Israniadau y System Cwaternaidd
Cyfnod Epoc Oes Oed
(Miliwn o flynyddoedd CP)
Cwaternaidd Holosen 0.0117–0
Pleistosen Tarantian 0.126–0.0117
Ionian 0.781–0.126
Calabrian 1.80–0.781
Gelasian 2.58–1.80
Neogen Plïosen Piacenzian hynach
Yn Ewrop a Gogledd America, rhennir yr Holosen i oesoedd ar raddfa Blytt-Sernander, fel a ganlyn: cyn-Foreaidd, Boreaidd, Atlantaidd, Isforeaidd ac Isatlantaidd. Ceir hefyd is-epocau Pleistosenaidd lleol, sydd fel arfer wedi'u mesur o ran tymheredd: is-gyfnodau rhewlifol a rhyng-gyfnodau cynhesol. Mae'r is-gyfnod rhewlifol diwethaf yn gorffen gyda'r Dryas Ieuaf / Diweddar.

Mae'r cyfnod Cwaternaidd yn cwmpasu’r 2.6 miliwn o flynyddoedd diwethaf. Mae tuedd i oeri wedi bodoli yn ystod y cyfnod Cwaternaidd sy’n esbonio pam mae’r moroedd 18 °C yn oerach heddiw nag ar unrhyw amser arall yn y cyfnod Cainosöig. Mae cylchrediadau o gyfnodau rhewlifol a rhyngrewlifol wedi bodoli trwy gydol y cyfnod Cwaternaidd. Gellir cynhyrchu cofnodion o newidiadau hinsoddol y cyfnod Cwaternaidd trwy edrych ar greiddiau yn y môr, mewn llynnoedd, iâ a chwrelau.

Y Rhewlifiad Cwaternaidd

golygu

Mae'r Rhewlifiad Cwaternaidd yn un o bum Oes Iâ eithriadol a gafwyd ers ffurfio'r Ddaear. Mae'n cychwyn ar ddechrau'r cyfnod Cwaternaidd, yn wir dyma'r llinyn mesur a ddefnyddiwyd i nodi amser dechrau'r cyfnod: 2.58 CP ac mae'n parhau hyd heddiw. Bathwyd y term gan Schimper yn 1839.

 
Diagram yn dangos y 4 Eon (Hadeaidd, Archeaidd, Proterosöig a Ffanerosöig sef yr oes bresennol ar yr ochr dde. Yn y gwaelod ceir y 5 prif Oes Iâ.

Newidiadau hinsoddol

golygu

Gellir cynhyrchu cofnodion o newidiadau hinsoddol y cyfnod Cwaternaidd yn yr amgylcheddau daearol a morol trwy edrych ar greiddiau yn y môr, iâ a gwaddodion llynnoedd. Unwaith y tynnir y creiddiau allan gellir defnyddio nifer o dechnegau gwahanol megis dadansoddi’r isotop ocsigen i ddyddio’r gwaddod gan greu cofnod o’r newid hinsawdd sydd wedi digwydd yn ystod y cyfnod Cwaternaidd.

Cyfnod Cwaternaidd
2.588–0 miliwn o flynyddoedd yn ôl
Cyfartaledd O2 yn yr atmosffêr ca. 20.8 Cyfaint %[1]
(104 % o lefel a geir heddiw)
Cyfartaledd CO2 yn yr atmosffêr ca. 250 rhan / miliwn[2]
(1 wedi'i luosi gyda'r lefel fodern (cyn-ddiwydiannol))
Cyfartaledd tymheredd yr wyneb ca. 14 °C[3]
(0 °C uwch na'r lefel heddiw)


Rhaniadau o fewn y Cwaternaidd

golygu

Mae rhai cyfnodau yn y cyfnod Cwaternaidd sy’n amlygu eu hunain gan eu bod naill ai yn fwy eithafol neu wedi parhau am fwy o amser. Gwelir y ddwy esiampl agosaf i’r hinsawdd sydd gennym heddiw mewn cyfnodau rhyngrewlifol sef rhwng 420 a 390 mil o flynyddoedd yn ôl (cyfnod isotop ocsigen 11), a rhwng 130 a 115 mil o flynyddoedd yn ôl (cyfnod isotop ocsigen 5) sydd hefyd yn cael ei alw yn Eamaidd. Cyfnod arall amlwg yw’r cyfnod rhwng 20 a 80 mil o flynyddoedd yn ôl a oedd yn cynnwys digwyddiadau Heinrich sef bod nifer o fynyddoedd iâ yn ymddangos yn y cefnforoedd gan greu amodau oerach yn y pen draw oherwydd bod meintiau enfawr o ddŵr glân yn mynd i mewn i’r môr ac yn amharu ar gylchrediad y moroedd. Roedd y cyfnod rhewlifol diwethaf ar ei anterth tua 18,000 o flynyddoedd yn ôl. Cyfnod arall yw’r cynhesu a ddigwyddodd yn ystod yr Oesoedd Canol rhwng 900 O.C. a 1400 O.C. a’r oes iâ fach rhwng 1550 O.C. a 1850 O.C.

Mae’r cyfnod Cwaternaidd, sef y 2.6 miliwn o flynyddoedd diwethaf, wedi cael ei rannu yn ddwy ran, sef yr Holosen a’r Pleistosen ac yn dilyn penderfyniad yn 2009, rhan o’r cyfnod a arferid ei ystyried yn rhan o’r Pliosen. Cwmpasa’r Holosen y ~11,500 o flynyddoedd diwethaf a’r Pleistosen o 11,500 yn ôl hyd at 2.6 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Mae rhai academyddion yn dadlau ein bod bellach wedi symud i gyfnod newydd, yr Anthroposen, ond mae’n fater dadleuol, ac nid oes cytundeb ar ei fodolaeth, yr angen amdano, na phryd i nodi fel dyddiad cychwyn. Wrth edrych yn fanwl ar newidiadau hinsoddol y cyfnod Cwaternaidd gellir gweld bod yr hinsawdd yn newid yn barhaus ac yn rheolaidd mewn cylchrediadau. Mae cylchrediad 41 mil o flynyddoedd yn dominyddu rhwng 2.6 a 0.6 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac yna cylchrediad o 100 mil o flynyddoedd dros y 0.6 miliwn o flynyddoedd diwethaf. Gelwir y rhain yn gylchrediadau Milankovitch ar ôl y gŵr cyntaf a wnaeth fesuriadau manwl gywir o’r rhain.

Gweler hefyd

golygu

Llyfryddiaeth

golygu
  • Adams, J., Maslin, M. a Thomas, E. (1999) Sudden climatic transitions during the Quaternary. Progress in Physical Geography, 23 (1), 1–36.
  • Goudie, A. S. (2003) Long term Environmental Change: Quaternary Climate Oscillations and their Impacts on the Environment, yn A. Rogers a H. A. Viles (gol.) The Student's Companion to Geography, Rhydychen, Blackwell Publishing Ltd.
  • Mannion, A. M. (1999) Natural Environmental Change. Llundain, Routledge.

Dolenni allanol

golygu
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod Cyfnod Cwaternaidd ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.
  1. Image:Sauerstoffgehalt-1000mj.svg
  2. Image:Phanerozoic Carbon Dioxide.png
  3. Image:All palaeotemps.png