Anna Louise Strong
Awdur Americanaidd oedd Anna Louise Strong (24 Tachwedd 1885 - 29 Mawrth 1970) a oedd yn newyddiadurwr, undebwr llafur ac ymgyrchydd dros heddwch ond sy'n fwyaf adnabyddus am ei hadroddiad a'i chefnogaeth i symudiadau comiwnyddol yn yr Undeb Sofietaidd a Gweriniaeth Pobl Tsieina. Ysgrifennodd dros 30 o lyfrau ac erthyglau amrywiol.
Anna Louise Strong | |
---|---|
Ganwyd | 24 Tachwedd 1885 Friend |
Bu farw | 29 Mawrth 1970 Beijing |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, newyddiadurwr, ymgyrchydd, undebwr llafur, ymgyrchydd heddwch |
Adnabyddus am | Anna Louise Strong Papers |
Tad | Sydney Strong |
Priod | Joel Shubin |
Fe'i ganed yn Friend, Nebraska a bu farw yn Beijing; fe'i claddwyd ym Mynwent Babaoshan. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Bryn Mawr, Coleg Oberlin a Phrifysgol Chicago. [1] Bu'n briod i Joel Shubin.[2][3][4]
Y dyddiau cynnar
golyguGanwyd Strong ar 14 Tachwedd 1885, mewn "persondy dwy ystafell" yn Friend, Nebraska, y "Gorllewin Canol," i rieni a oedd yn rhyddfrydwyr dosbarth canol a oedd yn weithgar yn yr Eglwys Gynulleidfaol ac fel cenhadon.[5][6][7][8] Roedd ei thad, Sydney Dix Strong, yn weinidog Efengylaidd yn yr Eglwys Gynulleidfaol, yn weithgar mewn gwaith cenhadol, ac yn heddychwr ymroddedig.[9][10] Rhwng 1887 a 1891 bu'r teulu'n byw ym Mount Vernon Ohio, cyn symud i Cincinnati ym 1891.[6]
Mynychodd Goleg Bryn Mawr, Pennsylvania rhwng 1903 a 1904, yna graddiodd o Goleg Oberlin yn Ohio ym 1905 lle dychwelodd yn ddiweddarach i siarad lawer gwaith.[5][6][7] Ym 1908, yn 23 oed, gorffennodd ei haddysg a derbyn PhD mewn athroniaeth gan Brifysgol Chicago gyda thesis a gyhoeddwyd yn ddiweddarach fel The Social Psychology of Prayer.[11][12]
Fel eiriolwr dros les plant tra bu’n gweithio i Swyddfa Addysg yr Unol Daleithiau, ymunodd â’r Pwyllgor Llafur Plant Cenedlaethol a threfnodd arddangfa gan deithio'n helaeth ledled yr Unol Daleithiau a thramor. Pan ddaeth â'r arddangosfa i Seattle, ym Mai 1914, daeth 6,000 o bobl i ymweld â hi bob dydd, gan ddiweddu ar y dydd laf o Fai, gyda chynulleidfa o 40,000 o bobl.[5]
Roedd Strong yn dal yn argyhoeddedig mai cyfalafiaeth oedd yn gyfrifol am dlodi, a dioddefaint y dosbarth gweithiol. Roedd hi'n 30 oed pan ddychwelodd i Seattle i fyw gyda'i thad, rhwng 1916 a 1921, lle bu'n flaengar gyda'r Blaid Lafur mewn "digwyddiadau radicaleiddio" fel Streic Gyffredinol Seattle a chyflafan Everett.[5][10]
Roedd Strong hefyd yn mwynhau dringo mynyddoedd. Trefnodd wersylloedd haf cydweithredol yn y Cascades ac arwain partïon dringo i fyny Mount Rainier, a arweiniodd at sefydlu Clwb Alpaidd Washington, ym 1916.
Gwleidyddiaeth
golyguDaeth yn aelod o Fwrdd Ysgol Seattle (Seattle School Board) yn 1916, yr unig ferch. Dadleuodd y dylai'r ysgolion cyhoeddus gynnig rhaglenni gwasanaethau cymdeithasol i blant difreintiedig.
Y flwyddyn honno, digwyddodd cyflafan Everett a gofynnwyd iddi gan y New York Evening Post i adrodd ar y gwrthdaro rhwng gwarchodwyr arfog, a gyflogwyd gan berchnogion melinau Everett, a Gweithwyr Diwydiannol y Byd (neu "Wobblies"). Tross o fod yn niwtral i fod yn llefarydd ymroddedig dros hawliau'r gweithwyr.[5]
Treuliodd gyfnod bychan yn y carchar, yn bennaf oherwydd ei heddychiaeth, ac yn 1918 penodwyd person arall yn ei lle ar Fwrdd Ysgol Seattle.
Anrhydeddau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Aelodaeth: https://en.wikipedia.org/wiki/Anna_Louise_Strong. gwefan.
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: "Anna Louise Strong". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anna Louise Strong". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Anna Louise Strong". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anna Louise Strong". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anna Louise Strong". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 5.4 Mildred Andrews, "Strong, Anna Louise (1885-1970)," HistoryLink, 7 Tachwedd 1998.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 B. K. Clinker, "Anna Louise Strong (1885-1970) Archifwyd 2019-08-20 yn y Peiriant Wayback," Knox Historical Society, 2004, adalwyd 16 Ionawr 2018.
- ↑ 7.0 7.1 Reuters, "Anna Louise Strong Dies in Peking at 84," reprinted in The New York Times, 30 Mawrth 1970, adalwyd 16 Ionawr 2018.
- ↑ Darren Selter, "Witness to Revolution: The Story of Anna Louise Strong," University of Washington, adalwyd 16 Ionawr 2018.
- ↑ Hughes, Heather. First President: A Life of John Dube, Founding President of the ANC. Auckland Park, South Africa: Jacana Media. t. 116. ISBN 1770098135.
- ↑ 10.0 10.1 Archives West, "Anna Louise Strong papers, 1885-1971," yn tarddu o'r dudalen hon Archifwyd 2018-11-16 yn y Peiriant Wayback, adalwyd 26 Ionawr 2018.
- ↑ China Daily, "Anna Louise Strong," 29 Medi 2010, adalwyd 26 Ionawr 2018.
- ↑ Anna Louise Strong, "A Consideration of Prayer from the Standpoint of Social Psychology," 1908, adalwyd 26 Ionawr 2018.