Cockermouth

tref a phlwyf sifil yn Cumbria

Hen dref farchnad a phlwyf sifil yn Cumbria, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Cockermouth.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Cumberland.

Cockermouth
Mathtref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Allerdale
Poblogaeth8,847 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iMarvejols Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCumbria
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau54.6613°N 3.362°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04002401 Edit this on Wikidata
Cod OSNY121304 Edit this on Wikidata
Cod postCA13 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 8,761.[2]

Mae'r dref wedi’i lleoli ar gyrion Parc Cenedlaethol Ardal y Llynnoedd. Mae Caerdydd 354 km i ffwrdd o Cockermouth ac mae Llundain yn 412 km. Y ddinas agosaf ydy Caerliwelydd sy'n 36.7 km i ffwrdd.

Daw’r enw gan fod tarddiad Afon Cocker yno. Mae Afon Derwent hefyd yn llifo drwy’r dref. Y llyn agosaf yw Llyn Bassenthwaite, sydd 6 milltir i ffwrdd.

Canwyd y bardd William Wordsworth yn Cockermouth ar 7 Ebrill 1770. Treuliodd flynyddoedd cyntaf ei fywyd yno cyn cael ei yrru i ysgol ramadeg yn Swydd Gaerhirfryn yn wyth oed. Ffigwr enwog arall sy’n gysylltiedig a'r dref yw Bing Crosby. Bu’r canwr a'r cyflwynydd Americanaidd ar sawl ymweliad ȃ'r dref i bysgota gan aros yng Ngwesty’r Trout, oedd bryd hynny yn eiddo i’r Arglwydd Egremont.

Yn 2009 a 2015, bu i Cockermouth ddioddef o lifogydd drwg. Roedd y brif stryd dan lifogydd ac effeithiwyd ar gannoedd o dai a busnesau.

Adeiladau a chofadeiladau

golygu
  • Bragdy Jennings
  • Castell Cockermouth
  • Ty Wordsworth
  • Gwesty'r Trout (Bwyty Derwent)

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 11 Mehefin 2019
  2. City Population; adalwyd 11 Mehefin 2019