Anna Lapwood

Organydd Prydeinig

Organydd, cyfarwyddwr corawl, cyflwynydd teledu a radio Prydeinig yw Anna Ruth Ella Lapwood MBE (ganwyd 28 Gorffennaf 1995). Yn 2016, penodwyd hi yn Gyfarwyddwr Cerdd Coleg Penfro, Caergrawnt, yn un o'r bobl ieuengaf erioed i gael cyfwrwyddo côr coleg yn Rhydychen neu Gaergrawnt. Sefydlodd gôr merched yno yn 2018. Gan ei bod yn artist gyswllt gyda Neuadd Frenhinol Albert, Llundain, mae ei recordiadau wedi denu cynilleudfa fawr ar draws y cyfryngau cymdeithasol.

Anna Lapwood
Lapwood yn 2023
Ganwyd28 Gorffennaf 1995 Edit this on Wikidata
High Wycombe Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethorganydd, arweinydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.annalapwood.co.uk Edit this on Wikidata

Bywyd ac addysg cynnar

golygu

Ganwyd Lapwood yn 1995 yn High Wycombe, Swydd Buckingham.

Astudiodd y ffidil, fiola, piano a chyfansoddi yn Yr Academi Gerdd Frenhinol Iau, ac bu'n arwain y telynau yng Ngherddorfa Plant Genedlaethol Prydain Fawr a cherddorfa'r Academi.

Mynychodd Ysgol Uwchradd Rhydychen (Oxford High School), lle roedd hi'n gallu chwarae pedwar offeryn i safon gradd 8, a dechreuodd chwarae'r Organ. Cafodd hi radd dosbarth cyntaf o Goleg Magdalen, Rhydychen. Hi oedd y fenyw gyntaf yn hanes y coleg i gael ysgoloriaeth Organ.[1]

Cyfarwyddwr Cerdd Coleg Penfro, Caergrawnt

golygu
 
Capel Coleg Penfro, Caergrawnt

Yn 2016, penodwyd Lapwood yn Gyfarwyddwr Cerdd Coleg Penfro, Caergrawnt. Ar y pryd, hi oedd y person ieuengaf erioed i gyfarwyddo côr coleg yn Rhydychen neu Gaergrawnt.[2]

Yn 2018, sefydlodd Lapwood Gôr Merched Coleg Penfro ar gyfer merched 11-18 oed o ysgolion lleol. Mae hi hefyd yn rhedeg "Profiad Organ Caergrawnt" i ferched yn flynyddol. Yn 2019, sefydlodd Lapwood gôr arall yn y coleg, i ddysgu sgiliau darllen ar yr olwg cyntaf.

Perfformiadau

golygu
 
Organ Neuadd Frenhinol Albert, Llundain

Fel organydd, mae Lapwood wedi perfformio yn Neuadd Frenhinol Albert, Neuadd "Festival Hall", Llundain ac Eglwys St Thomas, Efrog Newydd, ymysg llefydd eraill. Yn 2019, agorodd wobrau Bafta ar yr Organ. Mae hi'n teithio'n aml o amgylch Y Deyrnas Unedig ac Ewrop.

Fel arweinydd, mae Lapwood wedi cyfarwyddo Cantorion y BBC fel rhan o raglen BBC Inspire. Mae hi wedi rhedeg gweithdau corawl yng Ngwlad Tai, Perth, Shenzhen, Shanghai, Lusaka a Sambia.

Fel cantores, mae Lapwood wedi rhyddhau dau albwm fel rhan o ensemble lleisiol Gareth Malone. Fel rhan o'r ensemble, mae hi wedi perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Cyflwyniadau teledu a radio

golygu

Lapwood oedd prif gyflwynydd Cystadleuaeth Cerddor Ifanc y BBC 2020. Roedd hi hefyd yn feirniad yng nghyatadleuaeth Côr Cymru yn 2022.[3]

Yn 2024, cyflwynodd gyfres o ragleni o'r enw 'A View from the Organ Loft' ar BBC radio 3, gan gynnwys rhifyn o Eglwys Gadeiriol Llandaf.[4]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "About". Anna Lapwood (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-11-23.
  2. "Ms Anna Lapwood | Pembroke". www.pem.cam.ac.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-11-23.
  3. "Y Wasg | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2024-11-23.
  4. Admin (2024-10-18). "BBC Radio 3: A View from the Organ Loft". Anna Lapwood (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-11-23.