Grŵp pop seicadelig a ffurfiwyd yn Aberystwyth yn 2005 yw Race Horses, adnabyddwyd fel Radio Luxembourg gynt. Diolch i gigio a recordio cyson mae'r grŵp yma wedi profi llwyddiant mawr mewn amser byr iawn. Prif ganwr a chyfansoddwr y band yw Meilyr Jones (gynt o'r band Mozz) - sydd hefyd yn chwarae'r gitâr fas. Mae Dylan "Huggies" Hughes yn chwarae'r synth. "Bass Drum" Ben Herrick sy'n chwarae'r drymiau. Alun "Gaff" Gaffey (sydd hefyd yn chwarae i'r grwp ffwnc a sgiffl Pwsi Meri Mew) sy'n chwarae'r gitâr. Mae eu holl waith hyd yn hyn wedi ei gynhyrchu gan Euros Childs. Dyluniwyd clawr eu dau EP diweddaraf, Diwrnod efo'r Anifeiliaid a Where is Dennis? / Cartoon Cariad gan Ruth Jên, mae hi hefyd wedi dylunio set ar y cyd gyda'r band ar gyfer eu perfformiadau byw.

Race Horses
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Label recordioRecordiau Peski Edit this on Wikidata
Dod i'r brig2013 Edit this on Wikidata
Dod i benIonawr 2013 Edit this on Wikidata
Am yr orsaf radio, gweler Radio Luxembourg.

Gadawodd y drymiwr Ben Herrick y band yn hwyr yn 2008, a fe gymerwyd ei le gan Gwion Llewelyn.

Newidiwyd enw'r band o Radio Luxembourg i Race Horses ym mis Chwefror 2009, oherwydd y problemau cyfreithiol ynghlwm a rhannu enw gyda'r orsaf radio o'r un enw.

Cyhoeddwyd fod y band yn gwahanu yn mis Ionawr 2013 am resymau creadigol.[1][2]

Yn 2019 aeth Dylan Hughes, un o aelodau'r band, ati i ffurfio band newydd. Ynys.

Disgograffi golygu

Radio Luxembourg golygu

Race Horses golygu

  • Cake / Cacen Mamgu
  • Goodbye Falkenburg
  • Furniture

Gwobrau ac Anrhydeddau golygu

  • Sesiwn C2 - Gwobrau Roc a Phop C2 2006
  • EP/Sengl - Gwobrau Roc a Phop C2 2006
  • Y Grŵp a Ddaeth Fwyaf i Amlygrwydd yn Ystod 2005 - Gwobrau Roc a Phop C2 2006
  • EP/Sengl/Lawrlwythiad - ar gyfer Os Chi'n lladd Cindy - Gwobrau Roc a Phop C2 2007
  • Band/Artist y Flwyddyn - Gwobrau Roc a Phop C2 2007

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu