Rhyfel rhwng y duwiau ym mytholeg Roeg oedd y Titanomachia (Groeg: Τιτανομαχία, "Rhyfel y Titaniaid"). Ymladdwyd y rhyfel rhwng y Titaniaid, dan arweiniad Cronos, a'r Deuddeg Olympiad dan arwiniad Zeus.

Cwymp y Titaniaid gan Cornelis van Haarlem (1588–90)

Roedd proffwydoliaeth y diorseddid Cronos gan un o'i blant, ac o'r herwydd, llyncodd Demeter, Hera, Hades, Hestia, a Poseidon cyn gynted ag y ganwyd hwy. Rhoddodd Rhea enedigaeth i'r chweched plentyn, Zeus, mewn ogof ar Fynydd Ida ar ynys Creta, a rhoddodd garreg, yr Omphalos, mewn dillad baban i Cronos ei llyncu. Wedi iddo dyfu, gorfododd Zeus ei dad i chwydu ei frodyr a'i chwiorydd, a bu rhyfel rhyngddynt hwy a'r Titaniaid, a diorseddwyd Cronos gan Zeus. Yn ôl rhai fersiynau, carcharwyd ef yn Tartarus; yn ôl Pindar daeth yn frenin Elysium.

Ceir yr hanes yn y Theogonia, a briodoloir i Hesiod.