John Salusbury (ganed 1567): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 3:
| dateformat = dmy
}}
Uchelwr, tirfeddiannwr, gwleidydd a bardd Cymraeg oedd Syr '''John Salusbury''' ([[1567]] – [[24 Gorffennaf]] [[1612]]). Ei elyn pennaf oedd [[Robert Devereux]], Ail iarll Essex, [[Richard Trefor (1558 - 1638)]], [[Trefalun]] a'i ddilynwyr. Ef, yn dilyn dienyddio ei frawd hŷn, oedd etifedd stad a phlas [[Lleweni]] a leolir tua 3 km i'r gogledd-ddwyrain o [[Dinbych|dref Dinbych]], [[Sir Ddinbych]]. Roedd yn fab i Syr [[John Salusbury (m. 1566)]] a [[Catrin o Ferain]] (1534 – 27 Awst 1591).
 
I [[Coleg yr Iesu, Rhydychen|Goleg yr Iesu, Rhydychen]] yr aeth, ar 24 Tachwedd 1581 - yn ddim ond 14 mlwydd oed. Yn Rhagfyr 1586 priododd Ursula Stanley, merch anghyfreithlon Henry Stanley, iarll Derby. Ymladdodd mewn gornest un-i-un gyda pherthynas iddo, sef y capten Owen Salusbury, o bentref Holt, yng Nghaer ym Mawrth 1593; clwyfodd Owen a dihangodd rhag y gyfraith. Ni wyddys i sicrwydd beth oedd wrth wraidd yr helynt hwn, a gofidia Siôn Tudur mewn cywydd am yr ymraniadau teuluol rhwng Salbriaid Llewenni a Salbriaid Rug.<ref>LlGC: Llanst. MS. 124/628</ref>. Ymhen dwy flynedd wedi hynny, 19 Mawrth 1594/5, aeth John i astudio'r gyfraith i'r Middle Temple, ac am y 10 mlynedd nesaf treuliodd lawn cymaint o'i amser yn Llundain ag yn ei sir ei hun. Gwasnaethai frenhines Lloegr fel ''squire of the body'', swydd y penodwyd ef iddi yn 1595.
Llinell 16:
==Marchog ac Aelod Seneddol==
 
Wedi Gwrthryfel Essex ar 14 Mehefin 1601, gwnaed Salusbury yn farchog, fel gwobr am ddod a'r gwrthryfel i ben.<ref>{{Cite journal|last=Borukhov|first=Boris|year=2015|title=A More Precise Date for Shakespeare's 'The Phoenix and the Turtle|url=https://doi.org/10.1093/notesj/gjv139|journal=Notes & Queries|volume=62 Issue 4|pages=567-569|via=}}</ref> Roedd dau o'i gefndryd (Owen a John) yn ymladd ar yr ochr arall, a lladdwyd Owain.
 
Arweiniodd hyn at ysgarmes yn ystod etholiadau i'r Llywodraeth, sgarmes a elwir heddiw yn "Derfysg Wrecsam" yn Hydref 1601, gyda chefnogwyr John Salusbury ar y naill law a gweddillion cefnogwyr Essex, dan arweiniad Syr [[Richard Trefor (1558 - 1638)|Richard Trevor]], ar y llall. Trodd Salusbury at y Frenhines i gwyno, a chytunodd mai ef oedd wedi ennill yr etholiad, a gwnaed ef yn Aelod Seneddol.<ref>James P. Bednarz, ''Shakespeare and the Truth of Love: The Mystery of "The Phoenix and Turtle"'', t.66.</ref> Daeth yn Aelod Seneddol dros [[Sir Ddinbych (etholaeth seneddol)|Sir Ddinbych]] yn Rhagfyr 1601, ond nid oedd yno'n hwy na chydig ddyddiau, cyn ei derfynu.<ref name = "john"/>
 
Yn eironig, ar farwolaeth Elizabeth, cefnogodd [[Iago, brenin Lloegr (I) a'r Alban (VI)|Iago]], brenin newydd Lloegr, Essex a John Trevor, ac ychydig iawn o amser dreuliodd Salusbury yn Llundain wedi hynny.
 
==Cyfeiriadau==
Llinell 36:
[[Categori:Genedigaethau 1612]]
[[Categori:Gwleidyddion Cymreig yr 16eg ganrif]]
[[Categori:Gwleidyddion Cymreig yr 17eg ganrif17g]]
[[Categori:Llenorion Cymreig yn yr iaith Saesneg]]
[[Categori:Llenorion Cymreig yr 16eg ganrif]]
[[Categori:Llenorion Cymreig yr 17eg ganrif17g]]
[[Categori:Pobl o Sir Ddinbych]]