Llundain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cysylltiadau Cymreig: Ardddull a manion sillafu, replaced: y mae → mae using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Hanes Llundain: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 47:
Daeth trychineb y [[Pla du]] yn y 14eg ganrif. Collodd Llundain traean o’i phoblogaeth. Roedd yn weddol dawel yn ystod y canol oesoedd, oni bai am rhai rhyfeloedd cartref megis [[Rhyfeloedd y Rhosynnau]]. Ar ôl trechu'r [[Armada Sbaeneg]] yn 1588, cafwyd sefydlogrwydd llywodraethol a gwelwyd twf yn y ddinas. Yn 1603 daeth [[Iago, brenin Lloegr (I) a'r Alban (VI)]] yn frenin Lloegr. Roedd ei ddeddfau gwrth-[[Catholigiaeth|Gatholig]] yn amhoblogaidd iawn, ac felly cafwyd ymgais i'w lofruddio; adnabyddir hyn fel [[Cynllwyn y Powdr Gwn]] (‘’gunpowder plot’’) ar y 5ed o Dachwedd 1605.
 
Achosodd y Pla Mawr nifer o broblemau yn Llundain yn gynnar yn yr 17eg ganrif17g. Lladdwyd rhwng 70,000 a 100,000 yn y pla rhwng 1665-66. Daeth y pla i ben fwy na thebyg oherwydd i’r [[Tân Mawr Llundain|dân mawr Llundain]], ei glirio yn 1666. Cynnwyd y tân yn y ddinas wreiddiol ac ymledodd drwy’r adeiladau pren a'r toeau gwellt. Cymerodd yr ailadeiladu 10 mlynedd i'w hailadeiladu.
 
Yn dilyn twf mawr Llundain yn y 18fed ganrif, fe gafodd yr anrhydedd o'i galw'r ddinas fwyaf yn y byd o 1831 i 1925. Arweiniodd y cynnydd mewn cludiant at adeiladu’r system danddaearol cyflyma'r byd.