Stanley Long
Gwneuthurwr ffilmiau sexploitation a Sais oedd Stanley Alfred Long (26 Tachwedd 1933 – 10 Medi 2012) oedd yn enwog am ei gomedïau rhyw a wnaed ar gyllideb isel yn y 1960au a'r 1970au.[1] Ei ffilm fwyaf llwyddiannus oedd Adventures of a Taxi Driver.
Stanley Long | |
---|---|
Ganwyd | 26 Tachwedd 1933 Llundain |
Bu farw | 10 Medi 2012 Swydd Buckingham |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, ysgrifennwr, sgriptiwr, sinematograffydd |
Ganwyd yn Llundain.[2] Cychwynnodd ei yrfa fel ffotograffydd i'r Picture Post, cyn iddo wasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol. Ar ôl gadael yr awyrlu, tynodd luniau noeth i gylchgrawn dynion.[1]
Cynhyrchodd ffilmiau â'i gwmni Stag Films, gan gynnwys mwy na 150 o ffilmiau byrion yn llawn maswedd a merched noeth. Gwnaed West End Jungle, ffilm ddogfen am y diwydiant rhyw yn Soho, a gafodd ei gwahardd gan y BBFC hyd at 2008.[1] Ymysg yr enwogion a ymddangosodd yn ei ffilmiau oedd Diana Dors, Liz Fraser, Irene Handl, Ian Lavender, a Pauline Collins. Miliwnydd oedd Long erbyn iddo gyrraedd 36 oed.[3]
Yn hwyrach, gweithiodd Long â'r cwmni ôl-gynhyrchu Salon ar ffilmiau gan gynnwys V for Vendetta a Batman Begins.[2]
Ffilmyddiaeth ddethol golygu
- Nudist Memories (1959)
- Take Off Your Clothes and Live (1963)
- West End Jungle (1964)
- London in the Raw (1964)
- Primitive London (1965)
- The Wife Swappers (1969)
- Adventures of a Taxi Driver (1976)
Cyfeiriadau golygu
- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Stanley Long 'King of Sexploitation' dies. BBC (13 Medi 2012). Adalwyd ar 13 Medi 2012.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Sandwell, Ian (12 Medi 2012). 'King of Sexploitation’ Stanley Long dies, aged 78. ScreenDaily. Adalwyd ar 13 Medi 2012.
- ↑ (Saesneg) Barnes, Anthony (13 Medi 2012). 'King of sexploitation' Stanley Long dies. The Independent. Adalwyd ar 13 Medi 2012.