Another Country
Ffilm ddrama rhamantus gan y cyfarwyddwr Marek Kanievska yw Another Country a gyhoeddwyd yn 1984. Fe'i cynhyrchwyd yn y Deyrnas Gyfunol. Lleolwyd y stori yn Lloegr.
Enghraifft o'r canlynol | ffilm |
---|---|
Lliw/iau | lliw |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Dyddiad cyhoeddi | 1984, 11 Mehefin 1987 |
Genre | ffilm ddrama, ffilm ramantus, ffilm am LHDT |
Lleoliad y gwaith | Lloegr |
Hyd | 90 munud |
Cyfarwyddwr | Marek Kanievska |
Cynhyrchydd/wyr | Alan Marshall, Robert Fox |
Cwmni cynhyrchu | Virgin Group, Goldcrest Films, National Film Finance Corporation, Archant |
Cyfansoddwr | Michael Storey |
Dosbarthydd | 20th Century Fox, Netflix |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Sinematograffydd | Peter Biziou |
Y prif actorion yn y ffilm hon yw Colin Firth, Rupert Everett, Anna Massey, Cary Elwes, Robert Addie a Rupert Wainwright. Mae'r ffilm Another Country yn 90 munud o hyd a chafodd ei ffilmio mewn lliw. [1][2]
Peter Biziou oedd sinematograffydd ('cyfarwyddwr ffotograffi') y ffilm hon a chafodd ei golygu gan Gerry Hambling sydd ymhlith y golygyddion mwyaf toreithiog.
Mae'r ffilm yn seiliedig yn fras ar fywyd yr ysbïwr ac asiant dwbl Guy Burgess, (Guy Bennett yn y ffilm). Mae'n archwilio ei wrywgydiaeth a'i gyflwyniad i Farcsiaeth, wrth archwilio rhagrith a snobyddiaeth system ysgolion bonedd Lloegr.[3]
Plot
golyguMae'r stori wedi ei leoli mewn ysgol fonedd, wedi'i seilio ar Eton a Winchester, yn y 1930au. Mae Guy Bennett (Rupert Everett) a Tommy Judd (Colin Firth) yn ddisgyblion yn yr ysgol. Oherwydd bod y ddau ohonyn nhw ar yn bobl yr ymylon yn eu ffyrdd eu hunain, maent hefyd yn ffrindiau (mae Bennett yn hoyw tra bod Judd yn Farcsydd).[4]
Ar gychwyn y ffilm mae athro yn dod ar draws dau fachgen yn mastyrbio ei gilydd. Oherwydd ei gywilydd o gael ei ddal yn cyflawni gweithred wrywgydiol mae un o'r bechgyn yn crogi ei hun. Mae'r athrawon a’r disgyblion hŷn yn ymdrechu’n galed i gadw’r sgandal draw oddi wrth rieni a’r byd tu allan.[5]
Mae’r sgandal hoyw, yn rhoi esgus i Fowler, capten y tŷ mae Bennett yn aelod ohoni, i gynllwynio yn erbyn Bennett. Nid yw Fowler yn hoffi Bennet na Judd ac mae'n ofni caiff Bennett ei benodi yn "Dduw" - teitl ysgol ar gyfer y ddau brif fachgen. Mae Fowler yn llwyddo rhyng-gipio nodyn serch gan Bennett i'w gyd ddisgybl James Harcourt . Mae Bennett yn cytuno i gael ei gosbi â chansen er mwyn peidio â chyfaddawdu Harcourt. Ar achlysuron eraill, roedd wedi osgoi cosb trwy flacmelio'r "Arglwyddi" (swyddogion) eraill gyda'r bygythiad y byddai'n datgelu eu profiadau rhywiol hwy gydag ef.[6]
Mae Judd yn ddweud wrth Bennett ei fod yn gyndyn o ddod yn swyddog ymysg y disgyblion, gan ei fod yn teimlo na all gymeradwyo'r fath "system o ormes". Mae’n gwneud araith deimladwy, chwerw am sut mae’r bechgyn sy'n cael eu gorthrymu gan y system yn tyfu i fod y tadau sy'n ei chynnal. Yn y pen draw, fodd bynnag, mae'n cytuno i ddod yn swyddog er mwyn atal Fowler rhag dod yn Bennaeth y Tŷ. Yn y pendraw nid yw'n cael ei wneud yn swyddogoherwydd bod Donald Devenish yn cytuno i aros yn yr ysgol a dod yn swyddog os caiff ef ei enwebu i ddod yn Dduw yn lle Bennett.
Wedi torri ei galon ar golli ei freuddwyd o ddod yn Dduw. Daw Bennett i sylweddoli bod y system ddosbarth Prydeinig yn dibynnu'n gryf ar olwg allanol a bydd bod yn agored hoyw yn rhwystr difrifol i'w ddymuniad i gael gyrfa fel diplomydd.
Mae epiliog y ffilm yn adrodd bod Bennet wedi troi ei gefn ar Brydain ac wedi encilio i Rwsia yn ddiweddarach yn ei fywyd, ar ôl bod yn ysbïwr i’r Undeb Sofietaidd. Bu farw Judd yn ymladd yn Rhyfel Cartref Sbaen.
Cyfarwyddwr
golyguGanwyd y cyfarwyddwr ffilm Marek Kanievska ar 30 Tachwedd 1952 yn Llundain.
Derbyniad
golyguRhoddwyd y marciau canlynol mewn adolygiadau o'r ffilm:
Gweler hefyd
golyguCyhoeddodd Marek Kanievska nifer o ffilmiau gan gynnwys y canlynol:
Rhestr Wicidata:
Ffilm | Delwedd | Gwlad | Iaith wreiddiol | dyddiad |
---|---|---|---|---|
A Different Loyalty | Unol Daleithiau America y Deyrnas Unedig Canada |
Saesneg Rwseg |
2004-01-01 | |
Another Country | y Deyrnas Unedig | Saesneg | 1984-01-01 | |
Less Than Zero | Unol Daleithiau America | Saesneg Sbaeneg |
1987-01-01 | |
Where The Money Is | Unol Daleithiau America | Saesneg | 2000-01-01 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Genre: http://www.imdb.com/title/tt0086904/. dyddiad cyrchiad: 7 Gorffennaf 2016.
- ↑ Cyfarwyddwr: http://www.imdb.com/title/tt0086904/. dyddiad cyrchiad: 7 Gorffennaf 2016. http://www.allocine.fr/film/fichefilm_gen_cfilm=90.html. dyddiad cyrchiad: 7 Gorffennaf 2016.
- ↑ "Another Country". Caution Spoilers (yn Saesneg). 2016-09-27. Cyrchwyd 2022-10-13.
- ↑ "BFI Screenonline: Another Country (1984) Synopsis". www.screenonline.org.uk. Cyrchwyd 2022-10-13.
- ↑ Canby, Vincent (1984-06-29). "THE SCREEN:'ANOTHER COUNTRY'". The New York Times (yn Saesneg). ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2022-10-13.
- ↑ Another Country (1984) - IMDb, http://www.imdb.com/title/tt0086904/plotsummary, adalwyd 2022-10-13
- ↑ 7.0 7.1 "Another Country". Rotten Tomatoes. Cyrchwyd 6 Hydref 2021.