Castell Dolforwyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Dolenni allanol: clean up, replaced: Graddfa I → Gradd I using AWB
gwiro
Llinell 5:
==Hanes==
[[Delwedd:Dolforwyn Castle.jpg|250px|bawd|'''Castell Dolforwyn''']]
Codwyd Castell Dolforwyn gan y [[Tywysog Cymru|Tywysog]] [[Llywelyn ap Gruffudd]] (Llywelyn ein Llyw OlafII), [[Tywysog Cymru]], yn y flwyddyn [[1273]] pan oedd ar anterth ei rym. Roedd tref fechan yn ymyl y castell a adeiladwyd ar yr un adeg â'r castell ei hun, mae'n debyg.
 
Cododd Llywelyn y castell fel datganiad gwleidyddol, fel petai, yn hytrach nag am resymau milwrol amlwg. Roedd yn wynebu'r [[Drenewydd]] a oedd, gyda'i chastell, yn un o drefi [[Normaniaid|Normanaidd]] pwysicaf [[y Mers]], ac felly roedd yn ddatganiad eglur o hawliau Llywelyn fel Tywysog Cymru mewn ymateb i gyhoeddiad gan weision y Goron Seisnig nad oedd ganddo'r hawl i godi castell yn y cyffiniau.
 
Syrthiodd y castell yn fuan i'r Saeson yn rhyfel [[1276]]-[[1277|77]]; ymddengys na fu gan y tywysog unrhyw fwriad o wastraffu dynion ac adnoddau yno. Ildiodd y garsiwn i [[Henry Lacy]] a [[Roger Mortimer]] ar [[31 Mawrth]], [[1276]]. Rhoddodd y Saeson y castell i'w cynghreiriad [[Gruffudd ap Gwenwynwyn]] o Bowys. Syrthiasai'r castell yn adfeilion erbyn diwedd y [[14eg ganrif]].