Mae Ruth Jên (ganed Ruth Jên Evans yn Aberystwyth 1964)[1] yn arlunydd o Gymru sy'n byw a gweithio yn yr hen siop sgidie ym mhentref Tal-y-bont yng Ngheredigion.

Ruth Jên
Ganwyd7 Hydref 1964 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.ruthjen.co.uk/ Edit this on Wikidata

Cafodd hi'w magu yng Nghefn Llwyd.[1] Astudiodd radd sylfaen yng Nghaerfyrddin cyn gwneud gradd celfyddyd gain yng Ngholeg Celf Caerdydd[2] (1983-1987), yn arbenigo maen argraffu. Wedi gorffen ei hastudiaethau, dychwelodd i Aberystwyth a gweithiodd am gyfnod gyda'r Academi Gymreig a gwneud gwaith llawrydd ar gyfer cloriau llyfrau'r Lolfa.[2] Paentiodd Ruth y murlun cyntaf yn Nhal-y-bont yn 1991,[2] ar ochr hen adeilad y Lolfa.

Enillodd hi'r Wobr Josef Herman "Dewis y Bobl" yn yr Eisteddfod Gynedlaethol 2023 in Boduan. Creodd 600 o greaduriaid clai ar gyfer ei harddangosfa yn Y Lle Celf.[3]

Gwobrau ac anrhydeddau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1  Ruth Jên - Bywgraffiad. Oriel y Bont (Aberystwyth). Adalwyd ar 2 Awst 2024.
  2. 2.0 2.1 2.2  Proffeil Arlunydd - Ruth Jên Evans. BBC (2009). Adalwyd ar 3 Awst 2024.
  3. (Saesneg) Aberystwyth artist wins People’s Choice award for ceramic artwork. Nation.Cymru (12 Awst 2023). Adalwyd ar 2 Awst 2024.

Dolenni allanol

golygu
   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.