Roedd Appian (Groeg: Αππιανος; Lladin: Appianus) (tua 95 - 165), yn hanesydd Groegaidd o ddinesyddiaeth Rufeinaidd a aned yn Alecsandria. Roedd yn byw yn oes yr ymerodron Trajan, Hadrian ac Antoninus Pius.

Appian
Ganwydc. 95 Edit this on Wikidata
Alexandria Edit this on Wikidata
Bu farwc. 165 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethhanesydd, ysgrifennwr, cyfreithiwr, gwas sifil Edit this on Wikidata
SwyddProcurator Edit this on Wikidata
Adnabyddus amRoman History Edit this on Wikidata

Cafodd ei eni tua OC 95 yn Alecsandria yn yr Aifft, prifddinas dysg yr Henfyd diweddar. Treuliodd gyfnod fel cyfreithiwr yn Rhufain lle enillasai gyfeillgarwch y rhethregydd Fronto. Mae'n debyg mai Fronto a lwyddodd i berswadio Antoninus Pius i apwyntio Appian yn procurator ymherodrol yr Aifft.

Ysgrifennodd Appian hanes cynhwysfawr o'r Ymerodraeth Rufeinig o'r cyfnod bore hyd amser Trajan. Ychwanegodd bennodau neilltuol ar gyfer hanes teyrnasoedd eraill cyn iddynt ddod dan awdurdod Rhufain, yn cynnwys hanes y Celt-Iberiaid yn Sbaen. Mae safbwynt Appian yn gadarn o blaid y Rhufeiniaid. Er gwaethaf ei ddiffygion, megis camgymeriadau cronolegol, ac arddull sych yr awdur, erys ei lyfr yn ffynhonnell bwysig am y cyfnod.

O'r 24 llyfr gwreididol dim ond 11 sydd wedi goroesi'n gyfan, ynghyd â'r rhagymadrodd, sef hanes:

Ffynhonnell golygu

  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902)

Llyfryddiaeth golygu