwedd 1710. Mae'n debyg i Philips ysgrifennu ei gasgliad cyntaf o gerddi pan oedd yn gymrawd yng Nghaergrawnt, ond na chawsant eu cyhoeddi nes 1710, yn y gyfrol Pastorals. Yn nechrau 1711, aeth Philips o Ddenmarc i'r Eidal i fod yn diwtor neu warchodwr i Simon Harcourt, mab yr Arglwydd Ganghellor Simon Harcourt. Yn y cyfnod hwn, mae'n bosib i Philips weithio yn ysgrifennydd i'w gyfaill Joseph Addison. Drama enwocaf Philips yw The Distrest Mother (1712), addasiad o Andromaque gan Jean Racine. Am gyfnod byr ym 1714, bu Philips yn diwtor i wyrion y Brenin Siôr I.[1]
Yn Nhachwedd 1724 aeth Philips i Ddulyn yng nghwmni Hugh Boulter, Archesgob Holl Iwerddon. Ym 1727 penodwyd Philips yn geidwad y pwrs gan yr Arglwydd Ganghellor Peter King, a chafodd ei ethol yn aelod seneddol dros Armagh. Eisteddai yn Nhŷ'r Cyffredin Iwerddon am 22 mlynedd, hyd at ei farwolaeth. Methiant a fu ymdrechion Boulter i sicrhau swyddi o fri i Philips, a throdd Philips o'r diwedd at y gyfraith ym 1734, yn 60 oed, gan dderbyn swydd cofrestrydd i'r llys uchelfraint. Ym 1748 casglodd Philips ragor o'i gerddi, gan gynnwys un er cof am y Brenin Wiliam III (1702) ac "Epistle from Utrecht" (1703). Bu farw yn Llundain yn 75 oed, yn nechrau Mehefin 1749. Cafodd ei gladdu ar 4 Mehefin yng Nghapel Grosvenor, Stryd Audley.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Andrew Varney, "Philips, Ambrose (bap. 1674, d. 1749)" yn Oxford Dictionary of National Biography (2007). Adalwyd ar 7 Ionawr 2021.