Berwr y fagwyr

(Ailgyfeiriad o Arabidopsis thaliana)

Planhigyn blodeuol bychan yw Berwr y fagwyr neu Arabidopsis thaliana. Mae'n perthyn i deulu'r bresych (Brassicaceae). Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Berwr y Fagwyr, Berfain Cyffredin, Berw'r Cerrig. A. thaliana oedd y planhigyn cyntaf i'w enom gael ei ddilyniannu [1] a dyma'r prif organeb model ar gyfer gwaith moleciwlaidd a datblygiadol mewn planhigion blodeuol.[2]

Berwr y fagwyr
Enghraifft o'r canlynoltacson, organeb model Edit this on Wikidata
Safle tacsonrhywogaeth Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonArabidopsis Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Arabidopsis thaliana
Delwedd o A. thaliana
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Rosidau
Urdd: Brassicales
Teulu: Brassicaceae
Genws: Arabidopsis
Rhywogaeth: A. thaliana
Enw deuenwol
Arabidopsis thaliana
(L.) Heynh.
Map o'r byd yn dangos lle mae A. thaliana yn tyfu.
Cyfystyron

Arabis thaliana
Crucifera thaliana

Disgrifiad golygu

Llysieuyn bychan byr-ei-oes yw A. thaliana. Mae'r dail ar ffurf rhoséd trwchus, gyda llawer o goesennau'n gwahannu ar waelod y planhigyn. Mae'r coesennau yn sefyll i fyny heb ganghennu ymhellach fel arfer, a gallant dyfu hyd at 1–10 cm o daldra. Fe'i gorchuddir gan flew ysgafn. Mae gan y dail siap amddalen fain a di-fin, heb lawer o ddeilgoesyn, heb ddannedd neu'n fân-ddanheddog, 0.5–4 cm ar eu hyd a 0.3-1.5 cm ar eu traws, a gyda blew ar yr ochr uchaf ond bron yn ddi-flew ar yr ochr isaf. Mae'r sypiau blodau heb fractiau, yn gorymbaidd (mewn clystyrau trwchus), fel arfer gyda 15-30 blodyn ym mhob un. Mae'r sepalau yn wyrdd gydag ymylon gwyn culion, ac mae'r petalau yn wyn. Silicwâu yw'r ffrwythau – dau garpel wedi asio'n un ffrwyth. Ceir llawer iawn o hadau cochfrown crwn bychain ym mhob ffrwyth. Mae'n tyfu ar ucheldiroedd a rhosdiroedd (fel arfer ar resi grugaidd ac alpaidd), ar bridd agored ac ar uchder o 1750–4250 m.[2] Mae'r blodau'n hunanbeillio fel arfer, gyda graddfa allgroesi isel iawn o 0.3%.[3]

Rhinweddau meddygol golygu

Darganfuwyd bod y planhigyn hwn yn gallu atal twf celloedd cancr y fron heb niweidio celloedd iach. Mae'r darganfyddiad yn ffrwyth diddordeb Yr Athro Alessandra Devoto yn y planhigyn ers y 1990au[4].

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Menter Genom Arabidopsis (2000). Analysis of the genome sequence of the flowering plant Arabidopsis thaliana, Nature, Cyfrol 408 (yn Saesneg), tud. 796-815. DOI:10.1038/35048692
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Arabidopsis thaliana (L.) Heynh.. Plants of the World Online. Kew Science. Adalwyd ar 22 Mehefin 2018.
  3. Abbott, Richard J; a Gomes, Mioco F (1989). Population genetic structure and outcrossing rate of Arabidopsis thaliana (L.) Heynh., Heredity, Cyfrol 62 (yn Saesneg), tud. 411-418. DOI:10.1038/hdy.1989.56
  4. The Times 30 Hydref 2020 (tud. 3)
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: