Archif Gwladwriaeth Abchasia

archif genedlaethol, ac i bob pwrpas, llyfrgell genedlaethol Abchasia

Mae Archif Gwladwriaeth Abchasia (Abchaseg: Аҧсны Аҳәынҭқарра аҳәынҭқарратә архивтә усбарҭа; Rwsieg: Государственное архивное управление Ресеиеиби) wedi'i leoli yn Aqwa, prifddinas Abchasia. Mae Abchasia yn wladwriaeth a chenedl annibynnol yn y Cawcasws nad sy'n cael ei chydnabod yn ryngwladol gan y rhan fwyaf o wledydd ac mae Georgia yn dal i fynnu rheolaeth drosto er nad oes ganddi'r grym.

Archif Gwladwriaeth Abchasia
Enghraifft o'r canlynolarchifdy cenedlaethol Edit this on Wikidata
Baner gwladwriaeth anghydnabiedig Abchasia

Yr Archif Wladwriaethol oedd, i bob pwrpas, Llyfrgell Genedlaethol Abchasia a dyna sut y'i hystyrid gan yr Abchasiaid.[1] Er i'r Abchasiaid gweld ei hunain fel cenedl titiwlar Abchasia, doedd y statws swyddogol hynny heb ei dadogi arnynt yn ôl system gymhleth a gwleidyddol y cyn Undeb Sofietaidd ac oherwydd gwrthwynebiad Georgia i'r cysyniad o Abchasia fel cenedl lawn arwahân. Lleolir yr Archif ar ul. Lakoba, 111, Aqua (Sukhum).

Hanes golygu

Sefydlwyd rhagflaenydd Archif Gwladwriaeth Abchasia ym mis Mawrth 1929, pan fabwysiadodd Presidiwm y Pwyllgor Gwaith Canolog a Chyngor Comisiynau Pobl Gweriniaeth Sofietaidd Sosialaidd Abchasia benderfyniad ynghylch “Trefniadaeth Materion Archifol”.[2] Ym mis Hydref 1992, yn ystod y Rhyfel Annibyniaeth Abkhasia, dinistriodd tân adeilad yr archif; honnodd ffynonellau Abchaseg fod yr archif wedi'i llosgi i lawr yn fwriadol gan luoedd Georgia. Dinistriwyd tua 90% o'r dogfennau sydd wedi'u harchifo. Ond yn Georgia, mae llawer o bobl yn anghytuno â'r syniad bod yr archif wedi'i llosgi yn fwriadol.[2][3] Yr un diwrnod ag y llosgodd Archif Wladwriaeth Abchasia, fe losgodd Sefydliad Ymchwil Gwyddonol-Ymchwil Abchasia mewn Iaith, Llenyddiaeth a Hanes (ABNII, ym 1922 wrth i Gymdeithas Wyddonol Abchasia, ABNO) hefyd.[4]

Yn ystod Trafodaethau Rhyngwladol Genefa, rhoddodd llywodraeth ganolog Georgia ddogfennau archifol pwysig i awdurdodau de facto Abkhazia yn 2015.[5] Yn ogystal, flwyddyn yn ddiweddarach cynlluniwyd cyfarfod o bennaeth Archif Wladwriaeth Abchasia gyda chyfarwyddwr Archifau Cenedlaethol Georgia.[6]

Difrod a Cholled golygu

Llosgwyd yr Archif genedlaethol ar 22 Hydref 1992. Mewn un noson roedd hanes dogfennol Abchasia bron wedi'i ddileu. Dinistriwyd 95% o'r archif. Yr unig ran a oroesodd fwy neu lai o gwbl oedd yr archif radio o'r 1930au. Ni chadwyd unrhyw beth o'r casgliad helaeth o'r 19g.[7]

Collwyd y stoc gyfan o rifynnau prin a gwerthfawr, a oedd yn cynnwys tua 6,000 o gyfrolau, yn y Llyfrgell Genedlaethol (yn ogystal â cholledion a difrod i lyfrgelloedd eraill a lleol Abchasia o ganlyniad i'r Rhyfel). Ni oroesodd hyd yn oed catalogau cardiau'r cyfrolau coll. O ganlyniad, mae'n anodd dweud nawr pa ddogfennau a ddinistriwyd, ac bu'n rhaid i'r awdurdodau chwilio trwy'r cofnodion yn y llyfrau cofrestru. Yn ogystal â chasgliadau yn ymwneud â'r Abchasiaid ethnig llosgwyd archifau gwerthfawr y Groegiaid Pontic hefyd - cymuned sydd wedi bod ar y tiriogaeth ers cannoedd o flynyddoedd.[8]

Bu angen buddsoddiad cyfalaf enfawr ar y Llyfrgell Genedlaethol gan bod 15,000 metr sgwâr wedi eu llosgi yn ystod y Rhyfel.

Nododd adroddiad gan yr Unrepresented Peoples and Nations Organisation:

"that removal or destruction of the principal materials and buildings of important historical and cultural importance to Abkhazians has taken place in what appears to be an organized attempt to destroy Abkhazian culture and national identity." (Unrepresented Peoples and Nations Organisation: Tachwedd 1992 Adroddiad Cennad i Abchasia 'Mission to Abkhazia Report') [9]

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://abkhazworld.com/aw/interview/106-issues-points-memo-boris-cholaria
  2. 2.0 2.1 Бадрак Авидзба: “Казненные” документы – Из истории Госархива Абхазии, sputnik-abkhazia.ru 15 March 2016.
  3. Patrik Salat: How Abkhazia is trying to restore its historic archive which burned down 27 years ago during the Georgian-Abkhaz conflict, jam-news.net 28 January 2020.
  4. Rachel Clogg: Documents from the KGB archive in Sukhum. Abkhazia in the Stalin years, in: Central Asian Survey, Vol. 14 (1995), No. 1, pp. 155–189 (here: p. 158). Available here. Fersiwn am ddim yma.
  5. "De-facto Abkhazian Government Receives Important Archival Documents, georgiatoday.ge 8 October 2015". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-01. Cyrchwyd 2020-07-01.
  6. "The restoration of the incident prevention mechanism will be discussed at the forthcoming round of the Geneva Discussions, apsnypress.info 4. March 2016". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-14. Cyrchwyd 2020-07-01.
  7. https://abkhazworld.com/aw/conflict/745-abkhazias-archive-de-waal
  8. https://www.gosarchive.apsny.land/ru/novosti/item/152-mezhdunarodnaya-konferentsiya-arkhiv-kak-atribut-gosudarstvennosti-den-2 yn Rwsieg
  9. http://www.abkhazworld.com/Pdf/AbkGeo1992Report.pdf

Nodyn:Eginyn Abchasia