Park Güell: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cyfs
Llusiduonbach (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 91:
}}
 
Parc cyhoeddus o erddi ac elfennau pensaerniol ydy '''Park Güell''' (Catalan: ''Parc Güell'') a leolwyd ar Allt Carmelo yn [[Barcelona]], [[Catalwnia]]. Mae Allt neu Fryn Carmelo yn un o deulu o fryniau'r [[Sierra de Collserola]] sef y ''Parc del Carmel'' ac mae ar lethr bychan, yn wynebu'r gogledd ym maestref Gràcia, Barcelona. Gyda'r angen i drefoli'r ddinas, gofynoddgofynnodd [[Eusebi Güell]] i [[Antoni Gaudí]], i gynllunio'r parc ar ffurf ardaloedd preswyl Lloegr, a dyna pam y defnyddiwyd y sillafiad Saesneg "Park" yn hytrach na'r Catalan ("Parc"). Fe'i crewyd rhwng 1900 a 1914 ac fe'i agorwyd i'r cyhoedd yn 1926. Yn 1984 fe'i dynodwyd yn [[Safle Treftadaeth y Byd]] gan [[UNESCO]] dan y teitl "Gweithiau Antoni Gaudí". Yr arddull a ddefnyddiodd yma (ac yn nhrwch gweddil gweithiau Gaudí) yw ''[[:w:ca:Modernisme català|Modernisme Catalwnia]]''.<ref>[http://museuhistoria.bcn.cat/ca/node/17 Gwefan MUHBA;] adalwyd 3 Hydref 2014</ref>
 
Mae Park Güell yn perthyn i 'gyfnod naturiol' Gaudí, sef degawd cyntaf yr [[20fed ganrif]]. Yn ystod y cyfnod hwn, perffeithiodd y pensaer ei arddull unigryw drwy sylwi ac astudio pethau organig byd natur a'u gweithredu o fewn strwythurau peirianeg ac adeiladwaith. Daeth Gaudí a chwa o awyr iach, rhyddid a meddwl newydd, fel artist wrth ei waith, i fyd llawn llinellau syth a diflas yr adeiladydd; daeth hiwmor lle bu confensiwn a rhyddid byw lle bu caethiwed y traddodiad clasurol. Gyda Pharc Güell, am y tro cyntaf, trodd ei syniadau a'i freuddwydion yn strwythurau ymarferol, real ac organig. Yr arddull newydd hwn a aeddfedodd yn ddiweddarach i greu un o bencampweithiau mwya'r byd: y [[Sagrada Família]].
Llinell 104:
Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach trodd Joan Martorell at Gaudí a'i gomisiynu i gynllunio pafiliwn a stablau ar gyfer Finca Güell (1883-1887) yn Les Corts, yng ngorllewin Barcelona. Roedd hyn yn cadarnhau eu cyfeillgarwch. Roedd Martorell yn un o besaeri enwocaf y genedl y pryd hwn ac roedd Gaudí yn ei ystyried fel ei feistr, a chafodd ddylanwad aruthrol ar ei was.
 
Yn 1886 gofynoddgofynnodd Eusebi Güell i Gaudí godi tŷ newydd iddo, y Palau Güell yn heol ''Nou de la Rambla'' yn yr hen dref. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach - yn 1895 adeiladodd Gaudí adeilad mewn gwinllan yn Swydd Garraf ar y cyd gyda Francesc Berenguer. Yn 1898 cynlluniodd eglwys ar gyfer Colònia Güell, yn gartref i'w weithwyr ar ei ffatri [[tecstil]]iau anferthol ar ymylon Barcelona. Yn 1900 rhoddwyd aseiniad mwy na'r un arall iddo - sef cynllunio Park Güell. Tyfodd y cyfeillgarwch rhwng Güella a Gaudí gan fyw mewn dau dŷ yn y parc, yn agos at ei gilydd.
 
Yn ystod eu hoes, gwesant y parc yn troi i fod yn un o brif atyniadau ymwelwyr yng Nghatalwnia; ac ymfalchient fod sgwâr y parc yn cael ei ddefnyddio i gynnal digwyddiadau cenedlaetholgar, Catalwnaidd gan gynnwys dawnsio 'sardna' traddodiadol, a digwyddiadau dinesig, swyddogol yn ogystal a gwyliau cymdeithasol.