Anewra blonegog

rhywogaeth o fyd planhigion: un o lysiau’r afu
Anewra blonegog
Aneura pinguis

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Marchantiophyta
Dosbarth: Jungermanniopsida
Urdd: Metzgeriales
Teulu: Aneuraceae
Genws: Aneura
Rhywogaeth: A. pinguis
Enw deuenwol
Aneura pinguis

Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Anewra blonegog (enw gwyddonol: Aneura pinguis; enw Saesneg: greasewort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Metzgeriales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.

Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru.

Disgrifiad golygu

Mae'r Anewra blonegog yn edrych yn seimllyd ac yn wyrdd, ac felly'n ddigon hawdd i'w hadnabod. Gall amrywio'n fawr o ran maint. Mae'r thali bach yn llai nag 1 cm o hyd, tra gall y rhai fwyaf fod yn 8 cm neu fwy. Mae pob thalws yn drwchus a cheir organau rhywiol ar ochrau'r thali, mae sboroffytau silindrog hefyd yn gyffredin.[1]

Gellir ei gangymryd yn ddigon hawdd am y Saetslys canghennog (Riccardia multifida), ond mae ei liw gwyrdd, fel arfer, yn ddigon o gliw i'w adnabod gan fod y Saetslys canghennog yn frown-wyrdd, tywyllach.

Cynefin golygu

Ei gynefin fel rheol yw mannau tamp, ond mae hefyd i'w gael mewn hen chwareli, ar lwybrau o ro mân, a llefydd diffaith fel ochrau ffyrdd bychan. Mae'r planhigion mwyaf, fodd bynnag, i'w cael mewn coedwigoedd, yn enwedig ar bren marw.

Llysiau'r afu golygu

Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.

Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.

  Safonwyd yr enw Anewra blonegog gan un o brosiectau  . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.

Cyfeiriadau golygu

  1. rbg-web2.rbge.org.uk; adalwyd 3 Mai 2019.
  2. Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.