Ysgol Gymraeg Treganna

ysgol gynradd yng Nghaerdydd

Ysgol gynradd Gymraeg yn ardal Treganna, Caerdydd yw Ysgol Gymraeg Treganna. Y prifathro presennol yw Rhys G. Harries.[2]

Ysgol Gymraeg Treganna
Sefydlwyd 1987
Math Cynradd, y Wladwriaeth
Cyfrwng iaith Cymraeg
Pennaeth Rhys G. Harries
Lleoliad Sanatorium Road, Treganna, Caerdydd, Cymru, CF11 8DG
AALl Cyngor Caerdydd
Disgyblion 482 (2014)[1]
Rhyw Cyd-addysgol
Oedrannau 4–11
Gwefan http://www.ysgoltreganna.co.uk/

Sefydlwyd yr ysgol ym 1987, a hyd at 2013 rhannai ei safle ag ysgol gynradd Saesneg Radnor Road.[3] Symudodd i'w safle newydd, a adeiladwyd ar gost o oddeutu £9 miliwn, ym mis Medi 2013.[4].

Mae dalgylch yr ysgol (o 2013 ymlaen) yn ymestyn o ardal Lansdowne Gardens yn y de i gaeau Llandaf a Heol Pencisely yn y gogledd, ac o Severn Road a Severn Grove yn y dwyrain i Heol Elái a Rhodfa'r Gorllewin yn y gorllewin. Fe aiff y disgyblion ymlaen i Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr ym mlwyddyn 7 yn y system addysg.

Yn 2012, deuai 59% o'r disgyblion o gartrefi a oedd â'r Saesneg yn brif iaith, ond siaradai 80% y Gymraeg yn iaith gyntaf neu i safon gyfwerth.[5] Yn 2006, deuai 70% o'r disgyblion o gartrefi a oedd â'r Saesneg yn brif iaith.[3]. Yn 2014 roedd 14.5% o’r disgyblion yn hanu o gefndir ethnig lleiafrifol.[1]

Disgrifiwyd yr ysgol yn adroddiad Estyn 2006 fel 'ysgol dda gyda nifer o nodweddion rhagorol'.[3]. Yn 2012, adroddwyd bod perfformiad presennol yr ysgol a'i rhagolygon gwella yn "dda".[5]


Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 'Fy Ysgol Leol: Ysgol Treganna; gwelwyd 2 Mawrth 2015. Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; mae'r enw "Fy Ysgol Leol: Ysgol Treganna" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
  2.  School Details: Ysgol Gymraeg Treganna. Cyngor Caerdydd.
  3. 3.0 3.1 3.2  Arolygiad dan Adran 10 Deddf Arolygiadau Ysgolion 1996: Ysgol Gymraeg Treganna, 3 Ebrill 2006. ESTYN (24 Mawrth 2012).
  4. Golwg360, 'Ysgol Gymraeg yn agor dair blynedd ar ôl ffrae'; gwelwyd 2 Mawrth 2015.
  5. 5.0 5.1  Adroddiad ar Ysgol Gymraeg Treganna, Ionawr 2012. ESTYN (24 Mawrth 2012).

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.