Grindavík

tref, Gwlad yr Iâ

Pentref pysgota ar Reykjanesskagi, Penrhyn Ddeheuol Gwlad yr Iâ, yw Grindavík. Mae'r rhan fwyaf o'i phoblogaeth yn gweithio yn y diwydiant pysgota. Mae sba geothermaidd y Lagŵn Glas wedi ei lleoli 3 mile (4.8 km) o ganol y dref. Poblogaeth y dref yw 3,023.

Grindavík
Mathdinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,427 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirReykjanesskagi Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ
Arwynebedd2.237 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau63.841283°N 22.437106°W Edit this on Wikidata
Cod post240 Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Grindavík
Yngannu Grindavík

Hanes golygu

 
Grindavík o'r de

Sonia'r Landnámabók ("Llyfr y Gwladychu") fod 2 ymsefydlwr Llychlynaidd, Molda-Gnúpur Hrólfsson a Þórir Haustmyrkur Vígbjóðsson, wedi cyrraedd ardal Reykjanes tua'r flwyddyn 934. Ymsefydlodd Þórir yn Selvogur, a Krísuvík a Molda-Gnúpur yn Grindavík.

Sefydlodd meibion Moldar-Gnúpur dri canolfan; Þórkötlustaðahverfi, Járngerðarstaðarhverfi a Staðarhverfi. Mae'r Grindavik gyfoes wedi ei lleoli, gan fwyaf, yn lle roedd Járngerðarstaðarhverfi.

Mae gwreiddiau'r bwrdeisdref i'w canfod ym mhenderfyniad Einar Einarsson i symud yno i adeiladu a rhedeg siop yn 1897. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd poblogaeth y dref oddeutu 360.

Mae pysgota wedi bod yn rhan annatod o fywyd pobl Grindavik's er gwaethaf ei pheryglon. Ond gwellodd diogelwch y pysgotwyr a hwylustod y gwaith gydag agor glanfa newydd yn Hópið yn 1939. Ers 1950 gwelwyd datblygiadau sylweddol yn y diwydiant bysgota. Datganwyd Grindavík yn fwrdeistref yn 1974.

 
EGrindavíkurkirkja

Nodweddion golygu

 
Grindavik
  • Lleolir Y Lagŵn Glas (Islandeg: Bláa Lónið) rhyw 3 km i'r gogledd o'r dref. Mae'r lagŵn yn ganolfan sba geothermal enwog sy'n defnydio dŵr mineral a phoeth o orsaf ynni Svartsengi ger llaw.
  • Ungmennafélag Grindavíkur (Umfg) yw clwb chwraeon y dref ac mae'n cynnwys stadiwn Grindavíkurvöllur.
  • Mae Pont Rhwng y Cyfandiroedd (cynt, Leif Lwcus) sy'n ymestyn ar draws dyffryn hollt Álfagjá ger llaw. Dyma'r dyffryn sydd ar y ffin rhwng platiau tectonaidd Ewrasia a Gogledd America. Fe'i hadeiladwyd yn 2002 ac mae wedi ei henwi ar ôl Leif Eriksson, a deithiodd o Ewrop i Ogledd America bron 500 mlynedd cyn Columbus.
  • Mae Amgueddfa Pysgod Hallt Gwlad yr Iâ yn y dref. Fe'i hagorwyd yn 2002 ac mae'n adrodd hanes y diwydiant pysgota ac halltu penfras a physgod eraill a'i phwysigrwydd i economi'r wlad dros y canrifoedd.[1]

Gefailldrefi golygu

  •   Rovaniemi, Y Ffindir
  •   Ílhavo, Portiwgal
  •   Hirtshals, Denmarc
  •   Piteå Municipality|Piteå, Sweden
  •   Penistone, Lloegr
  •   Jonzac, Ffrainc

Cyfeiriadau golygu

  1. Iceland Review. H.J. Hamar. 2005.

Dolenni allanol golygu

Gwefan Bwrdeisdref Grindavík