Aquiles Nazoa
Newyddiadurwr, ysgrifwr, a bardd Sbaeneg o Feneswela oedd Aquiles Nazoa (17 Mai 1920 – 25 Ebrill 1976). Ystyrir yn yr awdur ffraeth gorau yn llên Feneswela, a'i waith yn nodweddiadol o ddiwylliant poblogaidd y wlad[1] ac yn adlewyrchu gwerthoedd a chredoau'r dosbarth gweithiol.[2]
Aquiles Nazoa | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mai 1920 Caracas |
Bu farw | 25 Ebrill 1976 o damwain cerbyd Caracas |
Dinasyddiaeth | Feneswela |
Galwedigaeth | bardd, newyddiadurwr, llenor, sgriptiwr |
llofnod | |
Ganwyd yn Caracas i deulu tlawd, a dechreuodd weithio yn 12 oed i ennill arian i'w deulu. Cafodd swyddi saer, teleffonydd, a chlerc, cyn iddo ddysgu teipograffeg a darllen proflenni tra'n gweithio fel paciwr i'r papur newydd El Universal.[2]
Dechreuodd gyhoeddi llyfrau yn y 1940au, a daeth i sylw'r byd llenyddol gyda'i gyfrol El transeúnte sonreído (1945). Sefydlodd y cylchgronau ysmala La Pava Macha a El Tocador de Señoras, ac ysgrifennodd i'r cylchgronau Sábado de Colombia, Élite, ac El Morrocoy Azul. Roedd hefyd yn gyfarwyddwr papur newydd El Verbo Democrático (Puerto Cabello), y cyhoeddiad Ciwbaidd Zig-Zag (La Habana), a chylchgrawn Fantoches.[1] Enillodd Nazoa y Wobr Genedlaethol am Newyddiaduraeth yn 1948 a'r Wobr Lenyddol Ddinesig yn 1967.[2]
Bu farw mewn damwain ffordd ar y briffordd rhwng Caracas a Valencia yn 55 oed. Roedd ei frawd iau, Aníbal Nazoa, hefyd yn fardd.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- El transeúnte sonreído (1945)
- Caperucita que voló como Omar (1955)
- Poesía para colorear (1958)
- El burro flautista (1958)
- Los dibujos de Leo (1959)
- Caballo de manteca (1960)
- Los poemas (1961)
- Cuba de Martí a Fidel Castro (1961)
- Mientras el palo va y viene (1962)
- Poesías costumbristas, humorísticas y festivas (1963)
- Pan y circo (1965)
- Los humoristas de Caracas (1966)
- Caracas física y espiritual (1967)
- Historia de la música contada por un oyente (1968)
- Humor y Amor (1970)
- Retrato habla (1970)
- Venezuela suya (1971)
- Los sin cuenta usos de la electricidad (1973)
- Gusto y regusto de la cocina Venezolana (1973)
- Vida privada de las muñecas de trapo (1975)
- Raúl Santana con un pueblo en el bolsillo (1976)
- Genial e Ingenioso: La obra literaria y gráfica del gran artista caraqueño Leoncio Martínez (1976)
- Aquiles y la Navidad (1976)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Sbaeneg) Martín Flores Araujo, "Hace 40 años falleció el gran Aquiles Nazoa Archifwyd 2017-12-22 yn y Peiriant Wayback", El Clarín (25 Ebrill 2016). Adalwyd ar 22 Mai 2019.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Víctor Galarraga Oropeza, "Nazoa, Aquiles" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), t. 380.
Darllen pellach
golygu- B. Blanco Sánchez, Visión parcial de Aquiles Nazoa (Caracas: Imprenta Nacional, 1989).
- E. Subero, La obra poética de Nazoa (Caracas: Tipografía Vargas, 1962).