Aneurin Jones

arlunydd

Artist o Gymro oedd Aneurin M. Jones (193025 Medi 2017) a gafodd ei eni yn ardal Y Mynydd Du, Sir Gaerfyrddin.[1] Roedd yn hoff iawn o dynnu lluniau o olygfeydd cefn gwlad, ac yn benodol, mannau lle mae cymeriadau cefn gwlad yn ymgynnull megis arwerthiannau, sioeau a threialon cŵn defaid. Roedd yn arlunio llawer o geffylau hefyd.

Aneurin Jones
Ganwyd1930 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw25 Medi 2017 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.aneurinjones.co.uk/ Edit this on Wikidata

Ei fywyd a'i waith golygu

 
Llun "Treialon Cŵn Defaid" gan Aneurin Jones

Ganwyd Aneurin yn fab i ffermwr yng nghymuned wledig Cwm Wysg, ar y ffin rhwng siroedd Brycheiniog a Chaerfyrddin. Parhaodd a'i addysg yng Ngholeg Celf Abertawe lle'r astudiodd Celf Gain rhwng 1950 ac 1955[1]. Ar ôl iddo raddio, treuliodd ddwy flynedd yn gweithio i Celtic Studios, yn gweithio ar wydr lliw. Rhwng 1958 a'i ymddeoliad yn 1986, bu'n Bennaeth yr Adran Gelf yn Ysgol y Preseli, Crymych, Sir Benfro.

Roedd ei waith wedi'i arddangos yn rheolaidd yn yr Eisteddfod Genedlaethol a phan oedd yn fyfyriwr yn 1954, derbyniodd y wobr aur yn rownd derfynol y gystadleuaeth agored[2]. Yn 1974, cafodd ei wahodd i arddangos ei waith yn Arddangosfa Hawkmoor a oedd yn dangos bywyd ac hanesion Twm Sion Cati. Bedair blynedd yn ddiweddarach, yn 1978, derbyniodd Wobr Cymdeithas y Rotari am ei wasanaethau i fyd Celf. Yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth 1981 derbyniodd y brif wobr ar gyfer artistiaid a anwyd neu sy'n byw yng Nghymru. Yn 1983, cafodd ei luniau eu cynnwys mewn llyfr yn seiliedig ar waith 15 o artistiaid amlycaf Cymru.[2]

Bywyd personol golygu

Roedd Aneurin yn briod gyda Julie ac roedd ganddynt ddau o blant, Meinir a Meirion, sydd hefyd yn artist. Roedd yn byw yn ardal Aberteifi, Ceredigion hyd ei farwolaeth yn 2017.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Gwefan Attic Gallery Archifwyd 2016-06-16 yn y Peiriant Wayback. Cyrchwyd ar 28 Chwefror 2014
  2. 2.0 2.1 Gwefan s4c Bywgraffiad o Aneurin Jones. cyrchwyd ar 28 Chwefror 2014
  3. Marw artist cefn gwlad a’r cob, Aneurin Jones , Golwg360, 25 Medi 2017.

Dolenni allanol golygu