Dywed i lên Feneswela ddechrau gydag chofnodion ac ysgrifeniadau'r concwistadoriaid yn yr 16g. Er hynny, nid oedd fawr o draddodiad llenyddol yn ystod oes Ymerodraeth Sbaen hyd at y 19g. Prif ffigur deallusol Feneswela yn y 19g oedd y polymathiad Andrés Bello (1781–1865), a gyfranodd at ddiwylliant ei famwlad a llenyddiaeth Sbaeneg gyfan drwy ei farddoniaeth ac ysgolheictod. Un o'r nofelau cyntaf o Feneswela oedd Venezuela Heroica (1881), nofel hanesyddol am Ryfel Annibyniaeth Feneswela, gan Eduardo Blanco (1838–1912).

Yn y 1920au dechreuodd llywodraeth Feneswela hyrwyddo'r celfyddydau gyda phwyslais ar amddiffyn diwylliant cynhenid y wlad rhag dylanwadau tramor. Caniatwyd rhyddid mynegiant a chyfleoedd cyhoeddi nad oedd ar gael o'r blaen, ac o ganlyniad blodeuai llenyddiaeth genedlaethol newydd. Un o'r llenorion amlycaf yn hanner cyntaf yr 20g oedd Rómulo Gallegos (1884–1969), awdur y nofel Doña Bárbara (1929). Yn ogystal â Gallegos, mae ambell llenor arall o'r wlad wedi ysgrifennu gweithiau a dderbynnir yn glasuron yn holl lên America Ladin, megis Arturo Uslar Pietri (1906–2001) a Miguel Otero Silva (1908–85). Ymhlith llenorion Feneswelaidd eraill yr 20g mae'r nofelydd ac awdur straeon byrion Salvador Garmendia (1928–2001), ac Aquiles Nazoa (1920–76) a ystyrir yn yr awdur ffraeth gorau yn llên ei wlad.

Yn gyffredinol, nid oes darllen mawr ar lên Feneswela y tu allan i ffiniau'r wlad, ac nid yw wedi cyfrannu gymaint at lenyddiaeth Sbaeneg â gwledydd eraill America Ladin megis Mecsico a'r Ariannin. Mae nifer o lenorion a deallusion Feneswela wedi trafod y rhesymau dros yr esgeulustod hwn, gan sôn am ddiffyg pethau newydd o'r wlad a dibyniaeth ar gyhoeddwyr cenedlaethol. Dywed hefyd nad ydy'r wlad eto wedi ffurfio traddodiad llenyddol hynod ei hunan, er bod ambell beth yn ei nodweddu. Er enghraifft, dylanwadwyd ar lên Feneswela, yn fwy na gwledydd eraill De America, yn gryf gan ddiwylliant y Caribî. Ers y 1990au, mae diddordeb wedi tyfu yn llên Feneswela, ac mae awduron megis y nofelydd Alberto Barrera Tyszka (g. 1960) a'r bardd Rafael Cadenas (g. 1930) wedi derbyn cymeradwyaeth ryngwladol. Yn yr 21g, bu cyfyngu ar ryddid y llenor a'r wasg dan lywodraeth Hugo Chávez, er enghraifft drwy godi prisiau ar lyfrau nad oedd yr awdurdodau yn dymuno i'r cyhoedd eu darllen. Mae'r Chwyldro Bolifaraidd ac argyfwng gwleidyddol ac economaidd y wlad dan Nicolás Maduro wedi denu sylw at ddiwylliant y wlad, ac mae llenorion ac academyddion alltud wedi cyflwyno llên Feneswela i wledydd eraill.

Y prif gwmnïau cyhoeddi yn Feneswela yw Biblioteca Ayacucho, Ediciones Ekare, Monta Avila Editores, a El Nacional.

Darllen pellach golygu

  • K. Kohut (gol.), Literatura venezolana hoy: Historia nacional y presente urbano (Madrid: Iberoamericana, 1991).
  • M. A. Lewis, Ethnicity and Identity in Contemporary Afro-Venezuelan Literature (Columbia, Missouri: University of Missouri Press, 1992).
  • L. López Á lvarez, Literatura e identidad en Venezuela (Barcelona: PPU, 1991).
  • Pietri A. Uslar Pietri, Letras y hombres de Venezuela (Dinas Mecsico: Fondo de Cultura Económica, 1948).