Mynydd Du (Mynwy)

cadwyn bryniau
(Ailgyfeiriad o Y Mynydd Du)

Mae'r Mynydd Du (weithiau 'Y Mynyddoedd Duon') yn gadwyn o fryniau yn ne-ddwyrain Cymru; gorwedd y rhan fwyaf o'r bryniau ym Mhowys a gogledd Sir Fynwy, ond mae rhan yn gorwedd yn Swydd Henffordd yn ogystal. Ffurfiant y mwyaf dwyreiniol o'r tri grŵp o fryniau sy'n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog; ni ddylid eu cymysgu â'r grŵp mwyaf gorllewinol a elwir yn Fynydd Du na'r copa o'r enw Twyn Llech a elwir yn 'Black Mountain' yn Saesneg. Gellir eu diffinio fel y bryniau sy'n gorwedd i'r gogledd o'r Fenni, i'r de o'r Gelli Gandryll, i'r dwyrain o lôn yr A479 (cwm Rhiangoll) ac i'r gorllewin o'r ffin â Lloegr. Ymlwybra Llwybr Clawdd Offa ar hyd y ffin ar eu hymyl dwyreiniol.

Bryniau Duon
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymru Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.953384°N 3.141264°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion
Am y Mynydd Du yn Sir Gaerfyrddin, gweler Mynydd Du (Sir Gaerfyrddin).
Golygfa o Grug Hywel ar gwm Grwyne Fechan yn y Mynydd Du

'Mynydd-dir' yw ystyr 'mynydd' yn yr enw 'Mynydd Du'.[1] Gwelir weithiau y ffurf 'Mynyddoedd Duon' (gan gynnwys ar fapiau'r Arolwg Ordnans). Ond cyfieithiad yw hynny o'r enw Saesneg 'Black Mountains' ac nid oes iddo sail hanesyddol.[2]

Copaon

golygu

Waun Fach (811 m) yw'r mynydd uchaf; mae bryniau eraill yn cynnwys Pen y Gadair Fawr, Pen-y-fâl, Ysgyryd Fawr, Mynydd Troed, Craig Syfyrddin, Allt yr Esgair, Myarth, Mynydd Llangors, Bryn Arw, Penybegwn, a Thwyn Llech.

Pentrefi

golygu

Ychydig iawn o bentrefi a geir yn yr ardal fynyddig hon. Roedd hostel ieuenctid adnabyddus yng Nghapel-y-ffin, ond mae bellach wedi cau.

Hynafiaethau

golygu

Mae'r hynafiaethau yn cynnwys Priordy Llanddewi Nant Hodni, castell Tretŵr, y bryngaer o Oes yr Haearn ar Grug Hywel, a Castell Dinas (11g - 13g).

Y Gymraeg

golygu

Er bod yr ardal hon yn croesi'r ffin, clywid y Gymraeg yno tan yn gymharol ddiweddar. Pan aeth J. E. Southall ar daith o gwmpas Cymru ym 1892, darganfuwyd bod yr iaith wedi darfod yn Swydd Henffordd tua'r 1880au ond fe gyfarfu Southall â ffarmwr tua 40 oed a oedd yn gallu siarad tipyn bach. Wedi hynny fe aeth i bentre Cwm-iou lle siaradodd Gymraeg â pherchennog y tafarn, ond fe ddywedodd y perchennog nad oedd llawer o Gymraeg ar ôl yn y pentre. Aeth ymhellach lan Cwm Ewias nes cyrhaeddodd bentre Llanddewi Nant Hodni (efallai 'Llantoni' ar lafar) lle medrai pawb dros 50 siarad yr iaith.

Yn ogystal â hynny, aeth T. J. Morgan i gwm Grwyne Fechan ym 1939 lle recordiodd siaradwyr olaf yr ardal.

Ffuglen

golygu

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Geiriadur Prifysgol Cymru d.g. 'mynydd'.
  2. Hywel Wyn Owen a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Gwasg Gomer, 2007), t. 34.