Archif Menywod Cymru
Mae Archif Menywod Cymru (Saesneg: Women's Archive Wales (AMC/WAW) yn elusen sy'n gweithio i ganfod a chadw adnoddau ar gyfer astudio menywod yn hanes Cymru. Sefydlwyd yn 1997.
Enghraifft o'r canlynol | archif, women's archives |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1997 |
Amcanion
golyguDiffinnir ei amcanion fel: "Adnabod ac achub deunyddiau sy'n ymwneud â bywydau menywod yng Nghymru yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol, ac annog eu hadneuo mewn cadwrfeydd cyhoeddus priodol" a "Hybu dealltwriaeth o rolau menywod yn hanes Cymru, a'r cynhwysiant o fenywod mewn hanes a addysgir mewn ysgolion ac addysg uwch.”[1]
Mae AMC/WAW yn cefnogi ymchwil ac astudiaeth i hanes merched yng Nghymru, gan gynnwys merched Cymreig a merched eraill sydd wedi byw neu weithio yng Nghymru neu sydd wedi cyfrannu at hanes Cymru.[1]
Fe'i cyd-sefydlwyd gan Ursula Masson, a oedd wedi sicrhau cyllid ymchwil ym 1995 i ddogfennu hanes mudiad rhyddhau menywod yng Nghymru. Ym mis Rhagfyr 1997 trefnodd hi a’i chynorthwyydd ymchwil Avril Rolph gyfarfod o lyfrgellwyr, archifwyr, haneswyr a phartïon eraill â diddordeb, a arweiniodd at ffurfio AMC/WAW. Cynhaliwyd y Cyfarfod Cyffredinnol gyntaf yn 1998 ac etholwyd yr hanesydd Deirdre Beddoe yn gadeirydd.[2][3]
Casgliadau
golyguCedwir casgliadau AMC/WAW mewn archifau sirol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru, a llyfrgelloedd prifysgolion a llyfrgelloedd eraill.[4]
Gweithgaredd
golyguMae'r Archif yn cynnal darlithoedd a chynhadleddau, yn aml ar-lein er mwyn hwylustod i aelodau a'r cyhoedd. Mae'r nifer o'r rhain yn y Gymraeg a'r prosiectau mawrion yn ddwyieithog.
Teithiau Treftadaeth
golyguMae'r Archif yn trefnu Teithiau Treftadaeth mewn gwahanol ardaloedd o Gymru er mwyn cyflwyno hanes menywod y fro. Fel enghraifft, trefnwyd 'Sioe Ar Daith: Hanes Menywod Cymru' yn y Gogledd yn Oriel Môn yn 2009 gyda Nia Powell o Adran Hanes Cymru Prifysgol Bangor, ac Annie Williams o Goleg Harlech yn traddodi darlithoedd.[5]
Cyhoeddwyd adnodd Teithiau Treftadaeth Menywod Cymru sy'n cynnig llwybrau cerdded yn dangos hanes a phrif nodweddion hanes menywod ar draws Cymru ar gyfer trefi: Abertawe, Aberystwyth, Bangor, Y Barri, Caerdydd, Caerfyrddin, Casnewydd, Y Fenni, Llandudno, Merthyr Tudful, Narberth, Penarth, Y Fenni, Pontypridd, a Wrecsam.[6] Mae AMC yn rhedeg amryw o brosiectau gan gynnwys:[7]
- Gwir Gofnod o Gyfnod - Setting the Record Straight (2019-2021)
Arddangosfeydd
golyguCynhelir arddangosfeydd ar themâu arbennig a nifer ohonynt wedi ei digido ac ar wefan yr Archif:
- Canrif Gobaith - Century of Hope (2018-2019). Gellir gweld ffilm o ddigwyddiadau'r prosiect, a ddangoswyd yn ystod Eisteddfod AmGen 2021 (gan i Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2020 cael ei chanslo oherwydd Covid-19.
- Sioeau ar Daith Hanes Menywod yng Nghymru (2007-2010)
- Lleisiau o Lawr y Ffatri (2013-15) Ceir gwefan i'r Prosiect
- Menywod yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf – y Profiad Cymreig (2015-16) Ceir gwefan benodol i'r Prosiect
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "About us". AMF/WAW. Cyrchwyd 1 November 2019.
- ↑ "History". AMC/WAW. Cyrchwyd 1 November 2019.
- ↑ "Ursula Masson". 100+ Welsh Women. WEN Wales. Cyrchwyd 1 November 2019.
- ↑ "Our collections". AMC/WAW. Cyrchwyd 1 November 2019.
- ↑ "Sioe Ar Daith: Hanes Menywod Cymru". =BBC Cymru Fyw. 2009. Cyrchwyd 31 Ionawr 2024.
- ↑ "Teithiau Treftadaeth Menywod". Gwefan Archif Menywod Cymru. Cyrchwyd 31 Ionawr 2024.
- ↑ "Amdanom". Gwefan Archif Menywod Cymru. Cyrchwyd 31 Ionawr 2024.