Dan y Don (panto)

pantomeim Cymraeg

Pantomeim Cymraeg gan Ifor Wyn Williams a gyflwynwyd gan Gwmni Theatr Cymru ym 1973 yw Dan Y Don. Cyfansoddwyd y caneuon gan Ann Llwyd a Susan Broderick [Sue Roderick].[1]

Dan y Don
Enghraifft o'r canlynolpantomeim, gwaith drama-gerdd Edit this on Wikidata
CrëwrCwmni Theatr Cymru Edit this on Wikidata
Dyddiad cynharaf1973
AwdurIfor Wyn Williams
GwladBaner Cymru Cymru
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddiheb ei chyhoeddi
Prif bwncCantre'r Gwaelod Edit this on Wikidata
CyfansoddwrAnn Llwyd a Sue Roderick

Disgrifiad byr

golygu

"Mae gan y stori gysylltiad llac (yn ôl traddodiad pantomeim) â Chantref Gwaelod, y fro ledrithiol honno, sy'n gorwedd 'o dan y môr a'i donnau'. Yno mae'r ddau arwr digrif, Ianto a Nyff yn cael llawer o droeon rhyfedd a thrwstan yn nheyrnas brenin boliog, a'i frenhines ofnadwy o ddwyieithog, a thywysog ifanc sy'n dyheu am ei gariadferch landeg. Hefyd mae dwy dywysoges hagr, yn dwyn yr enwau swynol Tysanwedd a Moronwedd, cynllyniwr mileinig a'i was parod, môr-forwyn brydferth a physgod ac octopws llachar eu lliwiau sy'n gallu dawnsio."[1]

Cymeriadau

golygu
 
Wynford Ellis Owen fel 'Fairy Nyff' a Dyfan Roberts a Dewi Pws
  • Brenin Garalong Hirgoes
  • Fferi Nyff [2]
  • Tywysog
  • Rhianwen
  • Tysanwedd - chwaer hyll
  • Moronwedd - chwaer hyll
  • Ianto
  • Brenhines
  • Esda
  • 'Cynlluniwr mileinig'
  • gwas yr uchod

Cynyrchiadau nodedig

golygu
 
Huw Tudor a Grey Evans yn Dan y Don

Llwyfannwyd y panto am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru ym 1973. Cyfarwyddwr Grey Evans ac Wilbert Lloyd Roberts; cynllunydd Martin Morley; cast:

 
Dyfan Roberts a Sue Roderick yn Dan y Don

Cafwyd adolygiad o'r pantomeim yn y North Wales Weekly News ym mis Chwefror 1974:

"Yn y prif rannau roedd Wynford Ellis Owen (Nyff), Dyfan Roberts (Ianto) gyda gwrthgyferbyniad rhwng ynni gwyllt Ianto a ffug-ddoethineb Nyff, gyda'i slogannau "Fol'na" a "Fel mae'n digwydd." Ceir portreadau ysmala hefyd gan Iona Banks fel y frenhines na fedr hi "standio" rhyw lawer yn Gymraeg nac yn Saesneg, a chan Mici Plwm fel y brenin tew a'i floeddiadau di-diwn. Mae Huw Tudor a Grey Evans gyda'u ffug fileindra, yn null traddodiad y pantomeim. Yn rhan bwysig Esda, mae Susan Broderick yn cyfuno personoliaeth dymunol; yr actorion Elliw Haf ac Eirlys Hywel oedd yn actio'r ddwy dywysoges aflunaidd. Y cyfarwyddwr oedd Grey Evans, a oedd hefyd mewn rol bychan ar y llwyfan."[1]

"Fi oedd Y Brenin Garalong Hirgoes", medde Mici Plwm yn ei hunangofiant yn 2002; [3] "Rhyw fath o Neptiwn Cymraeg. Doedd dim angan gwallt na barf hir gosod arna'i gan fod y rheiny gen i eisoes [...] Hwn oedd ail neu drydydd panto Cwmni Theatr Cymru a doeddwn i ddim wedi cyfarfod â Wynff [Elllis Owen] cyn hynny. Ef oedd yn chwara rhan Fferi Nyff ac fe gliciodd y ddau ohonon ni o'r dechra. Roeddan ni'n tynnu ymlaen yn dda ac roedd ganddo ni rhyw rapport yn y stafell newid. Doedd ganddon ni ddim golygfeydd gyda'n gilydd ar y llwyfan ond fe ddaethon i ddallt ein gilydd yn dda. Ac, o siario stafell newid, fe ddaethon ni'n dipyn o fêts ac rwy'n dal yn ffrindiau efo fo, mwy nag erioed, hwyrach," ychwanegodd.[3]

"Cymeriad Wynff oedd arwr mawr y sioe. Doedd ganddo fo ddim cymaint a hynny o linellau i'w llefaru, dim ond dod ar y Ilwyfan, cerdded o gwmpas a deud ambell 'air. Yn y stafell newid, lle bydden ni'n eistedd wrth ochr ein gilydd, fe fyddai rhyw fath o double act rhyngom, Wynff, hwyrach, yn clicio'i fysedd a minnau'n pasio'r colur. Roedd angan llawer o golur, yn enwedig un coch ar gyfer y minlliw. Beth oedd 'Fferi Nyff' oedd camgymeriad dewin: yn lle creu Tylwythen Deg bryderth roedd wedi creu'r Dylwythen Deg hyllaf bosib, yn gwisgo sgidiau mawr, cryfion".[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 "Feb 14, 1974, page 29 - The North Wales Weekly News at Newspapers.com". Newspapers.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-12.
  2. 2.0 2.1 Owen, Wynford Ellis (2004). Raslas Bach A Mawr!. Gomer.
  3. 3.0 3.1 3.2 Plwm, Mici (2002). Meical Ddrwg O Dwll Y Mwg. Gwasg Gwynedd. ISBN 9780860 741886.