Appleby-in-Westmorland
Tref a phlwyf sifil yn Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Appleby-in-Westmorland.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Westmorland a Furness.
Math | plwyf sifil, tref |
---|---|
Ardal weinyddol | Westmorland a Furness |
Poblogaeth | 2,862, 3,233 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cumbria (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 54.577°N 2.485°W |
Cod SYG | E04002512 |
Cod OS | NY683203 |
Cod post | CA16 |
Hyd at 1974, hi oedd tref sirol sir hanesyddol Westmorland a'r dref sir leiaf yn Lloegr, ac fe'i gelwid yn syml fel Appleby. Pan ddiddymwyd Westmorland ym 1974 (dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972) a'i ymgorffori yn Cumbria, newidiwyd enw'r dref i gadw'r enw "Westmorland". Mae'n gorwedd ar Afon Eden, tua 14 milltir (23 ) i'r de-ddwyrain o Penrith, 32 milltir (51 ) i'r de-ddwyrain o Gaerliwelydd, 27 milltir (43 ) i'r gogledd-ddwyrain o Kendal a 45 milltir (72 ) i'r gorllewin o Darlington.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 3,048.[2]
Mae Caerdydd 347.6 km i ffwrdd o Appleby-in-Westmorland ac mae Llundain yn 376.1 km. Y ddinas agosaf ydy Caerliwelydd sy'n 45.4 km i ffwrdd.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Castell Appleby
- Eglwys Sant Lawrens
- Eglwys Sant Mihangel
- Gorsaf heddlu
- Gorsaf reilffordd
- Gwesty'r Tufton Arms
- Hen bragdy
- Neuadd y dref
- Ty Gwyn
Enwogion
golygu- Thomas Langton (m. 1501), esgob Tyddewi
- William Yates (1921-2010), gwleidydd
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 11 Mehefin 2019
- ↑ City Population; adalwyd 11 Mehefin 2019
Dinas
Caerliwelydd
Trefi
Alston ·
Ambleside ·
Appleby-in-Westmorland ·
Aspatria ·
Barrow-in-Furness ·
Bowness-on-Windermere ·
Brampton ·
Broughton-in-Furness ·
Cleator Moor ·
Cockermouth ·
Dalton-in-Furness ·
Egremont ·
Grange-over-Sands ·
Harrington ·
Kendal ·
Keswick ·
Kirkby Lonsdale ·
Kirkby Stephen ·
Longtown ·
Maryport ·
Millom ·
Penrith ·
Sedbergh ·
Silloth ·
Ulverston ·
Whitehaven ·
Wigton ·
Windermere ·
Workington