Sukhumi
Prifddinas Abchasia yw Sukhumi, Sukhum (Rwseg: Sukhum; Georgeg: სოხუმი, Sukhumi). Aqwa (Abchaseg: Aҟəa) yw enw Abchaseg ar y lle. Mae'n ddinas fechan ar lan ddwyreiniol y Môr Du. Fe'i difrodwyd yn ystod yn ystod y rhyfel yn 1992-93 gyda lluoedd Jorjia oedd yn ceisio cadw Abchasia yn dalaith o fewn ei gwlad ac sy'n dal i ystyried Abchasia yn rhan o Jorjia, er nad oes rheolaeth de facto gan Jorjia dros Abchasia ers yr 1990au cynnar. Y boblogaeth yw 43,700 o bobl (2003).
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 64,441 |
Cylchfa amser | UTC+03:00, Amser Moscfa |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Abchaseg, Rwseg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gweriniaeth Ymreolaethol Abchasia, Principality of Abkhazia, Kutaisi Governorate, Sukhumi Okrug, Socialist Soviet Republic of Abkhazia, Abkhaz Autonomous Soviet Socialist Republic, Bwrdeistref Sukhumi |
Gwlad | Georgia |
Arwynebedd | 27 km² |
Uwch y môr | 20 metr |
Cyfesurynnau | 43.0036°N 41.0192°E |
Cod post | 384900, 6600 |
Hanes
golyguMae hanes y ddinas yn fwy na 2,500 mlwydd oed. Mae'n un o'r dinasoedd hynaf yn y byd. Ar safle'r ddinas hyd at y ganrif 4g CC oedd trefedigaeth Roegaidd y Diaspora (a enwyd ar ôl brodyr y Diaspora), a oedd yn ddiweddarach yn perthyn i deyrnas Pontic. Mae'r enw hynaf "Aku" i'w gael mewn arysgrif Roegaidd ar ddarnau arian aur bathdy Colchis (300-200 CC) ac fe'i cymharir ag enw Abchasaidd ar y ddinas - Akua. Yn ddiweddarach, adeiladwyd caer Rufeinig, Sebastopolis yn y lle hwn. Ers 736, gelwir yr anheddiad yn Chum (o'r enw Abkhazian "Guma") fel rhan o deyrnas Abchasia. Yn yr Oesoedd Canol - dinas Chumi yn nheyrnas Georgia, o ail hanner yr 16g - o dan lywodraeth y Twrciaid: ym 1724 adeiladwyd caer Twrcaidd Sukhum-Kale ar y Môr Du. O ddiwedd y 18g hyd 1808 ac o 1864 - prifddinas Abchasia. Fe’i concrwyd gan Ymerodraeth Rwsia ym 1810 a derbyniodd statws dinas ym 1848. Ar ôl diddymu tywysogaeth Abchasia ym 1864, daeth yn ganolbwynt adran filwrol (rhanbarth) Sukhumi o dan lywodraethwr cyffredinol Kutaisi, ac o 1866 ymlaen. o ardal Sukhumi yn nhalaith Kutaisi.
Ar ôl Chwyldro Rwsieg Hydref 1917, fe blymiwyd y ddinas, ac Abchsia yn gyffredinol, i anhrefn rhyfel cartref. Byrhoedlog oedd y rheolaeth Bolsiefic, daeth i ben ym mis Mai 1918 ac ymgorfforwyd Sukhum yng Ngweriniaeth Ddemocrataidd Georgia fel preswylfa Cyngor Pobl Ymreolaethol Abchasia a phencadlys Llywodraethwr Cyffredinol Georgia. Ail-gipiodd y Fyddin Goch a chwyldroadwyr lleol y ddinas oddi ar filwyr Georgaidd ar 4 Mawrth 1921, a chyhoeddi rheolaeth Sofietaidd. Sukhumi oedd prifddinas Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Abchas a unwyd â SSR Georgia 1921 i 1931, pan ddaeth yn brifddinas Gweriniaeth Sosialaidd Ymreolaethol Sofietaidd Abchasia o fewn SSR Georgia. Ym 1989, roedd gan Sukhumi 110,000 o drigolion ac roedd yn un o ddinasoedd mwyaf llwyddiannus Georgia. Roedd yna lawer o gyrchfannau haf arweinwyr Sofietaidd.
Annibyniaeth Abchasia
golyguYn 1989-1993, Suchum oedd canolbwynt y gwrthdaro rhwng Georgia ac Abchasia, a ddinistriodd y rhan fwyaf o'r ddinas. Yn ystod gwarchae Abchasaidd ar y ddinas (1992-1993), dioddefodd y ddinas a'i chyffiniau streiciau awyr a chregyn bron bob dydd, gyda llawer o anafusion sifil. Ar 27 Medi 1993, daeth y frwydr dros Sukhum i ben gydag ymgyrch dorfol o carthu ethnig yn erbyn mwyafrif y boblogaeth Georgaidd (cyflafan Sukhumi), gan gynnwys aelodau o lywodraeth Abkhaz (Zhivli Shartava, Raul Eshba, ac ati) a Maer Sukhum Guram Gabiskiria Er bod y ddinas wedi'i hailadeiladu'n rhannol, mae'n dal i brofi effeithiau'r rhyfel, ac nid yw wedi ailsefydlu ei hamrywiaeth ethnig flaenorol (tan 1992, defnyddiwyd 9 iaith wahanol yma).
Enw'r ddinas
golyguYn ystod y goresgyniadau Twrcaidd ac Arabaidd (yr Oesoedd Canol), oherwydd seineg yr ieithoedd Tyrcig ac Arabeg, nad ydynt yn derbyn presenoldeb cytseiniaid olynol (Ts Ch - 'ch' Gymraeg)), absenoldeb y sain "Ts" a'i phontio i'r sain " S ", mae enw'r ddinas yn newid yn raddol - Ts ch um → Shu → Sukhum (Sukhum-kale (" cêl "- caer) (Tyrcig)).
Yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rwseg, newidiwyd enwau dan ddylanwad yr iaith Rwsieg - Sukhum, Batum.
O fis Awst 1936, ar ôl ymgorffori Abkhazia yn SSR Georgia ym 1931, fe’i galwyd yn swyddogol yn Sukhumi. Ar 4 Rhagfyr, 1992, yn sesiwn Rada Verkhovna yng Ngweriniaeth Abkhazia, adferwyd enw dinas Sukhum (heb yr i-dot 'Georgaidd).
Demograffeg
golyguCrynodeb hanesyddol o ddemograffeg y ddinas, o ddata cyfrifiad:[1]
Blwyddyn | Abchasiaid | Armenianiaid | Estoniaid | Georgiaid | Groegiaid Pontic | Rwsiaid | Twrciaid | Iwcraniaid | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyfrifiad 1897 | 1.8% (144) |
13.5% (1,083) |
0.4% (32) |
11.9% (951) |
14.3% (1,143) |
0.0% (1) |
2.7% (216) |
7,998 | |
Cyfrfiad 1926 | 3.1% (658) |
9.4% (2,023) |
0.3% (63) |
11.2% (2,425) |
10.7% (2,298) |
23.7% (5,104) |
--- | 10.4% (2,234) |
21,568 |
Cyfrifiad 1939 | 5.5% (2,415) |
9.8% (4,322) |
0.5% (206) |
19.9% (8,813) |
11.3% (4,990) |
41.9% (18,580) |
--- | 4.6% (2,033) |
44,299 |
Cyfrifiad 1959 | 5.6% (3,647) |
10.5% (6,783) |
--- | 31.1% (20,110) |
4.9% (3,141) |
36.8% (23,819) |
--- | 4.3% (2,756) |
64,730 |
Cyfrifiad 1979 | 9.9% (10,766) |
10.9% (11,823) |
--- | 38.3% (41,507) |
6.5% (7,069) |
26.4% (28,556) |
--- | 3.4% (3,733) |
108,337 |
Cyfrifiad 1989 | 12.5% (14,922) |
10.3% (12,242) |
--- | 41.5% (49,460) |
--- | 21.6% (25,739) |
--- | --- | 119,150 |
Cyfrifiad 2003 | 65.3% (24,603) |
12.7% (5,565) |
0.1% (65) |
4.0% (1,761) |
1.5% (677) |
16.9% (8,902) |
--- | 1.6% (712) |
43,716 |
Cyfrifiad 2011 | 67.3% (42,603 ) |
9.8% (6,192) |
--- | 2.8% (1,755) |
1.0% (645) |
14.8% (9,288) |
--- | --- | 62,914 |
Gwybodaeth Gyffredinol
golyguLleolir Akwa ar fael eang ar ochr ddwyreiniol y Môr Du ac mae'n gweithredu fel porthladd, cyffordd reilffordd a chanolfan wyliau. Mae'n adnabyddus am ei thraethau, sanatoria, sba dŵr mwynol a hinsawdd is-drofannol. Mae Maes awyr Suckumi Dranda hefyd ger llaw y ddinas. Mae'r brifddinas yn cynnwys nifer o westai bychain a chanolig eu maint sy'n gwasanaethu twristiaid o Rwsia, gan fwyaf. Sefydlwyd Gerddi Fotanegol Sukhum yn 1840 a dyma'r ardd fotanegol hynaf yn ardal y Cawcasws.
Mae gan y ddinas nifer o athrofeydd ymchwil gan gynnwys Prifysgol Wladwriaethol Abchasia ac Athrofa Agored Suckum. Rhwng 1945 i 1954 roedd labordy electro-ffiseg y ddinas yn rhan o raglen i ddatblygu arfau niwclear yr Undeb Sofietaidd. Lleolir hefyd Archif Gwladwriaeth Abchasia yn y ddinas - dyma'r Archif genedlaethol a losgwyd yn ilw gan y Georgiaid yn y Rhyfel Annibyniaeth Abchasia yn 1993-94.[2]
Mae'r ddinas yn aelod o'r International Black Sea Club[3]
Oriel
golygu-
Mynedfa Gardd Fotanegol Akwa, 2008
-
Prifysgol Wladwriaethol Akwa, 2013
-
Glan môr Sukhum, Ionawr 2013
-
Panorama Akwa
-
Stryd yn Akwa gyda banner a slogan mewn Abchaseg
-
Preswylfa Arlywydd Abchasia a chanolfan y Llywodraeth
-
Tŷ wedi ei difrodi yn y rhyfel, 2008
-
Cofeb i Ryfel Annibyniaeth 1993-94
-
Canol Akwa
-
Rhodfa yn Akwa
-
tu fewn caffe yn Akwa
Gefeilldrefi
golyguMae gan Akwa sawl gefeilldref ryngwladol:
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Population censuses in Abkhazia: 1886, 1926, 1939, 1959, 1970, 1979, 1989, 2003 Nodyn:In lang
- ↑ https://abkhazworld.com/aw/conflict/690-a-history-erased
- ↑ "International Black Sea Club, members". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 July 2011. Cyrchwyd 30 May 2008.
- ↑ "Сайт Администрации г.Подольска – Побратимы". Admpodolsk.ru. 2016-06-15. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 July 2015. Cyrchwyd 2016-06-26.
- ↑ "Новости". Apsnypress.info. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mehefin 2011. Cyrchwyd 26 Mehefin 2016.
- ↑ "12 мая между городами Абхазии и Италии были подписаны Протоколы о дружбе и сотрудничестве". Mfaapsny.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 26 Mehefin 2016.
- ↑ "Il Sulcis rafforza il legame con i paesi dell'Est europeo, sottoscritto questa sera un protocollo d'amicizia con l'Abkhcazia". Laprovinciadelsulcisiglesiente.com. 2013-04-09. Cyrchwyd 2016-06-26.