Aflonyddwr sy'n tarfu ar yr endocrin

(Ailgyfeiriad o Amharydd ar yr endocrin)

Mae aflonyddwyr sy'n tarfu ar endocrin yn gemegau a all ymyrryd â'r systemau endocrin (neu hormonaidd).[1] Gall yr amharu yma achosi tiwmorau canseraidd, namau geni, ac anhwylderau eraill.[2] Mae'r aflonyddwyr hyn i'w canfod mewn llawer o gynhyrchion cartref ac o fewn diwydiant. Ceir enwau eraill ar yr aflonyddwyr hyn gan gynnwys: asiantau hormonaidd gweithredol,[3] cemegau sy'n tarfu ar endocrin,[4] neu gyfansoddion sy'n tarfu ar endocrin,[5] neu o wybod y cyd-destun: aflonyddwyr endocrin.

Cymhariaeth o strwythurau'r hormon estrogen naturiol estradiol (chwith) ac un o'r nonyl-ffenols (dde), aflonyddwr endocrin xenoestrogen

Gallant "ymyrryd â synthesis hormonau, chwarenlifau'r hormonau, cludo, rhwymo, gweithredu, neu ddileu hormonau naturiol y corff. Yr hormonau sy'n gyfrifol am ddatblygiad, ymddygiad, ffrwythlondeb a chynnal homeostasis (metaboledd celloedd arferol)."[6]

Gall unrhyw system yn y corff a reolir gan hormonau gael ei chwalu gan aflonyddwyr yr hormonau (hy yr aflonyddwyr sy'n tarfu ar endocrin). Yn benodol, gall aflonyddwyr sy'n tarfu ar yr endocrin fod yn gysylltiedig â datblygiad anableddau dysgu, anhwylder diffyg canolbwyntio difrifol, problemau gwybyddol a datblygiad yr ymennydd.[7][8][9][10]

Bu cryn ddadlau ynghylch yr aflonyddwyr endocrin hyn, gyda rhai grwpiau’n galw am weithredu cyflym gan reoleiddwyr i’w tynnu o’r farchnad, a rheoleiddwyr a gwyddonwyr eraill yn galw am astudiaeth bellach.[11] Mae rhai aflonyddwyr endocrin wedi'u hadnabod a'u tynnu o'r farchnad (er enghraifft, cyffur o'r enw diethylstilbestrol), ond mae'n ansicr a yw rhai aflonyddwyr endocrin ar y farchnad mewn gwirionedd yn niweidio bodau dynol a bywyd gwyllt ar y dosau cywir. Tynnwyd papur gwyddonol allweddol, a gyhoeddwyd ym 1996 yn y cyfnodolyn Science, a helpodd i lansio symudiad y rhai oedd yn gwrthwynebu'r syniad o aflonyddwyr endocrin, yn ôl o'r wasg, a chanfuwyd bod ei awdur wedi cyflawni camymddwyn gwyddonol.[12]

Mae astudiaethau ar gelloedd ac anifeiliaid labordy wedi dangos y gall aflonyddwyr endocrin achosi effeithiau biolegol andwyol mewn anifeiliaid, a gall lefel isel hefyd achosi effeithiau tebyg mewn bodau dynol.[13] Gall aflonyddwyr endocrin (a dalfyrir drwy sawl gwlad fel EDC) yn yr amgylchedd hefyd fod yn gysylltiedig â phroblemau atgenhedlu ac anffrwythlondeb mewn bywyd gwyllt a gwaharddiadau a chyfyngiadau ar eu defnydd wedi bod yn gysylltiedig â gostyngiad mewn problemau iechyd ac adferiad rhai poblogaethau bywyd gwyllt.

Bathwyd y term aflonyddwr endocrin ym 1991 yng Nghanolfan Gynadledda Wingspread yn Wisconsin. Un o'r papurau cynnar ar y ffenomen oedd gan Theo Colborn yn 1993.[14] Yn y papur hwn, dywedodd fod cemegau amgylcheddol yn amharu ar ddatblygiad y system endocrin, a bod effeithiau amlygiad yn ystod datblygiad plentyn yn aml yn barhaol. Er bod rhai wedi dadlau ynghylch yr aflonyddwyr endocrin,[15] mae sesiynau gwaith o 1992 i 1999 wedi creu consensws gwyddonol ynghylch y perygl.[16][17][18][19][20]

Mae cyfansoddion sy'n tarfu ar yr endocrin yn cwmpasu amrywo ddosbarthiadau cemegol, gan gynnwys cyffuriau, plaladdwyr, cyfansoddion a ddefnyddir yn y diwydiant plastigau ac mewn cynhyrchion defnyddwyr (consumer products), sgil-gynhyrchion diwydiannol a llygryddion, a hyd yn oed rhai cemegau botanegol a gynhyrchir yn naturiol. Mae rhai yn dreiddiol ac wedi'u gwasgaru'n eang yn yr amgylchedd a gallant fiogronni. Mae rhai yn llygryddion organig parhaus (POPs), a allant deithio'n bell ar draws ffiniau cenedlaethol ac maent wedi'u canfod ym mhob rhan o'r byd, ac efallai eu bod yncronni ger Pegwn y Gogledd, oherwydd patrymau tywydd ac amodau oer.[21] Mae eraill yn cael eu diraddio'n gyflym yn yr amgylchedd neu'r corff dynol neu gallant fod yn bresennol am gyfnodau byr yn unig.[22] Mae effeithiau iechyd a briodolir i gyfansoddion sy'n tarfu ar endocrin yn cynnwys ystod o broblemau atgenhedlu (llai o ffrwythlondeb, annormaleddau llwybr atgenhedlu gwrywaidd a benywaidd, a chymarebau rhyw gwryw/benywaidd sgiw, colli ffetws, problemau mislif[23]); newidiadau mewn lefelau hormonau; glasoed cynnar; problemau ymennyddol ac ymddygiad; nam ar swyddogaethau; a chanserau amrywiol. [24]

Un enghraifft o ganlyniadau i anifeiliaid ifanc, gan gynnwys plant ifanc ddod i gyffyrddiad a chyfryngau hormonaidd gweithredol yw'r cyffur diethylstilbestrol (DES), estrogen ansteroidal nad yw'n llygrydd amgylcheddol. Cyn ei wahardd yn gynnar yn y 1970au, presgriptiodd meddygon y cyffur DES i gynifer â phum miliwn o fenywod beichiog i rwystro erthyliad digymell. Darganfuwyd ar ôl i'r plant fynd drwy eu glasoed bod DES wedi effeithio ar ddatblygiad y system atgenhedlu ac wedi achosi canser y wain. Mae perthnasedd saga CCA i'r risg o dod i gysylltiad ag aflonyddwyr endocrin yn amheus, gan fod y dosau dan sylw yn llawer uwch yn yr unigolion hyn nag yn y rhai oherwydd cyswllt amgylcheddol.[25]

Mae bywyd dyfrol sy'n destun aflonyddwch endocrin mewn elifiant trefol wedi rhoi lefelau is o serotonin a mwy o fenyweiddio.[26]

Yn 2013 rhyddhaodd Sefydliad Iechyd y Byd a Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig astudiaeth, sef yr adroddiad mwyaf cynhwysfawr ar EDCs hyd yma, yn galw am fwy o ymchwil i ddeall yn llawn y cysylltiadau rhwng EDCs a'r risg i iechyd bywyd dynol ac anifeiliaid. Tynnodd y tîm sylw at fylchau eang mewn gwybodaeth a galwyd am fwy o ymchwil i gael darlun llawnach o effeithiau iechyd ac amgylcheddol yr amharwyr endocrin. Er mwyn gwella gwybodaeth fyd-eang mae'r tîm wedi argymell:

  • Profi: Dim ond 'blaen y mynydd iâ' yw'r EDCau hysbys ac mae angen dulliau profi mwy cynhwysfawr i nodi amharwyr endocrin eraill posibl, eu ffynonellau.
  • Ymchwil: mae angen mwy o dystiolaeth wyddonol i nodi effeithiau cymysgeddau o EDCs ar bobl a bywyd gwyllt (yn bennaf o sgil-gynhyrchion diwydiannol) y mae bodau dynol a bywyd gwyllt yn dod yn fwyfwy agored iddynt.
  • Adroddiadau: nid yw llawer o ffynonellau EDCs yn hysbys oherwydd adroddiadau a gwybodaeth annigonol am gemegau mewn cynhyrchion, deunyddiau a nwyddau.
  • Cydweithio: gall mwy o rannu data rhwng gwyddonwyr a rhwng gwledydd lenwi bylchau mewn data, yn bennaf mewn gwledydd sy’n datblygu ac economïau sy’n datblygu.[27]

System endocrin

golygu

Mae systemau endocrin i'w cael yn y rhan fwyaf o fathau o anifeiliaid ac mae'n cynnwys chwarennau sy'n secretu hormonau, a derbynyddion sy'n canfod yr hormonau ac yn ymateb iddynt.[28]

Mathau

golygu

Mae pawb yn agored i gemegau ag effeithiau estrogenig yn eu bywyd bob dydd, oherwydd mae cemegau sy'n tarfu ar yr endocrin i'w cael mewn dosau isel mewn miloedd o gynhyrchion. Mae'r cemegau a ganfyddir yn gyffredin mewn pobl yn cynnwys DDT, deuffenylau polyclorinedig (PCBs), bisffenol A (BPA), etherau deuffenyl polybrominedig (PBDEs), ac amrywiaeth o ffthalatau. Mewn gwirionedd, canfuwyd bod bron pob cynnyrch plastig, gan gynnwys y rhai a hysbysebwyd fel rhai "di-BPA", yn trwytholchi cemegau sy'n tarfu ar yr endocrin.[29] Mewn astudiaeth yn 2011, canfuwyd bod rhai cynhyrchion "di-BPA" yn rhyddhau mwy o gemegau gweithredol endocrin na'r cynhyrchion sy'n cynnwys BPA.[30][31] Mathau eraill o aflonyddwyr endocrin yw ffyto-estrogenau (hormonau planhigion).[32]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu

 

Darllen pellach

golygu

Dolenni allanol

golygu
  1. "Endocrine disruptors: from endocrine to metabolic disruption". Annual Review of Physiology 73 (1): 135–162. 2011-03-17. doi:10.1146/annurev-physiol-012110-142200. PMID 21054169.
  2. Staff (2013-06-05). "Endocrine Disruptors". NIEHS.
  3. Krimsky S (December 2001). "An epistemological inquiry into the endocrine disruptor thesis". Ann. N. Y. Acad. Sci. 948 (1): 130–42. Bibcode 2001NYASA.948..130K. doi:10.1111/j.1749-6632.2001.tb03994.x. PMID 11795392.
  4. "Endocrine-disrupting chemicals: an Endocrine Society scientific statement". Endocr. Rev. 30 (4): 293–342. June 2009. doi:10.1210/er.2009-0002. PMC 2726844. PMID 19502515. http://www.endo-society.org/journals/scientificstatements/upload/edc_scientific_statement.pdf. Adalwyd 2009-09-26.
  5. "Endocrine Disrupting Compounds". National Institutes of Health · U.S. Department of Health and Human Services. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-24.
  6. "Environmental endocrine disruption: An effects assessment and analysis". Environ. Health Perspect.. 106 106 (Suppl 1): 11–56. 1998. doi:10.2307/3433911. JSTOR 3433911. PMC 1533291. PMID 9539004. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1533291.
  7. "In utero and childhood polybrominated diphenyl ether (PBDE) exposures and neurodevelopment in the CHAMACOS study". Environmental Health Perspectives 121 (2): 257–62. February 2013. arXiv:6. doi:10.1289/ehp.1205597. PMC 3569691. PMID 23154064. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3569691.
  8. "Exposure to phthalates: reproductive outcome and children health. A review of epidemiological studies". International Journal of Occupational Medicine and Environmental Health 24 (2): 115–41. June 2011. doi:10.2478/s13382-011-0022-2. PMID 21594692.
  9. "Prenatal exposure to bisphenols and cognitive function in children at 7 years of age in the Swedish SELMA study". Environment International 150: 106433. May 2021. arXiv:6. doi:10.1016/j.envint.2021.106433. PMID 33637302.
  10. "Long term transcriptional and behavioral effects in mice developmentally exposed to a mixture of endocrine disruptors associated with delayed human neurodevelopment". Scientific Reports 10 (1): 9367. June 2020. arXiv:6. Bibcode 2020NatSR..10.9367R. doi:10.1038/s41598-020-66379-x. PMC 7283331. PMID 32518293. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7283331.
  11. "The ENDpoiNTs Project: Novel Testing Strategies for Endocrine Disruptors Linked to Developmental Neurotoxicity". International Journal of Molecular Sciences 21 (11): 3978. June 2020. arXiv:6. doi:10.3390/ijms21113978. PMC 7312023. PMID 32492937. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=7312023.
  12. "Findings of scientific misconduct". NIH Guide for Grants and Contracts: NOT-OD-02–003. October 2001. PMC 4259627. PMID 12449946. http://grants.nih.gov/grants/guide/notice-files/NOT-OD-02-003.html.
  13. "Executive Summary" (PDF). Global assessment of the state-of-the-science of endocrine disruptors. International Programme on Chemical Safety, World Health Organization. 2002. Cyrchwyd 2007-02-28. An endocrine disruptor is an exogenous substance or mixture that alters function(s) of the endocrine system and consequently causes adverse health effects in an intact organism, or its progeny, or (sub)populations.
  14. "Developmental effects of endocrine-disrupting chemicals in wildlife and humans". Environ. Health Perspect. 101 (5): 378–84. October 1993. doi:10.2307/3431890. JSTOR 3431890. PMC 1519860. PMID 8080506. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1519860.
  15. Grady D (2010-09-06). "In Feast of Data on BPA Plastic, No Final Answer". The New York Times. A fierce debate has resulted, with some dismissing the whole idea of endocrine disruptors.
  16. "Statement from the Work Session on Chemically-Induced Alterations in Sexual Development: The Wildlife/Human Connection". Chemically-induced alterations in sexual and functional development-- the wildlife/human connection. Princeton, N.J: Princeton Scientific Pub. Co. 1992. tt. 1–8. ISBN 978-0-911131-35-2. Cyrchwyd 2010-09-26.CS1 maint: display-authors (link)
  17. "Statement from the Work Session on Environmentally induced Alterations in Development: A Focus on Wildlife". Environmental Health Perspectives 103 (Suppl 4): 3–5. May 1995. arXiv:6. doi:10.2307/3432404. JSTOR 3432404. PMC 1519268. PMID 17539108. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=1519268.
  18. "Statement from the work session on chemically induced alterations in functional development and reproduction of fishes". Chemically Induced Alterations in Functional Development and Reproduction of Fishes. Society of Environmental Toxicology & Chemist. 1997. tt. 3–8. ISBN 978-1-880611-19-7.CS1 maint: display-authors (link)
  19. "Statement from the work session on environmental endocrine-disrupting chemicals: neural, endocrine, and behavioral effects". Toxicology and Industrial Health 14 (1–2): 1–8. 1998. arXiv:6. doi:10.1177/074823379801400103. PMID 9460166.
  20. "Statement from the Work Session on Health Effects of Contemporary-Use Pesticides: the Wildlife / Human Connection". Toxicol Ind Health 15 (1–2): 1–5. 1999. arXiv:6. doi:10.1191/074823399678846547.
  21. Visser MJ. "Cold, Clear, and Deadly". Cyrchwyd 2012-04-14.
  22. "REPIDISCA-Global assessment of the state-of-the-science of endocrine disruptors". International programme on chemical safety, World Health Organization. 2002. Cyrchwyd 2009-03-14.
  23. "Environmental oestrogens: consequences to human health and wildlife" (PDF). IEH assessment. Medical Research Council, Institute for Environment and Health. 1995. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2011-09-28. Cyrchwyd 2009-03-14.
  24. "EDC Human Effects". e.hormone. Center for Bioenvironmental Research at Tulane and Xavier Universities. Cyrchwyd 2009-03-14.
  25. "Environmental endocrine modulators and human health: an assessment of the biological evidence". Crit. Rev. Toxicol. 28 (2): 109–227. March 1998. doi:10.1080/10408449891344191. PMID 9557209.
  26. Willis IC (2007). Progress in Environmental Research. New York: Nova Publishers. t. 176. ISBN 978-1-60021-618-3.
  27. "State of the science of endocrine disrupting chemicals - 2012". World Health Organization. 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 February 2013. Cyrchwyd 2015-04-06.
  28. "Anatomy of the Endocrine System". John Hopkins Medicine (yn Saesneg). 2019-11-19. Cyrchwyd 2023-04-11.
  29. "Most plastic products release estrogenic chemicals: a potential health problem that can be solved". Environmental Health Perspectives 119 (7): 989–96. July 2011. doi:10.1289/ehp.1003220. PMC 3222987. PMID 21367689. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=3222987.
  30. "Study: Most plastic products trigger estrogen effect". USA Today. 2011-03-07.
  31. "Study: Even "BPA-Free" Plastics Leach Endrocrine-Disrupting Chemicals". Time. 2011-03-08.
  32. "Endocrine Disruptors" (PDF). National Institute of Environmental Health Sciences. May 2010. Cyrchwyd 1 January 014.