Anton Raphael Mengs
Arlunydd o'r Almaen a anwyd ym Mohemia oedd Anton Raphael Mengs (22 Mawrth 1728 – 29 Mehefin 1779). Paentiodd portreadau a lluniau hanesyddol yn bennaf, ac roedd yn hynod o ddylanwadol ym mudiad newydd-glasuriaeth.
Anton Raphael Mengs | |
---|---|
Ganwyd | 22 Mawrth 1728, 12 Mawrth 1728 Ústí nad Labem |
Bu farw | 29 Mehefin 1779 o diciâu Rhufain |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Galwedigaeth | arlunydd, hanesydd celf |
Swydd | arlunydd llys |
Adnabyddus am | François, Baron de Halleberg, Portrait of Isabel Parreño y Arce, Marquesa de Llano, Portrait of Julie Carlotty Mengsové |
Arddull | portread |
Tad | Ismael Israel Mengs |
Plant | Anna Maria Mengs |
Gwobr/au | Urdd y Sbardyn Aur |
Ganwyd yn Aussig, Teyrnas Bohemia, sydd heddiw yn Ústí nad Labem yn y Weriniaeth Tsiec, yn fab i'r mân-ddarluniwr Ismael Israel Mengs. Paentiwr i lys y Brenin Friedrich August II yn Dresden, Etholyddiaeth Sacsoni, oedd Ismael. Astudiodd Anton dan ei dad yn Dresden. Teithiodd y ddau ohonynt i Rufain yn 1741 i Anton barhau â'i addysg gyda'i gyd-ddisgyblion Marco Benefial a Sebastiano Conca hyd at 1744. Athro hynod o lym oedd Ismael, ac yn ôl y sôn bu'n cloi ei fab mewn Ystafelloedd Raffael ym Mhalas y Fatican dros nos er mwyn iddo gopïo lluniau'r hen feistr.[1] Dychwelodd Anton i Dresden yn 1744, a phaentiodd nifer fawr o bortreadau, gan amlaf mewn pasteli gloyw, o aelodau llys Sacsoni a'r teulu brenhinol. Fe'i penodwyd yn arlunydd i'r llys yn 1745. Yn y cyfnod hwn, newidiodd o luniau pastel i baentiadau olew. Aeth yn ôl i Rufain yn y cyfnod 1746–49, cyn iddo ddychwelyd i Dresden a derbyn comisiwn i baentio tri allorlun ar gyfer eglwys y llys.[2]
Teithiodd yn ôl i'r Eidal yn 1751 i barhau â'i astudiaethau o gelf yr Henfyd a'r Dadeni, gan adael Dresden am y tro olaf a threulio'r deng mlynedd nesaf yn Rhufain a Napoli. Yn Rhufain fe drodd yn Babydd ac yn un o arlunwyr amlycaf y ddinas.[1] Fe'i penodwyd yn athro yn yr ysgol noethluniau yn yr Accademia di Belle Arti di Roma, a sefydlwyd gan y Pab Bened XIV yn 1754. Fe'i etholwyd hefyd yn aelod o'r Accademia di San Luca. Daeth yn gyfaill agos i'r archaeolegydd a beirniad celf J. J. Winckelmann, a dylanwadwyd arno gan syniadau Winckelmann ar glasuriaeth. Ymddiddorodd Mengs yn yr oesoedd clasurol, a mynegai'r newydd-glasuriaeth gynnar yn ei ffresgoau Dwyfoliad Sant Eusebius (1757) yn Eglwys Sant Eusebius a Parnassus (1761) ar nenfwd y Villa Albani. Yn 1756, daeth ei bensiwn o lys Dresden i ben, a cheisiodd ychwanegu at ei incwm drwy baentio portreadau o deithwyr o Loegr ar y Daith Fawr drwy'r Eidal.[2] Gwrthodai rhithiolaeth a dynamiaeth ddramataidd yr arddull faróc, gan ffafrio dynnu ar elfennau Raffael, Correggio, a Titian, a gwelir hefyd nodweddion o'r arddull rococo yn ei waith.[3] Cyflawnodd hefyd allorluniau, lluniau cabinet, a lluniau hanesyddol ar gomisiwn, megis Octavian a Cleopatra (1760) ar gyfer Richard Colt Hoare a Perseus ac Andromeda (1771) ar gyfer Syr Watkin Williams-Wynn.
Fe'i alwyd i lys Madrid yn 1761 a daeth yn arlunydd dan Siarl III, brenin Sbaen. Yn y cyfnod hwn fe baentiodd ffresgoau ar gyfer palasau Madrid ac Aranjuez, a hefyd nifer o weithiau crefyddol, lluniau damhegol, a rhagor o bortreadau. Bu'n rhaid iddo gael seibiant o'i waith yn 1768 o ganlyniad i'w flinder. Dychwelodd i Rufain yn 1769 a phaentiodd ffresgo Hanes yn drech nag Amser (1772) ar nenfwd y Camera dei Papiri yn Llyfrgell y Fatican. Aeth Mengs yn ôl i Fadrid yn y cyfnod 1773–77 i orffen ei ffresgoau ym Mhalas Brenhinol Madrid.[2] Treuliodd dwy flynedd olaf ei oes yn Rhufain, a bu farw yno o'r ddarfodedigaeth 51 oed.[1]
Ymhlith ei ddisgyblion oedd Johann Zoffany yn Rhufain a Francisco Goya ym Madrid. Roedd ei ferch, Anna Maria Mengs, hefyd yn arlunydd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Anton Raphael Mengs", Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar 10 Chwefror 2019.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) "Mengs, Anton Raphael (1728–1779)", Europe, 1450 to 1789: Encyclopedia of the Early Modern World (Gale, 2004). Adalwyd ar 10 Chwefror 2019.
- ↑ (Saesneg) Anton Raphael Mengs. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Chwefror 2019.
Darllen pellach
golygu- Dieter Honisch, Anton Raphael Mengs und die Bildform des Frühklassizismus (Recklinghausen, 1965).
- Thomas Pelzel, Anton Raphael Mengs and neoclassicism (Efrog Newydd: Garland, 1979).
- Steffi Röttgen, Anton Raphael Mengs, 1728–1779: Das malerische und zeichnerische Werk (München, 1999).