Järvenpää (ynganiad Estoneg: [ˈjærʋemˌpæː]; Swedeg: Träskända) yn dref a dinesig o'r Ffindir.

Järvenpää
Mathdinas, bwrdeistref y Ffindir Edit this on Wikidata
Poblogaeth46,597 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1951 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethIiris Laukkanen Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Vác, Buchholz in der Nordheide, Pasadena, Täby Municipality, Sir Jõgeva, Lørenskog, Rødovre Municipality, Volkhov Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Ffinneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolHelsinki metropolitan area Edit this on Wikidata
SirUusimaa Edit this on Wikidata
GwladBaner Y Ffindir Y Ffindir
Arwynebedd37.54 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaMäntsälä, Sipoo, Tuusula Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau60.4722°N 25.0889°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCyngor Dinas Järvenpää Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
maer Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethIiris Laukkanen Edit this on Wikidata
Map

Hanes golygu

Gwahanwyd Järvenpää  oddi wrth ei riant gymuned Tuusula yn 1951a rhoddwyd y statws o dref farchnad (kauppala) iddi ar ôl y gwahanu. Ni ychwanegwyd ardaloedd  cyfagos Kellokoski a Nummenkylä at ddref Järvenpää ar y pryd, ac mae'r ddadl dros y mater yn dal yn codi pwysedd gwaed hanner can mlynedd yn ddiweddarach. Parhaodd Kellokoski i fod yn rhan o fwrdeistref  Tuusula. Rhoddwyd statws cyfreithiol tref (kaupunki) i Järvenpää 1967.

Daearyddiaeth golygu

Lleolir Järvenpää tus 37 km (23 milltir) i'r gogledd o Helsinki  ar hyd rheilffordd Helsinki–Riihimäki, yn gyfagos i ddinasoedd eraill Tuusula, Sipoo a Mäntsälä. Mae pobl hefyd yn cyfeirio at Kerava fel  cymydog agos i Järvenpää, ond mewn gwirionnedd nid ydynt yn rhannu ffîn oherwydd i rhan o dir eang 1 km o hyd sy'n perthyn i Tuusula a safai rhyngddynt.

Trafnidiaeth golygu

Mae'r rheilffordd yn mynd trwy ganol y dref. Yn o gystal â'r  brif orsaf reilffordd Järvenpää, mae gorsafoedd cyfagos sef Kyrölä, Saunakallio, Haarajoki a Purola yn gwasanaethu'r ddinas.

Mae'r siwrna i Helsinki yn cymeryd tua hanner awr, p'un ai ar y trên neu ar y ffordd, a thua 20 munud  i faes awyr  Helsinki-Vantaa. Mae cysylltiadau trên i'r brif ddinas yn dda. O Uusimaa mae trenau yn gadael y brif orsaf ddwywaith awr (xx:14 a xx:41), ac o orsafoedd eraill unwaith yn awr.[1]

Diwylliant golygu

 
Ainola.

Caiff Järvenpää ei adnabod yn eang am leoliad  Ainola, cartref y cyfansoddwr Jean Sibelius. Mae wedi ei lleoli tua dwy cilomedr i'r de o ganol y dref. Symudodd y cyfansoddwr a'i deulu i'r bwthyn yma a gynllunwyd gan Lars Sonck ar yr 24  o Fedi, 1904, a bu'n byw yno tan ei farwolaeth ym 1957. Mae Ainola ar agor i ymwelwyr yn ystod misoedd yr haf fel "Amgueddfa Sibelius".

Symudodd Juhani Aho a'i wraig Venny Soldan-Brofeldt i Järvenpää yn 1897. Byddent iddynt fyw mewn bwthyn yno o'r enw Vårbacka, nesaf at lan Llyn Tuusula am 14 mlynedd. Fe ail-enwid y bwthyn yn ddiweddarach yn Ahola.

Digwyddiadau golygu

Cynhelir digwyddiadau yn y Järvenpää-talo (yn llythrennol Tŷ-Järvenpää) drwy gydol y flwyddyn: cyngherddau, theatr a sioeau celf. Mae plant yn hoffi chwarae yng nghartref Pikku-Aino, lle gallent hefyd wneud sioeau ac yn y blaen. 

Mae digwyddiad cerddorol, sy'n cael ei drefnu bob blwyddyn, a elwir yn fi (Puistoblues) (Puistoblues ) (yn llythrennol 'Melanganeon y Parc'). Mae 'Wythnos y Melanganeon' yn dechrau o 'Stryd y Melaganeon'  o ganol y ddinas, ac fe drefnir  cyngherddau a sesiynau anffurfiol mewn tafarndai a thai bwyta. Mae'r brif gyngerdd ar ddiwedd  'Wythnos y Melanganeon', a gaiff ei drefnu yn Vanhankylänniemi ar y Dydd Sadwrn.

Ardaloedd golygu

Mae Järvenpää wedi ei rannu'n 25 ardal:

1. Wärtsilä 2. Nummenkylä 3. Pietilä 4. Haarajoki 5. Jamppa 6. Peltola 7. Isokytö 8. Mylly 9. Saunakallio 10. Sorto 11. Pajala 12. Loutti 13. Pöyäalho 14. Terhola 15. Satumetsä 16. Mikonkorpi 17. Kaakkola 18. Keskus 19. Kinnari 20. Satukallio 21. Vanhakylä 22. Lepoja 23. Kyrölä 24. Terioja 25. Ristinummi

Gwleidyddiaeth golygu

 
Gorsaf reilffordd Järvenpää.
 
Helsinginte

Canlyniadau o ethodiad seneddol y Ffindir 2011 yn Järvenpää:

  • Plaid y Glymblaid Genedlaethol/National Coalition Party 27.1%
  • Plaid y Democratiaid Sosialaidd/Social Democratic Party 21.7%
  • Y Geir Ffiniaid/True Finns 21.5%
  • Y Gynghrair Werdd/Green League 10.3%
  • Y Baid Ganolog/Centre Party 6.7%
  • Cynghriar y Chwith/Left Alliance 6.2%
  • Y Democratiaid Cristnogol/Christian Democrats 3,6%
  • Plaid y Bobl Swedeg/Swedish People's Party 0.7%

Rheolaeth a Gwleidyddiaeth golygu

Perthynnai Järvenpää i Uudenmaan vaalipiiri (ardal etholiadol o Uusimaa) ac mae gan gyngor y dref 51 o cynghorwyr. Grwpiau gwleidyddol cyngor y dref rhwng 2004 a 2008 oedd :

  • Suomen Sosialidemokraattinen Puolue (Plaid y Democratiaid Sosialaidd y Ffindir) (14 cynghorwr),
  • Kokoomus (Plaid y Glymblaid Genedlaethol) (13),
  • Järvenpää 2000 Plus (7),
  • Keskusta (Y Blaid Ganolog) (7),
  • Vihreä liitto (Y Gynghrair Werdd)[2] (4),
  • Vasemmistoliitto (Cynghrair y Chwith) (3),
  • Kristillisdemokraatit (Y Democratiatd Cristnogol) (1),
  • Suomen kommunistinen puolue (Plaid Comiwnyddol y Ffindir) (1),
  • Liberaalit (Rhyddfydwyr) (1).

Arlywydd y cyngor oedd Ari Åberg (Kokoomus).[3]

Cysylltiadau rhyngwladol golygu

Gefeilldrefi golygu

Mae Järvenpää wedi ei gefeillio â:

Cyfeiriadau golygu

  1. Railway timetables Error in webarchive template: Check |url= value. Empty.
  2. "Tervetuloa! - Järvenpään vihreät ry". Jarvenpaanvihreat.fi. Cyrchwyd 2014-02-26.
  3. "Statistic Finland municipal election results. (2004)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-01. Cyrchwyd 2021-02-18.

Cysylltiadau allanol golygu