Andrea Spendolini-Sirieix
Plymwraig o Brydain Fawr yw Andrea Spendolini-Sirieix (ganwyd 11 Medi 2004). Cafodd ei geni yn Llundain, yn ferch i Fred Sirieix a'i cariad Alex Spendolini.
Andrea Spendolini-Sirieix | |
---|---|
Ganwyd | 11 Medi 2004 Llundain |
Dinasyddiaeth | Y Deyrnas Unedig Ffrainc |
Galwedigaeth | plymiwr |
Tad | Fred Sirieix |
Gwobr/au | Personoliaeth Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn BBC |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Gwnaeth Andrea ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf yn 2018 fel plentyn tair ar ddeg oed, ac enillodd ei medal aur rhyngwladol unigol gyntaf yn Grand Prix Deifio FINA 2020.
Roedd Spendolini-Sirieix yr aelod ieuengaf tîm deifio Team GB yng Ngemau Olympaidd 2020. Yn Tokyo, ac yntau ond yn 16 oed, aeth hi drwy'r rowndiau a chyrhaeddodd rownd derfynol y Gemau Olympaidd yn Llwyfan 10m y Merched, gan orffen yn seithfed yn y pen draw.
Cafodd ei dewis yn Bersonoliaeth Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn y BBC yn 2020.[1] [2]
Ym mis Mai 2021, enillodd Spendolini-Sirieix a Noah Williams fedal arian yn y digwyddiad synchro cymysg 10m ym Mhencampwriaethau Dŵr Ewropeaidd 2020.[3] Enillodd hefyd efydd yn y platfform 10m unigol yn yr un Pencampwriaethau. [4]
Ym mis Awst 2022, enillodd ddwy fedal aur, ym mhlatfform 10m y Merched a llwyfan 10m Synchro Cymysg gyda Noah Williams,[5] a medal arian ym mhlatfform 10m Synchro Merched gydag Eden Cheng, yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham.[6]
Ym mis Gorffennaf 2023 enillodd medal arian ym Mhencampwriaethau Dŵr y Byd 2023 yn synchro 10m y Merched gyda Lois Toulson.[7] Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2024, ennillodd fedal efydd yn synchro 10m y Merched gyda Lois Toulson hefyd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Myers, Rebecca (20 Rhagfyr 2020). "From high board to high heels for Andrea Spendolini-Sirieix". The Times (yn Saesneg). London.
- ↑ "Young Sports Personality 2022: Sky Brown, Jessica Gadirova & Andrea Spendolini-Sirieix on shortlist". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Rhagfyr 2022.
- ↑ "williams and spendolini-sirieix score synchro silver". British Swimming (yn Saesneg). 10 Mai 2021.
- ↑ Hope, Nick (13 Mai 2021). "European Diving Championships: Andrea Spendolini-Sirieix wins second medal". BBC Sport (yn Saesneg).
- ↑ "Andrea Spendolini-Sirieix". British Swimming (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Awst 2022.
- ↑ "Diver Spendolini-Sirieix was 'close to quitting'". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Medi 2022.
- ↑ "History makers Lois and Andrea secure synchro silver". British Swimming (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2023.