Amrywioldeb yr hinsawdd

Newid ym mhatrymau tywydd y Ddaear yw amrywioldeb yr hinsawdd[1][2], dros gyfnod o amser o ddegau i filiynau o flynyddoedd. Gall y term newid hinsawdd gyfeirio at y newid cyfartalog yn y tywydd o ran yr hinsawdd neu'r math o dywydd, er enghraifft mwy neu lai o dywydd eithafol. Rhai o'r ffactorau sy'n achosi'r newid hwn yw newid yn ymbelydredd yr Haul, prosesau biotig, symudiad o fewn y platiau tectonig ac echdoriadau folcanig. Mae gweithgareddau dynol hefyd yn newid yr hinsawdd, a gelwir hyn yn newid hinsawdd neu'n gynhesu byd eang.

Yr Amgylchedd
Yr Amgylchedd

Tywydd
Hinsawdd
Atmosffer y ddaear


Newid hinsawdd Cynhesu byd eang


Categori

Amrywiadau mewn lefelau CO2, tymheredd a llwch oddi wrth sampl ia Vostok dros 400,000 blwyddyn
Ar gyfer y newid hinsawdd diweddar a achoswyd gan ddyn, gweler: newid hinsawdd.

Achosion Naturiol Newid Hinsawdd

golygu

Newidiadau Egni Solar

golygu

Mae'r faint o egni mae'r haul yn allyrru yn amrywio a geometreg y ddaear yn newid i fod yn pellach neu'n agosach i'r haul. Gall ffactorau yma newid patrymau hinsoddol y byd. Gelwir patrymau geometreg y ddaear yn "Gylchoedd Milankovitch".

Mae'r system hinsawdd yn derbyn bron ei holl egni o'r haul a gall y system hinsawdd hefyd daflu'r egni i'r gofod allanol. Mae cydbwysedd egni sy'n dod i mewn ac allan, a threigl yr egni trwy'r system hinsawdd, yn pennu cyllideb ynni'r Ddaear. Pan fo'r egni sy'n dod i mewn yn fwy na'r egni sy'n mynd allan, mae cyllideb ynni'r ddaear yn gadarnhaol ac mae'r system hinsawdd yn cynhesu. Os bydd mwy o egni'n mynd allan, mae'r gyllideb ynni'n negyddol ac mae'r ddaear yn oeri.

Drifft cyfandirol

golygu

O edrych ar y creigiau yng Nghymru a'r DU, mae'n amlwg bod creigiau fel hen dywodfaen coch a mesurau glo wedi ffurfio mewn amgylchiadau trofannol. Gellir egluro hyn trwy derbyn bod drifft cyfandirol wedi digwydd.

Effaith albedo

golygu
Prif: albedo

Gallu i arwynebedd adlewyrchu tonnau golau a gwres yw albedo. Mae gan iâ albedo o 80% ac mae gan borfa albedo o 25%. Mae modd dangos felly bod cynnydd yn y ddaear sydd wedi ei gorchuddio gan eira yn creu amgylchiadau sy'n ffafrio i fwy o eira ymgasglu.

 
Gall newidiadau egni solar effeithio ein hinsawdd

Ceryntau'r môr ac effaith Nino

golygu

Mae hinsoddau'r byd yn cael eu heffeithio gan lwybrau cerrynt morol. Mae hinsawdd tymherus gorllewin Ewrop yn dibynnu ar geryntau cynnes Drifft Gogledd yr Iwerydd. Mae hyn yn digwydd yn gyson o flwyddyn i flwyddyn. Mae effaith El Nino yn dangos beth sy'n digwydd pan mae'r patrwm arferol yn cael ei newid. Mae'r patrymau morol yn y Cefnfor Tawel yn newid tua phob 9 mlynedd. Mae hyn yn effeithio ar dywydd Dwyrain Awstralia a Gorllewin Periw.

Gweithgaredd Folcanig

golygu

Mae nifer o echdoriadau folcanig wedi digwydd ers 1980 sydd yn gael effaith ar y hinsawdd. Pan ffrwydrodd Mynydd St. Helens yn 1980, anfonwyd llawer o ludw a sylffad mân i'r atmosffer. Newidiodd hyn albedo'r ddaear gan adlewyrchu golau'r haul. Effaith hyn oedd gostyngiad yn nhymheredd y ddaear gan 0.1 °C. Yn 1991 ffrwydrodd Pinatubo ar ynysoedd y Philipinau, y digwyddiad mwyaf o'i fath ers dechrau'r ganrif. Aeth tua 5-8 kilomedr ciwbig o lwch i'r awyr gan ymestyn hyd at 24 km uwchben y ddaear. Yn ystod y dyddiau nesaf, gwasgarodd y lludw o amgylch y blaned gyfan. Gostyngodd tymheredd y byd tua 1 °C am hyd at 5 mlynedd. Credir gwyddonwyr gall echdoriad folcanig achosi oes ia arall.

Achosion Dynol Newid Hinsawdd

golygu

Newid llystyfiant

golygu

Mae gan goed gwerth economaidd da, yn enwedig mewn gwledydd llai economaidd ddatblygedig. Mae hyn yn eu rhoi nhw dan bygythiad, ac maent yn diflannu'n gyflym.

 
Mae yna lawer o ddatgoedwigo yn digwydd yn y Goedwig-law Amazonas

Mae coed yn hanfodol, wrth gwrs, gan eu bod yn gymorth i gadw lefelau nwyon (carbon deuocsid ag ocsigen) yn gyson yn yr atmosffer. Mae coed yn ymddwyn fel sinc Carbon deuocsid ac maent yn rhyddhau ocsigen fel sgil gynnyrch. Wrth i ni dorri'r coed yma i lawr rydym yn lleihau'r nifer o adweithiau ffotosynthesis sy'n digwydd ar y ddaear ac felly mae'r tymheredd yn cynyddu.

Ar y llaw arall gall dorri a chymynu coed gael effaith ar gynhesu byd eang. Mae coed yn hanfodol gan eu bod yn gymorth i gadw tymheredd y byd yn gyson. Os oes newid yn nifer a dosbarthiad y coedwigoedd yna bydd tymheredd y byd yn addasu i'r amgylchiadau newydd. Mae gan goed albedo isel ac felly maent yn amsugno mwy o egni'r haul gan gynyddu tymheredd y ddaear. Wrth dorri lawr y coedwigoedd Boreal (ardaloedd oer) yna mae yna fwy o olau yn cael ei adlewyrchu gan yr eira ac felly gostyngir tymheredd y ddaear.

Llygredd

golygu

Gelwir yr effaith mae llygredd (CO2 yn bennaf) yn cael ar ein planed yn Effaith tŷ gwydr. Wrth i ni allyrru symiau enfawr o lygredd i'r atmosffer mae'n creu blanced sy'n ynysu ein planed. Wrth i ni wneud hyn mae tymheredd cymedrol y ddaear yn cynyddu yn raddol iawn.

Effeithiau lleol

golygu

Ers 1941 mae eira cyntaf ar y Carneddau yn disgyn yn hwyrach a'r eira olaf yn diflannu yn gynt yn ôl data a gasglodd Les Larsen[3]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Paratoi ar gyfer hinsawdd sy'n newid" (PDF). Llywodraeth Cymru. Mawrth 2013. Cyrchwyd 2022-10-07. Ymdrin â’r risgiau sy’n gysylltiedig ag amrywioldeb ac eithafion yr hinsawdd bresennol / Address risks associated with today’s climate variability and extremes
  2. "Tywydd eithafol a newid hinsawdd - Prifysgol Aberystwyth". www.aber.ac.uk. Cyrchwyd 2022-10-07. Mae'r ymchwil hwn yn rhan o brosiect ar draws y DG sydd yn ymchwilio i amrywioldeb hanesyddol yr hinsawdd, eithafion tywydd ac ymatebion cymdeithasol. / This research is part of a UK-wide project investigating historical climate variability, weather extremes and social responses.
  3. Bwletin Llên Natur rhifyn 65