Evan Owen (Allen)

llenor

Roedd Evan Owen (Allen) (1805 - 18 Rhagfyr, 1852) yn llenor a bardd a anwyd ar fferm Pantyllin, trefgordd Garthgyfanedd, Llanrwst, yn fab i William Owen, codwr canu Capel y Bedyddwyr yn Llanrwst a ffarmwr gweddol gefnog a Catherine ei wraig. (Mae Eminent Welshmen [1] a'r Bywgraffiadur [2] yn awgrymu mae Allen oedd cyfenw'r bardd, ond mae nodyn cyfredol am ei farwolaeth yn Y Greal yn dystiolaeth glir mae enw barddol gŵr o'r enw bedydd Evan Owen yw Allen, sef A Llên nid Alen [3] ) Fel ei dad roedd Allen yn gerddor medrus ac yn arwain y gan mewn gwasanaethau a gynhaliwyd gan y Bedyddwyr mewn annedd dŷ o'r enw Tan y Bryn yn Llanddoged.[4]

Evan Owen
FfugenwAllen Edit this on Wikidata
Ganwyd1805 Edit this on Wikidata
Llanrwst Edit this on Wikidata
Bu farw18 Rhagfyr 1852 Edit this on Wikidata
Rhuthun Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, bardd Edit this on Wikidata

Ym 1826 priododd Allen ac Elizabeth Edwards o Eglwysbach [5]. Bu iddynt 3 Mab a 7 merch. Yn fuan ar ôl priodi symudodd i Lanfwrog, ger Rhuthun gan weithio fel arwerthwr.[6]

Fel awdur rhyddiaith bu Allen yn cyfrannu erthyglau'n aml i gylchgrawn Seren Gomer a chylchgronau eraill. Gadawodd lawer iawn o farddoniaeth mewn llawysgrif ar ei ôl ar adeg ei farwolaeth ond ychydig ohonynt cafodd ei gadw mewn print. Dyma blas ar un o'i gerddi:[7]

Gwreichionen anfarwol, sef anadl y Duwdod,
Yn trigo mewn marwol adeilad o glai;
Ymwelydd am ennyd a llethrau'r byd isod,
Ond brodor y tragwyddoldeb di-drai;
Gwir sylwedd na ddichon y llygad ei ganfod,
A bywyd na ddichon yr angeu ei ladd;
Dirgelwch na ddichon meidroldeb ei 'nabod,
Daearol ei drigfan, ond nefol ei radd,
Perl gwerthfawr anmhrisiawl a gollwyd yn Eden,
A gafwyd a brynwyd gan Iesu fy Nuw,
Nid ag aur, nac arian, nac ebyrth anorphen,
Ond a gwaed bendigaid ei bur galon friw.

Bu farw yn Rhuthun yn 47 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion yn Llanfwrog, yn y fynwent ynghlwm wrth gapel y Bedyddwyr.

Cyfeiriadau golygu

  1. Roberts, Thomas Rowland; Eminent Welshmen a short biographical dictionary of Welshmen who have attained distinction from the earliest times to the present; Caerdydd 1908
  2. ALLEN, EVAN OWEN (1805 - 1852), llenor, Y Bywgraffiadur Adferwyd 6 Chw 2020
  3. "Marwgoffa" Y Greal Rhif. 15 Mawrth 1853 tud. 70 adalwyd 6 Chwefror 2020
  4. John Edwards, Fy Nghylch Bywyd. Y Geninen cylchgrawn cenedlaethol; Cyf. XIV rhif. 2 - Ebrill 1896 adalwyd 6 Chwefror 2020
  5. Gwasanaethau Archifau Cymru Cofrestr Gostegion Priodas Eglwysbach, Sir Ddinbych, cofnod rhif 128; 31 Rhagfyr 1826
  6. Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad 1851 ar gyfer Murog Street, Rhuthun. Cyfeirnod HO107/2504, ffolio 169 tudalen 6
  7. "DAU BENILL RHY DEBYG - Y Gwladgarwr". Abraham Mason. 1870-05-21. Cyrchwyd 2020-02-06.