Mae Otello  yn opera a gyfansoddwyd gan Giuseppe Verdi  rhwng 1884 a 1886 gyda libreto Eidaleg gan Arrigo Boito. Mae'r opera yn seiliedig ar ddrama Shakespeare Othello.[1]

Otello
Delwedd:Francesco Tamagno as Otello 1887 - Sadie 1992 4p639.jpg, Desdemona (soprano), figurino di Alfredo Edel per Otello (1887) - Archivio Storico Ricordi ICON000887 B.jpg, Poster Otello by Giuseppe Verdi.jpg
Enghraifft o'r canlynolgwaith drama-gerdd Edit this on Wikidata
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
IaithEidaleg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi19 g Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1884 Edit this on Wikidata
Genreopera Edit this on Wikidata
CymeriadauIago, Cassio, Roderigo, Lodovico, Montano, Herald, Desdemona, Emilia, Otello, Corws Edit this on Wikidata
LibretyddArrigo Boito Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afLa Scala Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af5 Chwefror 1887 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithCyprus Edit this on Wikidata
Hyd2.25 awr Edit this on Wikidata
CyfansoddwrGiuseppe Verdi Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Perfformiad cyntaf golygu

Perfformiwyd Otello am y tro cyntaf yn La Scala ar 5 Chwefror 1887 o dan arweiniad Franco Faccio. Chwaraewyd rhan Otelo gan Francesco Tamagno a rhan Desdemona,  ei wraig,  gan Romilda Pantaleoni yn y perfformiad cyntaf.

Cymeriadau golygu

Cymeriad Llais
Otello, Cadfridog Mwraidd tenor
Desdemona, ei wraig soprano
Iago, llumanwr Otello bariton
Emilia, gwraig Iago a morwyn Desdemona mezzo-soprano
Cassio, Capten Otello tenor
Roderigo, bonheddwr o Fenis tenor
Lodovico, llysgennad gweriniaeth Fenis Baswr
Montano, cyn llywodraethwr Ciprys Baswr
Herodr Baswr
Corws: Milwyr a morwyr Fenis; trefolion a phlant Cypris

Plot golygu

Crynodeb fer o Otello[2]

Act 1 golygu

Ar ddiwedd y 15g, ar ynys Ciprys yn y Môr Canoldir, mae Otello, yn gadfridog yn y fyddin Fenisaidd, yn dinistrio llynges Twrci. Mae Otello yn ddyn du Affricanaidd ac yn  Fŵr.

Mae Iago, un o is swyddogion Otello, yn dal dig yn erbyn Otello, oherwydd bod Otello wedi codi Cassio yn ddirprwy iddo. Mae Iago yn gweld Cassio fel ei brif gystadleuydd iddo wrth geisio dringo rhengoedd y fyddin. Mae Iago yn wneud i Cassio meddwi a gwneud ffŵl ohono'i hun. Mae Otello yn diswyddo Cassio.

Act 2 golygu

Mae Iago yn awgrymu wrth Cassio y dylai ofyn i wraig Otello, Desdemona, am ei adferiad i swydd y dirprwy, gan fod gan Desdemona dylanwad mawr ar ei gŵr. Ychydig wedyn mae Iago'n ddweud wrth Otello y dylai cadw golwg ar y berthynas agos sy'n cael ei ffurfio rhwng Desdemona a Cassio.

Act 3 golygu

Mae Emilia, gwraig Iago yn gweithio fel morwyn i Desdemona. Mae Iago'n gorfodi ei wraig i ddwyn un o hancesi Desdemona ar ei gyfer. Wedi cael gafael ar yr hances mae Iago yn ei roi yng nghartref Cassio

Mae Otello yn gweld Cassio ym meddiant hances Desdemona. Mae'r ffaith bod yr hances ym meddiant Cassio yn brawf bod Desdemona wedi rhoi arwydd o serch i Cassio. Mewn ffit o genfigen mae'n penderfynu ei lladd hi.

Act 4 golygu

Mae Desdemona yn gweddïo cyn clwydo. Wrth iddi weddïo mae hi'n cael teimlad argoelus bod rhywbeth ofnadwy ar fin digwydd. Mae Otello ym mynd i mewn i'w llofft ond cyn iddi gael cyfle i egluro mae Otello yn ei thagu i farwolaeth

Mae Emilia yn rhuthro i mewn i'r ystafell, ac yn dweud wrth Otello bod Iago wedi gorfodi iddi fod yn rhan o'i gynllwyn ffiaidd, a bod popeth yn rhan o dwyll Iago. Ond mae hi'n rhy hwyr.

Mae Otello yn anobeithio am weld ei wraig ffyddlon eto, ac mae'n lladd ei hun gyda dagr.

Detholiad golygu

Teitl y gân Clip sain Artist
Niun mi tema (Morte d'Otello) Francesco Tamagno
Ave Maria Rosa Ponselle
Credo Enrico Nani
Sì, pêl ciel marmoreo giuro Enrico Caruso a Titta Ruffo

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Budden, Julian (2002). The Operas of Verdi. Vol 2: From Il trovatore to La forza del destino (2nd ed.). London: Cassell. ISBN 9780198162629
  2. Opera Summery & Comment Otello adalwyd 1 Hydref 2018