Newyddiadurwr, ysgrifwr, a bardd Sbaeneg o Feneswela oedd Aquiles Nazoa (17 Mai 192025 Ebrill 1976). Ystyrir yn yr awdur ffraeth gorau yn llên Feneswela, a'i waith yn nodweddiadol o ddiwylliant poblogaidd y wlad[1] ac yn adlewyrchu gwerthoedd a chredoau'r dosbarth gweithiol.[2]

Aquiles Nazoa
Ganwyd17 Mai 1920 Edit this on Wikidata
Caracas Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ebrill 1976 Edit this on Wikidata
o damwain cerbyd Edit this on Wikidata
Caracas Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFeneswela Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, newyddiadurwr, ysgrifennwr, sgriptiwr Edit this on Wikidata
llofnod

Ganwyd yn Caracas i deulu tlawd, a dechreuodd weithio yn 12 oed i ennill arian i'w deulu. Cafodd swyddi saer, teleffonydd, a chlerc, cyn iddo ddysgu teipograffeg a darllen proflenni tra'n gweithio fel paciwr i'r papur newydd El Universal.[2]

Dechreuodd gyhoeddi llyfrau yn y 1940au, a daeth i sylw'r byd llenyddol gyda'i gyfrol El transeúnte sonreído (1945). Sefydlodd y cylchgronau ysmala La Pava Macha a El Tocador de Señoras, ac ysgrifennodd i'r cylchgronau Sábado de Colombia, Élite, ac El Morrocoy Azul. Roedd hefyd yn gyfarwyddwr papur newydd El Verbo Democrático (Puerto Cabello), y cyhoeddiad Ciwbaidd Zig-Zag (La Habana), a chylchgrawn Fantoches.[1] Enillodd Nazoa y Wobr Genedlaethol am Newyddiaduraeth yn 1948 a'r Wobr Lenyddol Ddinesig yn 1967.[2]

Bu farw mewn damwain ffordd ar y briffordd rhwng Caracas a Valencia yn 55 oed. Roedd ei frawd iau, Aníbal Nazoa, hefyd yn fardd.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • El transeúnte sonreído (1945)
  • Caperucita que voló como Omar (1955)
  • Poesía para colorear (1958)
  • El burro flautista (1958)
  • Los dibujos de Leo (1959)
  • Caballo de manteca (1960)
  • Los poemas (1961)
  • Cuba de Martí a Fidel Castro (1961)
  • Mientras el palo va y viene (1962)
  • Poesías costumbristas, humorísticas y festivas (1963)
  • Pan y circo (1965)
  • Los humoristas de Caracas (1966)
  • Caracas física y espiritual (1967)
  • Historia de la música contada por un oyente (1968)
  • Humor y Amor (1970)
  • Retrato habla (1970)
  • Venezuela suya (1971)
  • Los sin cuenta usos de la electricidad (1973)
  • Gusto y regusto de la cocina Venezolana (1973)
  • Vida privada de las muñecas de trapo (1975)
  • Raúl Santana con un pueblo en el bolsillo (1976)
  • Genial e Ingenioso: La obra literaria y gráfica del gran artista caraqueño Leoncio Martínez (1976)
  • Aquiles y la Navidad (1976)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Sbaeneg) Martín Flores Araujo, "Hace 40 años falleció el gran Aquiles Nazoa Archifwyd 2017-12-22 yn y Peiriant Wayback.", El Clarín (25 Ebrill 2016). Adalwyd ar 22 Mai 2019.
  2. 2.0 2.1 2.2 Víctor Galarraga Oropeza, "Nazoa, Aquiles" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), t. 380.

Darllen pellach golygu

  • B. Blanco Sánchez, Visión parcial de Aquiles Nazoa (Caracas: Imprenta Nacional, 1989).
  • E. Subero, La obra poética de Nazoa (Caracas: Tipografía Vargas, 1962).