Bwlch y Ddeufaen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: bawd|250px|Meini hirion bob ochr i'r hen ffordd, Bwlch y Ddeufaen Mae '''Bwlch y Ddeufaen''' yn fwlch ychydig i'r gorllewin o Rowen yn [[Conwy (si...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 14:52, 14 Gorffennaf 2007

Mae Bwlch y Ddeufaen yn fwlch ychydig i'r gorllewin o Rowen yn sir Conwy. Roedd y bwlch yma o bwysigrwydd mawr yn yr hen amser, oherwydd mai trwy'r bwlch yma yr oedd yr hen ffordd tua'r gorllewin yn arwain, yn hytrach nag ar hyd yr arfordir lle roedd aber Afon Conwy a cheigiau'r Penmaen Mawr a Phenmaen Bach yn rhwystrau. Daw'r enw o ddau faen hir wedi eu gosod bob ochr i'r ffordd, un 3 medr o uchder a'r llall 2 m.

Delwedd:BwlchyDdeufaen.JPG
Meini hirion bob ochr i'r hen ffordd, Bwlch y Ddeufaen

Roedd yr hen ffordd Rufeinig rhwng Deva (Caer) a Segontium (Caernarfon yn arwain trwy'r bwlch, a gellir gweld yr olion yn glir mewn rhai mannau. Fodd bynnag, roedd tramwyfa bwysig trwy'r bwlch ymhell cyn i'r Rhufeiniaid adeiladu eu ffordd hwy, a gellir gweld llawer o olion o Oes yr Efydd bob ochr i'r ffordd, yn ogystal a siambr gladdu Maen y Bardd o'r cyfnod Neolithig ychydig i'r dwyrain o'r bwlch. Ceir cylch cerrig yma yn ogystal