Agor y brif ddewislen

Castell Cymreig ger y Drenewydd ym Mhowys yw Castell Dolforwyn. Saif ar fryn isel mewn safle strategol yn hen gantref Cedewain yn ymyl Afon Hafren, gyferbyn â'r Drenewydd.

Castell Dolforwyn
Dolforwyn Castle Powys Wales.jpg
Math Castell, caer lefal, safle archaeologeol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1273 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Powys, Llandysul Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.5465°N 3.25203°W Edit this on Wikidata
Cod OS SO15189501 Edit this on Wikidata
Manylion
Statws treftadaeth adeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Deunydd carreg Edit this on Wikidata
Dynodwr Cadw MG114 Edit this on Wikidata

HanesGolygu

Codwyd Castell Dolforwyn gan y Tywysog Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn II), yn y flwyddyn 1273 pan oedd ar anterth ei rym. Roedd tref fechan yn ymyl y castell a adeiladwyd ar yr un adeg â'r castell ei hun, mae'n debyg.

Cododd Llywelyn y castell fel datganiad gwleidyddol, yn hytrach nag am resymau milwrol amlwg. Roedd yn wynebu'r Drenewydd a oedd, gyda'i chastell, yn un o drefi Normanaidd pwysicaf y Mers, ac felly roedd yn ddatganiad eglur o hawliau Llywelyn fel Tywysog Cymru mewn ymateb i gyhoeddiad gan weision y Goron Seisnig nad oedd ganddo'r hawl i godi castell yn y cyffiniau.

Syrthiodd y castell yn fuan i'r Saeson yn rhyfel 1276-77; ymddengys na fu gan y tywysog unrhyw fwriad o wastraffu dynion ac adnoddau yno. Ildiodd y garsiwn i Henry Lacy a Roger Mortimer ar 31 Mawrth, 1276. Rhoddodd y Saeson y castell i'w cynghreiriad Gruffudd ap Gwenwynwyn o Bowys. Syrthiasai'r castell yn adfeilion erbyn diwedd y 14g.

OlionGolygu

 
Castell Dolforwyn

Yn ôl rhestr a luniwyd yn 1322, roedd yr adeiladau o fewn y castell ei hun yn cynnwys capel, neuadd, Siambr Arglwyddes, cegin, bragdy a becws.

Nid oes llawer i'w weld ar y safle erbyn heddiw. Ambell lwyfan bridd yn unig a welir o'r dref. Ceir olion ward hirsgwar â llenfur o'i amgylch, tŵr crwn yn y pen gogledd-ddwyreiniol ac un hirsgawr arall yn y pen deheuol.

Cadwraeth a mynediadGolygu

Mae'r safle ym meddiant Cadw a cheir mynediad yn rhad ac am ddim. Mae'n gorwedd 3 milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r Drenewydd a gellir ei gyrraedd ar hyd llwybr o fwthyn Yew Tree, i'r gorllewin o bentref bach Aber-miwl (map: SO 153 950).

LlyfryddiaethGolygu

  • Richard Avent, Cestyll Tywysogion Gwynedd (Caerdydd, 1983)
  • Paul R. Davis, Castles of the Welsh Princes (Abertawe, 1988)

Dolenni allanolGolygu