Anialwch yr Atacama

Llwyfandir yn Ne America yw Anialwch yr Atacama. Mae'n cwmpasu stribed 1,000 km ar hyd arfordir y môr Tawel ag arfordir gorllewinol mynyddoedd yr Andes. Hwn yw'r anialwch di-begynnol sychaf yn y byd.[1][2][3][4] Yn ôl amcangyfrifon, mae Anialwch yr Atacama yn 105,000 km sgwâr (41,000 millitir sgwâr)[5] neu os ychwanegir llethrau hesb isaf yr Andes, 128,000 km sgwâr (49,000 milltir sgwâr).[6] Mae'r rhan fwyaf o'r anialwch yn cynnwys tir caregog, llynnoedd halen (salares), tywod, a lafa ffelsitaidd sy'n llifo tuag at yr Andes.

Anialwch yr Atacama
Mathanialwch, WWF ecoregion Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPacific desert Edit this on Wikidata
GwladTsile Edit this on Wikidata
Arwynebedd105,000 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr2,657 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaPuna Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau24.5°S 69.25°W Edit this on Wikidata
Map

Yn ddaearyddol, gellir egluro sychder yr Atacama gan ei fod yn cael ei leoli rhwng dau o gadwynni mynyddoedd: yr Andes â Chadwyn Arfordirol Tsile  o uchder digonol i atal llorfudo lleithder o naill ai'r Môr Tawel neu'r Iwerydd, cysgod glaw dwy-ochrog.[7]

Lleoliad

golygu

Yn ôl y World Wide Fund for Nature, mae eco-ranbarth Anialwch yr Atacama'n meddiannu stribed parhaus o dir bron i 1,600 km o hyd ar hyd arfordir cul traean ogleddol Tsile, o Arica (18°24' De) tua'r de yn agos at La Serena (29°55' De).[8] Ystyria'r National Geographic Society yr ardal arfordirol yn ne Periw hefyd i fod yn rhan o Anialwch yr Atacama [9][10] yn o gystal â anialychau i'r de o Ranbarth yr Ica (Ica Region) ym Mheriw.

Mae Periw yn ei ffinio yn y gogledd, ac eco-ranbarth Tsile Matorral  yn ei ffinio i'r de. I'r dwyrain gorweddai eco-ranbarth sych 'puna' (llwyfandir uchel di-goed) yr Andes Ganolog sydd yn llai cras. Mae'r ardal sychach yma o'r eco-ranbarth wedi ei leoli i'r de o Afon Loa  rhwng y  Sierra Vicunas Mackenna a Cordillera Domeyko sy'n gyfochrog â'u gilydd. I'r gogledd o Loa yn mae'r  Pampa del Tamarugal.

Prif nodded topograffig yr arfordir yma yw'r Clogwyni Arfordirol yng ngogledd Tsile i'r gorllewin o Gadwyn Arfordirol Tsile.[11] Mae geomorffoleg Anialwch yr Atacama  wedi cael ei nodweddu fel mainc isel "yn debyg i deras dyrchafedig enfawr" gan Armijo et al.[12] Mae'r Iseldir Ganolradd (neu Dyffryn Canolog) yn ffurfio cyfres o fasnau endorhëig mewn llawer o'r anialwch i'r de o ledred 19°30' De. I'r gogledd o'r lledred hyn, gwagiai'r Iseldar Ganolradd i'r Môr Tawel.[13]

Hinsawdd

golygu
 
Eira yn Arsyllfa Paranal Observatory hyd at 2,600 masl.[14]

Er mai bron diffyg unryw wlybaniaeth yw brif nodwedd  Anialwch yr Atacama, gall eithriadau ddigwydd. Ym mis Gorffennaf 2011, fe dorrodd ffrynt oer eithafol o'r Antartig drwy'r cysgod glaw, gan ddod â 80 cm (31 mod) o eira ar y llwyfandir, gan greu anhwyster i breswylwyr ar draws y rhanbarth, yn enwedig ym Molifia, lle cafodd llawer o yrrwyr eu dal mewn drifftiau o eira. Cafodd nifer o aelodau'r gwasanaethau brys eu gorweithio oherwydd y pwysau anarferol ar alwadau i achub bywydau.[15]

Yn 2012,  daeth gaeaf yr altiplano ("gwastadedd uchel" yn Sbaeneg) â llifogydd i San Pedro de Atacama.[16][17]

Ar Fawrth 25, 2015, effeithiodd glaw trwm ar y rhan ddeheuol o Anialwch yr  Atacama.[18][19] O ganlyniad llifogydd, sbardunwyd lleidlifoedd a effeithiodd ar  ddinasoedd  Copiapo, Tierra Amarilla, Chanaral, a Diego de Almagro, gan ladd tros gant o bobl.

Sychder

golygu
 
Ardal wastad o'r Anialwch yr Atacama  rhwng Antofagasta a Taltal

Mae Anialwch yr Atacama yn cael ei adnabod  yn gyffredin fel y man  sychaf  di-begynnol yn y byd, yn arbennig o amgylch tref gwag  Yungay dref[20] (yn Antofagasta Rhanbarth, Tsile).[21] Mae'r glawiad cyfartalog yn tua 15 mm (0.6 mod) y flwyddyn,[22] er bod rhai lleoliadau, megis Arica a Iquique, yn derbyn 1 i 3mm (0.04 i 0.12 modfedd) mewn blwyddyn.1 to 3 mm (0.039 to 0.118 mod).[23] Yn o gystal a hynny, mae rhai gorsafoedd tywydd yn yr Atacama lle does dim galw erioed wedi syrthio. Mae cyfnodau o hyd at bedair blynedd wedi cael eu cofrestru gyda dim glaw yn y rhanbarth ganolog, wedi ei amffinio gan ddinasoedd  Antofagasta, Calama a Copiapó, yn Tsile. Mae tystiolaeth yn awgrymu efallai na chafwyd unryw lawiad sylweddol yn yr Atacama  rhwng 1570 a 1971.

 
Asyn gwyllt yn yr Atacama.

Gall Anialwch yr Atacama fod yr anialwch hynaf ar y ddaear, ac mae wedi profi eithafol gorsychder am o leiaf 3 miliwn o flynyddoedd, gan ei wneud yn y man cras mwyaf parhaus ar y ddaear. Mae hanes hir o sychder, yn codi'r posibilrwydd bod mwneiddiad dyddodedig, dan amodau priodol, yn gallu ffurfio mewn amgylcheddau cras, yn hytrach nac angen amodau llaith.[24] Mae ymchwil daearegol yn awgrymu mewn rhai rhannau o'r Atacama, fel yn Tsile'n bresennol, mae gorsychder  wedi parhau am y 200 miliwn blwyddyn dweuthaf (ers y Oes y Triasig), yn cystadlu'n unig gyda Anialwch y Namib, Affrica ar gyfer y fath teitl.

Mae'r Atacama mor cras fel bod nifer o'r mynyddoedd yno'n uwch na 6,000 m (20,000 tr) yn hollol absennol o rewlifoedd. Dim ond y copaon uchaf (er enghraifft Ojos del Salado, Monte Pissis, a Llullaillaco) sydd gyda rhywfaint o eira parhaol.

Mae rhan deheuol yr anialwch, rhwng 25 a 27°De, wedi bod heb rhewlifoedd  drwy gydol y Cwaternaidd (gan gynnwys yn ystod rhewlifiannau), er bod  rhew parhaol yn ymestyn i lawr i uchder o 4,400 m (14,400 tr) ac yn barhaus uwch 5,600 m (18,400 tr). Mae astudiaethau gan grŵp o wyddonwyr Prydeinig wedi awgrymu bod rhai gwelyau afonydd wedi bod yn sych am 120,000 o flynyddoedd.[25] Fodd bynnag, mae rhai lleoliadau yn yr Atacama yn cael niwl morwrol a adwaenir yn lleol fel y camanchaca, yn darparu digon o leithder ar gyfer  algâu, cenau hypolithig  a hyd yn oed rhywfaint o'r cacti—y genws Copiapoa sydd yn nodedig ymhlith y rhain.

Yn ddaearyddol, gall egluro sychder yr Atacama gan ei fod wedi ei lleoli rhwng dau gadwyn mynyddig (yr Andes â Chadwyn Arfordirol Tsile) o uchder digonol i atal llorfudiad lleithder o naill ai'r Môr Tawel neu'r  Iwerydd, cysgod glaw dwy-ochrog.

Cymhariaeth â Mawrth

golygu
 
Mae diffyg o leithder, glaw a llygredd golau gyda'i gilydd yn cynhyrchu tirwedd llychlyd, creigiog.[26]

Mewn rhanbarth tua 100 km (60 mi) i'r de o Antofagasta, sef cyfartaledd 3,000 m (10,000 tr) o uchder, mae'r pridd wedi cael ei gymharu â bod o'r blaned Mawrth/ Mars. Oherwydd ei ymddangosiad arallfydol, mae'r Atacama wedi cael ei ddefnyddio fel lleoliad ar gyfer ffilmio golygfeydd o Fawrth, yn fwyaf nodedig yn y gyfres deledu Odyssey Space: Voyage to the Planets.

Yn 2003, cyhoeddwyd archwiliad gan dîm o ymchwilwyr yng nghylchgrawn Science lle aethynt i dyblygu'r profion a ddefnyddwyd gan lanwyr Mawrth Viking 1 a Viking 2  i ganged bywyd yno, a methant i ganfod unrhyw arwyddion bywyd ym mhridd Anialwch yr Atacama yn rhanbarth Yungay.[27] Gall  y rhanbarth fod yn unigryw ar y Ddaear yn hyn o beth, ac mae'n cael ei ddefnyddio gan NASA i brofi offerynnau prawf ar gyfer teithiau'n y dyfodol i blaned Mawrth. Dyblygodd y tîm y profion Viking mewn amgylcheddau tebyg i Fawrth yma ar y Ddaear  a gwelsant  eu bod yn colli arwyddion o fywyd  mewn samplau pridd o'r Gymoedd Sych Antarctig, Anialwch yr Atacama, Tsile a Pheriw, ac lleoliadau eraill. Fodd bynnag, yn 2014, adroddwyd ar ardal o gor-sychder newydd, María Elena De, a oedd yn llawer sychach na Yungay, ac felly, yn lleoliad gwell i ail-gynhyrchu amgylchedd tebyg i wyneb y blaned Mawrth.[28]

Yn 2008, canfu'r Phoenix Mars Lander percloradau/ perchlorates ar wyneb y blaned Mawrth ar yr un safle lle cafwyd dŵr yn ei ddarganfod yn gyntaf.[29] Caiff percloradau hefyd  yn yr Atacama ac mae adneuon nitrad yn gysylltiedig nitrad adneuon wedi cynnwys organnau naturiol, gan arwain at ddyfalu bod arwyddion o fywyd ar blaned Mawrth ddim  yn anghydnaws â percloradau. Mae'r Atacama hefyd yn cael ei ddefnyddio fel safle-profi gan  NASA ar gyfer y Rhaglen Canfod Ogofau Daear-Mawrth.[30]

Fflora

golygu
 
Mae adegau prin o law'n achosi ffenomena blodeuo anialwch yn ardal ddeheuol  Anialwch yr Atacama.

Er gwaethaf yr amodau daearyddol a hinsoddol yr anialwch,  mae amrywiaeth gyfoethog o blanhigion wedi datblygu yno. Mae tros 500 o rywogaethau wedi cael eu nodi o fewn cyffiniau'r anialwch yma. Nodweddir y  rhywogaethau hyn  gan eu gallu rhyfeddol i addasu i amgylchedd ethanol.[31] Y rhywogaeth mwyaf cyffredin yw perlysiau a blodau megis teim, llareta, a glaswellt morfa (Distichlis spicata) a, lle mae lleithder yn ddigonol, coed fel y chañar (Geoffroea decorticans), coeden pimiento, ag algarrobo deiliog (Prosopis chilensis).

 
Llystyfiant ym Mharc Cenedlaethol Pan de Azúcar ar  arfordir yr Atacama.

Y llareta yw un o'r rywogaethau coed mwyaf uchaf-dyfu'r byd. Ceir hyd iddo ar dir rhwng uchder 3,000 a 5,000m.Mae ei ffurf trwchus yn debyg i glustog 3 i 4 medr o drwch. Mae'n dwysáu ac yn cadw gwres y dydd i ymdopi gyda thymheredd isel y noson. Mae cyfradd twf y llareta yn ddiweddar wedi ei amcangyfrif i fod tua 1.5 cm y flwyddyn, sydd yn gwneud llawer o llaretas tros 3,000 o flynyddoedd oed. Mae'n cynhyrchu resin gwerthfawr iawn. Ar un pryd roedd y diwydiant mwyngloddio  yn ei gynaeafu yn ddiwahân fel tanwydd, yn gwneud y planhigyn hwn sydd mewn perygl.

Mae'r anialwch hefyd yn gartref i gacti, suddlon, a phlanhigion eraill sy'n ffynnu mewn hinsawdd sych. Mae  rhywogaethau cactws yma'n cynnwys y candelabro (Browningia candelaris) a cardon (Echinopsis atacamensis), a gall gyrraedd uchder o 7 m (23 tr) a diamedr o 70 cm (28 mod).

Mae BlodynYr Atacama (sbaeneg: desierto florido) i'w weld o fis Medi i fis Tachwedd mewn blynddoedd pan fu digonedd o wlybaniaeth, fel a digwyddodd yn 2015.

Ffawna

golygu
 
Adar y fflam yn Salar de Atacama

Mae hinsawdd   Anialwch yr Atacama yn cyfyngu ar y nifer o anifeiliaid sy'n byw yn barhaol yn yr ecosystem eithafol. Mae rhai rhannau o'r anialwch mor sych, fel nad oes unrhyw blanhigion neu anifeiliaid yn medru goroesi yno. Y tu allan i'r ardaloedd eithafol hyn, mae sioncyn-y-gwair/ceiliogod rhedyn tywod-liw'n ymdoddi â cherrig mân ar lawr yr anialwch, ac mae child  â'u larfa yn darparu ffynhonnell werthfawr o fwyd yn y lomas (bryniau). Mae cacynnod yr anialwch  a gloÿnnod byw i'w gweld yn ystod y tymor llaith a chynnes, yn enwedig ar y lomas, yma hefyd ceir sgorpionau coch. 

 
Liolaemus nitidus, madfall frodorol i ardal ddeheuol yr Atacama

Mae amgylchedd unigryw yn cael ei ddarparu gan rai lomas, lle mae niwl o'r môr yn darparu digon o leithder ar gyfer planhigion tymhorol ac ychydig o rywogaethau o anifeiliaid. Yn rhyfeddol iawn dim ond ychydig o rywogaethau o ymlusgiaid sydd yn byw yn yr anialwch, a hyd yn oed llai rywogaethau o amffibiaid.Mae'r  Chaunus atacamensis,  neu broga Vallenar/Atacama, yn byw ar y lomas, ble mae'n nhw'n dodwy wyau mewn pyllau parhaol neu nentydd. Mae Igwanaod a madfallod lafa yn byw yn rhannau o'r anialwch, tra bod madfallod  gwastadedd halen, y Liolaemus, yn byw yn yr ardaloedd sych sy'n ffinio â'r cefnfor.[32] Mae un rhywogaeth, Liolaemus fabiani, yn endemig i Salar de Atacama, Gwastadedd Halen yr Atacama.[33]

Adar ,yn ôl pob tebyg yw'r grŵp mwyaf o anifeiliaid  yn yr Atacama. Mae pengwiniaid Humboldt yn byw drwy gydol y flwyddyn ar hyd yr arfordir, yn nythu mewn clogwyni anialwch  sy'n edrych allan dros y môr. Ar wastadeddau halen y  ger y môr Tawel ac yn fewndirol, mae Adar y Fflam yr Andes/ Andes fflamingos yn heidio i fwyta algae. Mae adar eraill (gan gynnwys rhywogaethau o adar y si/ hummingbirds ac adar y to) yn ymweld â'r lomas yn dymhorol i fwydo ar bryfed, neithdar, hadau, a blodau. Gall y lomas helpu i gynnal nifer o rywogaethau dan fygythiad, megis y Seren goed Chile.

Oherwydd sychder eithafol yr anialwch, dim ond ychydig o rywogaethau o famaliaid sydd wedi medru addasu'n arbennig i fyw yn yr Atacama, megis Llygoden Deil-glustiog Darwin. Mewn ardaloedd llai  sych o'r anialwch fe geir LLwynog Llwyd De America  a'r viscacha (perthynas y chinchilla). Mae anifeiliaid mwy, fel guanacos a vicuñas, yn pori mewn ardaloedd lle mae glaswellt yn tyfu, yn bennaf oherwydd am ei fod yn cael ei ddyfrhau'n dymhorol  gan eira sydd wedi toddi. Mae anifeiliaid mwy megis y Vicuñas angen i aros yn agos i gyflenwad cyson o ddŵr, tra gall y guanacos grwydro i mwy i mewn i ardaloedd sychach a goroesi yn hirach heb ddŵr croyw. Mae morloi a llewod môr yn aml yn ymgasglu ar hyd yr arfordir.

 Presenoldeb dynion

golygu
 
Golygfa o Chuquicamata, mwynglawdd copr enfawr sy'n eiddo i'r wladwriaeth.

Mae poblogaeth yr Atacama yn wasgaredig iawn, gyda'r rhan fwyaf o drefi wedi'u lleoli ar hyd arfordir y Môr Tawel.[34] Yn yr ardaloedd mewnol, mae gwerddonau a rhai  cymoedd wedi cael eu poblogi ers miloedd o flynyddoedd a lle roedd lleoliad  cymdeithasau mwyaf datblygedig Cyn-Columbiaidd yn Tsile.

Diwylliant Chinchorro 

golygu

Datblygodd diwylliant y Chinchorro yn ardal  Anialwch yr Atacama o 7,000 i 1,500 CC. Roedd  rhain yn gymuned o bysgotwyr sefydlog yn byw yn bennaf mewn ardaloedd arfordirol. Mae eu presenoldeb heddiw yw canfod yn nhrefi Ilo, yn ne Periw, i Antofagasta yng ngogledd Tsile. Roedd presenoldeb o ddŵr croyw yn rhanbarth yr arfordir yn hwyluso anheddiad dynol yn yr ardaloedd hyn. Roedd y Chinchorro yn enwog am eu mymeiddio ac arferion angladdol.[35]

Yn ddiweddarach, profodd gwerddonau'r Atacama fawr ddim tŵf mewn poblogaeth na datblygiadau trefol. Yn ystod yr 20g mae gwrthdaro dros adnoddau dŵr yn y dinasoedd arfordirol a'r diwydiant mwyngloddio.

Mae tref San Pedro de Atacama, tua 2,400 metr (8,000 tr) o uchder, fel llawer o drefi bach yr ardal. Cyn ymerodraeth yr Inca  a chyn dyfodiad y Sbaenwyr, llwyth yr Atacameño oedd yn byw o fewn y sychdir diffaith yma.llwyth. Mae'nt yn nodedeig am adeiladu eu trefi caerog o'r emw  pucarás, mae un o'r rhain wedi ei leoli ychydig gilomedrau o San Pedro de Atacama. Adeiladwyd eglwys y dref gan y Sbaenwyr yn 1577.

Sefydlodd dinasoedd yr arfordir yn wreiddiol yn yr 16eg ganrif, yr 17eg, a'r 18eg yn ystod amser yr Ymerodraeth Sbaeneg pan y daethant i'r amlwg fel porthladdoedd llongau arian a gynhyrchwyd yn Potosí a chanolfannau mwyngloddio eraill. Yn ystod y 19eg ganrif daeth yr anialwch o dan reolaeth Bolifia, Tsile, ac Pheriw. Gyda'r darganfyddiad o adneuon sodiwm nitrad  ac fel canlyniad o ffiniau gwleidyddol aneglur yn yr ardal, daeth gwrthdaro a arweiniodd at y Rhyfel y Môr Tawel. Atododd Tsile y rhan fwyaf o'r anialwch, a datblygodd  y dinasoedd arfordirol i fod yn borthladdoedd rhyngwladol, gan gynnal llawer o Tsile weithwyr Tsile a ymfudodd yno.[36][37][38]

Gyda'r twf o guano a solpitar yn y 19eg ganrif tyfodd y boblogaeth yn fawr iawn, yn bennaf o ganlyniad i fewnfudo o ganol Tsile. Yn yr 20g bu dirywiad yn niwydiant y nitrad ac ar yr un pryd daeth boblogaeth yr anialwch a oedd yn rhan helaeth yn ddynion yn fwyfwy o broblem i wladwriaeth Tsile. Daeth gwrthdaro rhwng glowyr a chwmnïau mwyngloddio, a lledaennodd  protestiadau ledled y rhanbarth.

Trefi mwyngloddio nitrad gwag.

golygu

Mae gan yr anialwch  ddyddodion cyfoethog o goprmyna  eraill a chyflenwad maya'r byd o mwyaf  o sodiwm nitrad a arferid gael ei gloddio ar raddfa fawr hyd at y 1940au cynnar. Dechreuodd Anghydfod Ffin yr Atacama tros yr adnoddau hyn rhwng Tsile a Bolifia yn y 19g, a dilynnodd hyn at Ryfel y Môr Tawel.[angen ffynhonnell]

Mae'r anialwch yn frith o tua 170 o drefi mwyngloddio  nitrad (neu "solpitar") gwag,  bron pob un ohonynt wedi eu cau i lawr y degawdau ar ôl i nitrad synthetig gael ei ddyfeisio'n yr Almaen ar droad yr 20g (gweler broses Haber).[angen ffynhonnell] Mae'r cyn- dress hyn yn cynnwys Chacabuco, Humberstone, Santa Laura, Pedro de Valdivia, Puelma, María Elena, a Oficina Anita.[angen ffynhonnell]

Mae Anialwch yr Atacama yn gyfoethog mewn adnoddau mwynol metelig fel copr, aur, arian, a haearn yn ogystal â mwynau anfetelaidd gan gynnwys dyddodion pwysig o boron, lithiwm, sodiwm nitrad a halwynau photasiwm. Mae Salar de Atacama yn le lle mae bischofite yn cael ei dynnu.[angen ffynhonnell] Mae'r adnoddau hyn yn cael eu manteisio ar gan wahanol gwmnïau mwyngloddio fel Codelco, Lomas Bayas, Mantos Blancos, a Soquimich.[39][40]

Arsyllfeydd seryddol

golygu
 
ALMA a chanol y Llwybr Llaethog[41]

Oherwydd ei uchder uchel, bron nad ydy  gorchudd cwmwl yn bodoli, gydag aer sych, a diffyg llygredd golau ac  ymyrraeth radio gan ddinasoedd a threfi poblog, mae'r anialwch yma'n un o'r llefydd gorau yn y byd i gynnal arsylwadau seryddol.[42][43] Mae Arsyllfa Deheuol Ewropeaidd yn gweithredu dau brif arsyllfa'n yr Atacama:

  •  Arsyllfa La Silla
  • Arsyllfa Paranal, sy'n cynnwys y Telesgop Mawr Iawn

Mae telesgop radio seryddiaeth, a elwir yn yr Atacama Large Millimeter Array (ALMA - sef y Sbaenag am 'enaid') a adeiladwyd gan Ewrop, Japan, yr Unol Daleithiau, Canada a Tsile yn y Arsyllfa Llano de Chajnantor a agorwyd yn swyddogol ar y 3ydd o Hydref 2011.[44] Mae nifer o brosiectau radio -seryddiaeth, megis y CBI(Lluniwr Cefndirol Cosmig), y ASTE  (Arbrawf Telesgop  Is-milimedr Atacama) ac yn y ACT (Telesgop Cosmoleg Tsile), ymhlith eraill, wedi bod yn gweithredu yn ardal y Chajnantor ers 1999.

Defnyddiau eraill

golygu

Chwaraeon

golygu

Mae Anialwch Atacama yn boblogaidd gyda selogion chwaraeon pob tirwedd "all-terrain". Mae amryw o bencampwriaethau wedi eu cynnal yma, gan gynnwys Rali yr Is Atacama, Rali Is Tsile, Rali Patagonia-Atacama ac argraffiadau diweddar Rali Dakar. Trefnwyd y rali hon gan yr A. S. O. (Amaury Sports Organisation) ac fe'i gynhaliwyd yn 2009, 2010, 2011, a 2012. Mae twyni'r anialwch yn ddelfrydol ar gyfer rasys rali a leolir ar gyrion dinas  Copiapó.[45] Dechreuodd Rali 15-Diwrnod Dakar 2013 ar y 5ed o Ionawr yn Lima, Periw, a thrwy Tsile, yr Ariannin ac yn ôl i Tsile a gorffen yn Santiago.[46] Mae ymwelwyr hefyd ddefnyddio twyni tywod Anialwch yr Atacama ar gyfer tywod-fyrddio/ Sandboarding (sbaeneg: duna).

Mae ras droed pythons o hyd o'r enw Croesi'r Atacama'n ras lle mae'r cystadleuwyr yn gorfod croesi ar draws  gwahanol dirweddau yr Atacama.[47]

Mae digwyddiad o'r enw Marathon y Llosgfynydd yn cymryd  lle ger llosgfynydd Lascar yn Anialwch y Atacama.[48]

Radio Ceir Solar

golygu

Arddangoswyd deunaw o geir egni solar o flaen y palas arlywyddol (y La Moneda) yn Santiago ym mis Tachwedd 2012.[49] Yna aeth y ceir i rasio drwy'r anialwch (1,300 cilomedr) rhwng 15ed a19ed o Dachwedd 2012.[50]

Twristiaeth

golygu

Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n mynd i fynd ar daith i'r  anialwch yn aros yn nhref  San Pedro de Atacama.[51] Mae Anialwch yr  Atacama yn un o'r tri lleoliad twristiaeth uchaf yn Tsile. Fe gomisiynwyd gwesty'r  ESO (Arsyllfa Deheuol Ewropeaidd) yn arbennig ar gyfer seryddwyr.[52]

Giser El Tatio

golygu

Mae geiserau 80 km o dref San Pedro de Atacama. Mae tua 80 geiserau o fewn dyffryn. Mae'nt yn agosach at  dref Chiu Chiu.[53]

Baddonau Poeth Puritama

golygu

 Baddonau Poeth Puritama (Termos Banos de Puritama) yw pyllau dŵr poeta creigiog sydd yn 37 milltir o'r geiserau.[54]

Ardaloedd gwarchodedig

golygu
  • Parc Cenedlaethol Pan de Azúcar
  • Gwarchodfa Cenedlaethol Pampa del Tamarugal
  • Gwarchodfa Genedlaethol La Chimba

Chwedlau

golygu
  • Alicanto
  • Cawr Atacama

Cyfeiriadau

golygu
  1. Vesilind, Priit J. (Awst 2003). "The Driest Place on Earth". National Geographic Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-18. Cyrchwyd 2 Ebrill 2013.
  2. "Even the Driest Place on Earth Has Water". Extreme Science. Cyrchwyd 2 Ebrill 2013.
  3. Mckay, Christopher P. (May–June 2002). "Two dry for life: the Atacama Desert and Mars". AdAstra: 30–33. http://quest.nasa.gov/challenges/marsanalog/egypt/AtacamaAdAstra.pdf. Adalwyd 2017-07-26.
  4. Jonathan Amos (8 December 2005). "Chile desert's super-dry history". BBC News. Cyrchwyd 29 December 2009.
  5. Wright, John W., gol. (2006). The New York Times Almanac (arg. 2007). New York: Penguin Books. t. 456. ISBN 978-0-14-303820-7.
  6. Rundel, P. W.; Villagra, P. E.; et al. (2007). "Arid and Semi-Arid Ecosystems". In Veblen, Thomas T.; Young, Kenneth R.; Orme, Anthony R. (gol.). Physical Geography of South America. Oxford University Press. tt. 158–183.
  7. Veblen, Thomas T., gol. (2007). The Physical Geography of South America. Oxford University Press. t. 160. ISBN 978-0-19-531341-3.
  8. "Atacama desert". Terrestrial Ecoregions. World Wildlife Fund. Cyrchwyd 11 Mawrth 2008.
  9. Handwerk, Brian (23 Hydref 2006). "Viking Mission Mai Have Missed Mars Life, Study Finds". National Geographic News. National Geographic Society. Cyrchwyd 3 Ebrill 2013.
  10. Minard, Anne (25 Mehefin 2007). "Giant Penguins Once Roamed Peru, Fossils Show". National Geographic News. National Geographic Society. Cyrchwyd 3 Ebrill 2013.
  11. Quezada, Jorge; Cerda, José Luis; Jensen, Arturo (2010). "Efectos de la tectónica y el clima en la configuración morfológica del relieve costero del norte de Chile" (yn Spanish). Andean Geology 37 (1): 78–109. doi:10.4067/s0718-71062010000100004. http://www.scielo.cl/scielo.php?script=sci_arttext&pid=S0718-71062010000100004. Adalwyd 5 Rhagfyr 2015.
  12. Armijo, Rolando; Lacassin, Robin; Coudurier-Curveur, Aurélie; Carrizo, Daniel (2015). "Coupled tectonic evolution of Andean orogeny and global climate". Earth-Science Reviews 143: 1–35. doi:10.1016/j.earscirev.2015.01.005.
  13. Evenstar, Laura; Mather, Anna; Stuart, Finlay; Cooper, Frances; Sparks, Steve (May 2014). Geomorphic surfaces and supergene enrichment in Northern Chile. Vienna: EGU General Assembly 2014, held 27 April - 2 Mai 2014.
  14. "Snow Comes to the Atacama Desert". ESO. Cyrchwyd 3 April 2013.
  15. "Hyper-Arid Atacama Desert Hit By Snow". BBC News. 7 Gorffennaf 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Gorffennaf 2011. Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2011. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  16. "Inundación en San Pedro de Atacama deja 800 afectados y 13 turistas evacuados". El Mostrador (yn Spanish). 11 Chwefror 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-31. Cyrchwyd 3 December 2012.CS1 maint: unrecognized language (link)
  17. "Tourism in San Pedro de Atacama restricted by floods". This is Chile. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-02. Cyrchwyd 3 December 2012.
  18. "Atacama Desert Blooms Pink After Historic Rainfall (Photos)". LiveScience.com.
  19. Erin Blakemore. "The World's Driest Desert Is in Breathtaking Bloom". Smithsonian (magazine).
  20. "Yungay - the driest place in the world | Wondermondo". www.wondermondo.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-05-06.
  21. Boehm, Richard G.; Armstrong, David G.; Hunkins, Francis P.; Reinhartz, Dennis; Lobrecht, Merry (2005). The World and its People (arg. Teacher's wraparound). New York: Glencoe/McGraw-Hill. t. 276. ISBN 978-0-07-860977-0.
  22. "The desert biome". University of California Museum of Paleontology.
  23. "Rare snow in the Atacama Desert: Image of the Day". NASA.
  24. Jonathan D. A. Clarke (2006). "Antiquity of aridity in the Chilean Atacama Desert". Geomorphology 73: 101–114. doi:10.1016/j.geomorph.2005.06.008. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2015-09-05. https://web.archive.org/web/20150905182608/http://quest.nasa.gov/projects/spacewardbound/docs/sdarticle.pdf.
  25. "Chile desert's super-dry history". BBC News. 8 December 2005. Cyrchwyd 25 April 2010.
  26. "A trip to Mars". www.eso.org. Cyrchwyd 2 Mai 2017.
  27. Navarro-Gonzalez, R. (7 Tachwedd 2003). "Mars-Like Soils in the Atacama Desert, Chile, and the Dry Limit of Microbial Life". Science 302 (5647): 1018–1021. doi:10.1126/science.1089143. PMID 14605363. https://archive.org/details/sim_science_2003-11-07_302_5647/page/1018.
  28. azua-bustos, A. (24 Rhagfyr 2014). "Discovery and microbial content of the driest site of the hyperarid Atacama Desert, Chile.". Environmental Microbiology Reports.
  29. Thompson, Andrea (5 Awst 2008). "Scientists Set Record Straight on Martian Salt Find". Space.com. Cyrchwyd 6 Awst 2008.
  30. Wynne, J. J.; Cabrol, N. A.; Chong Diaz, G.; Grin, G. A.; Jhabvala, M. D.; Moersch, J. E.; Titus, T. N.. Earth–Mars Cave Detection Program Phase 2 – 2008 Atacama Desert Expedition (Adroddiad). Archifwyd o y gwreiddiol ar 2019-09-01. https://web.archive.org/web/20190901184720/https://www.explorers.org/flag_reports/Flag_52_-_J_Judson_Wynne_Flag_Report.pdf. Adalwyd 3 April 2013.
  31. Thos. Morong. (12 Chwefror 1891). "The Flora of the Desert of Atacama". The Bulletin of the Torrey Botanical Club 18 (2): 39–48. doi:10.2307/2475523. http://www.jstor.org/stable/2475523?seq=3.
  32. Monique Bos. "Animals that live in the Atacama Desert". Paw Nation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-02. Cyrchwyd 2017-07-26.
  33. Claudio M. Escobar; et al. (March 2003). "Chemical Composition of Precloacal Secretions of Two Liolaemus fabiani Populations: Are They Different?". Diary of Chemical Ecology 29 (3): 629. doi:10.1023/A:1022858919037. http://link.springer.com/article/10.1023%2FA%3A1022858919037.
  34. South America physical map
  35. Sanz, Nuria; Arriaza, Bernardo T.; Standen, Vivien G., The Chinchorro Culture: A Comparative Perspective.
  36. Holsti, K.J. (1997). The State, War, and the State of War. Cambridge University Press. t. 151. ISBN 978-0-521-57790-8.
  37. Clayton, Lawrence A. (1984). The Bolivarian Nations. The Forum Press. t. 26. ISBN 978-0-88273-603-7.
  38. St. John, Robert Bruce (1994). The Bolivia-Chile-Peru dispute in the Atacama Desert (Adroddiad). International Boundaries Research Unit. https://books.google.com/books?id=KPORDM85EsIC&pg=PA1&dq=Atacama+desert+colonial+period&hl=en&sa=X&ei=MSG8UJOiG4Wu8ASPzoCoCQ&ved=0CCwQ6AEwAA#v=onepage&q=Atacama%20desert%20colonial%20period&f=false.
  39. "Exploring the Atacama". yes. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-17. Cyrchwyd 2012-12-03.
  40. Kogel, Jessica Elzea (2006). Kogel, Jessica Elzea; Trivedi, Nikhil; Barker, James; Krukowski, Stanley (gol.). Industrial Minerals & Rocks: Commodities, Markets, and Uses (arg. 7th). Littleton, Colo.: Society for Mining, Metallurgy, and Exploration. t. 605. ISBN 978-0-87335-233-8.
  41. "ALMA Upgrade to Image the Event Horizons of Supermassive Black Holes". ESO Announcement. Cyrchwyd 10 Mehefin 2014.Check date values in: |access-date= (help)
  42. "Top 10 Atacama Desert Facts That Every Tourist Must Know". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-11. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2015.
  43. Bustos, R.; Rubio, M. et al. (2014). "Parque Astronómico de Atacama: An Ideal Site for Millimeter, Submillimeter, and Mid-Infrared Astronomy". Publications of the Astronomical Society of the Pacific 126 (946): 1126. arXiv:1410.2451. Bibcode 2014PASP..126.1126B. doi:10.1086/679330.
  44. Toll, Rosser (3 Hydref 2011). "In Chile desert, huge telescope begins galaxy probe". AFP. Cyrchwyd 3 Hydref 2011.
  45. "Ruíz-Tagle ve difícil que Chile no esté en un nuevo Dakar". yes. This is Chile. 21 Tachwedd 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-17. Cyrchwyd 3 December 2012.
  46. "Dakar Rally event 2013 to culminate in Chilean capital". yes. This is Chile. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-29. Cyrchwyd 3 December 2012.
  47. "Atacama Crossing". yes. 4 deserts. Cyrchwyd 3 December 2012.
  48. Volcano Marathon Volcanomarathon.com.
  49. "Nueva generación de autos solares son presentados en Chile". La Nacion. 7 Tachwedd 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-17. Cyrchwyd 3 December 2012.Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  50. "Los autos que competirán en la súper carrera solar de Atacama". La Nacion. 8 Tachwedd 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-11-17. Cyrchwyd 3 Rhagfyr 2012.Check date values in: |access-date=, |date= (help)
  51. "Guide to Atacama Desert". Conde Nast Traveller. Conde Nast. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-04-05. Cyrchwyd 3 April 2013.
  52. Vickers, Graham (2005). 21st Century Hotel. London: Laurence King. t. 122. ISBN 978-1-85669-401-8.
  53. Erfurt-Cooper, Patricia; Cooper, Malcolm, gol. (2010). Volcano and Geothermal Tourism: Sustainable Geo-resources for Leisure and Recreation. London: Earthscan. ISBN 978-1-84407-870-7.
  54. Mroue, Haas; Schreck, Kristina; Luongo, Michael (2005). Frommer's Argentina & Chile (arg. 3rd). Hoboken, N.J. [u.a.]: Wiley. t. 308. ISBN 978-0-7645-8439-8.

Dolenni allanol

golygu