Placiau Porffor menywod Cymru

cynllun cydnabod merched nodedig Cymru

Nod y cynllun Placiau Porffor, yw gosod placiau ar adeiladau yng Nghymru i gynyddu adnabyddiaeth o fywydau menywod sydd wedi cael effaith sylweddol a hirhoedlog mewn cysylltiad â Chymru.[1]

Placiau Porffor menywod Cymru
Enghraifft o'r canlynolcofeb Edit this on Wikidata
CrëwrJulie Morgan Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2017 Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Dechreuwyd y cynllun gan sawl aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, dan arweiniad Julie Morgan, Aelod Gogledd Caerdydd.[2] Dewiswyd y lliw porffor oherwydd ei gysylltiad â mudiad y bleidlais i fenywod. Trefnwyd y cynllun i ddechrau mewn partneriaeth â’r elusen cydraddoldeb rhywiol Chwarae Teg[3] ac wedi hynny daeth yn elusen annibynnol.

Fe’i lansiwyd ar 8 Mawrth 2017 (Diwrnod Rhyngwladol y Menywod) gyda’r nod o osod y plac cyntaf ar adeilad y Senedd i goffau Val Feld. Mae'r placiau yn seramig gwydredd porffor gyda llythrennau gwyn. Ers 2017, mae rhwng un a thri phlac wedi'u gosod bob blwyddyn[4]

Mae’r meini prawf ar gyfer plac yn cynnwys bod rhaid i’r person fod yn fenyw marw gyda chysylltiadau cryf â Chymru, a bod yn rhaid ei bod wedi gwneud cyfraniad nodweddiadol yng Nghymru neu du hwnt. Bydd maint ei heffaith ar fenywod, gan gynnwys fel model rôl, hefyd yn cael ei hystyried, yn ogystal ag a yw hi eisoes wedi cael ei choffáu.[5][6] Yn ogystal â'r rhai sydd eisoes yn adnabyddus ond nad ydynt efallai wedi'u coffáu'n gyhoeddus eto, mae'r cynllun yn ceisio'n arbennig i gydnabod menywod nad ydynt wedi cael eu cydnabod o'r blaen.[7] Bydd ystyriaethau ymarferol megis yr angen am ganiatâd cynllunio hefyd yn cael eu hystyried.

Placiau wedi'u gosod golygu

Mae placiau porffor wedi'u gosod [7] i nodi'r canlynol:[8]

  • Val Feld, ar adeilad y Senedd 2018. Un o benseiri datganoli i Gymru; Cyfarwyddwr a sylfaenydd Shelter Cymru; ymgyrchydd dros gydraddoldeb cymdeithasol a rhyw. [9]
  • Ursula Masson, a osodwyd yn Llyfrgell Ganolog Merthyr Tudful 2019. Academydd yn arbenigo mewn hanes merched a ffeministiaeth; sefydlodd Canolfan Astudiaethau Rhywedd Cymru ym Mhrifysgol De Cymru.[10]
  • Megan Lloyd George, ar gartref ei theulu yng Nghricieth 2019. Aelod Seneddol benywaidd cyntaf dros etholaeth Gymreig. [7]
  • Angela Kwok, ar siop bwyd parod ei theulu ym Mhontcanna 2020. Pencampwr dros bobl Tsieineaidd yn ne Cymru. [11]
  • Eunice Stallard, ar Neuadd Les y Glowyr, Ystradgynlais 2020. Ymgyrchydd heddwch ac actifydd gwleidyddol. [7]
  • Martha Gellhorn, ar ei bwthyn ymddeol yn Devauden 2021. Gohebydd rhyfel Americanaidd, nofelydd, awdur teithio, a newyddiadurwr. [12]
  • Charlotte Price White, ar ei chartref teuluol ym Mangor 2021. Swffragét ac Ymgyrchydd Heddwch. [13]
  • Dinah Williams, ar feudy yn ei chartref yn y Borth, Ceredigion, 2021. Ffermwraig organig ac entrepreneur arloesol. [14]
  • Eirene White, y Farwnes White ar Neuadd y Dref y Fflint ym mis Mehefin 2022. Hi oedd un o’r tair menyw gyntaf i gynrychioli Cymru yn Senedd y DU, ac yn wir unig AS benywaidd Cymru am ddeng mlynedd. [15]
  • Thora Silverthorne, yn Abertyleri ym Mai 2022. Aelod o’r Frigâd Ryngwladol, Undebwraig Llafur a Nyrs[16]
  • Dr Frances Hoggan, ar siop ar Stryd Fawr, Aberhonddu, 3 Mawrth 2023, sef y man ganwyd hi .Y Gymraes gyntaf a'r ail ferch drwy Ewrop i dderbyn gradd mewn meddygaeth. Bu hefyd yn ymgyrchydd brwd dros hawliau addysg i ferched Cymru[17]
  • Patti Flynn, ar Ganolfan y Mileniwm 24 Mawrth 2023. Cantores, awdur, actor, ymgyrchydd dros roi cydnabyddiaeth i filwyr o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac un o sefydlwyr Mis Hanes Pobl Dduon yng Nghymru.[18]
  • Rose Davies, ar Amgueddfa Cwm Cynon, Aberdâr 18 Mai 2023. Cynghorydd benywaidd cyntaf Sir Forgannwg, sefydlydd Apêl Heddwch Menywod Cymru[19]
  • Annie Jane Hughes Griffiths - arweinydd Apêl Heddwch Menywod Cymru, sef deiseb heddwch a arwyddwyd gan bron 400,000 o fenywod Cymru yn 1923 ac a gyflwynwyd i Arlywydd yr Unol Daleithiau. Ceir y plac ar dŷ Rolant Ellis, ŵyr i Annie Jane drwy ei mab Iorwerth ei phlentyn o'i phriodas gyntaf i Aelod Seneddol Meirionnydd oedd o blaid ymreolaeth, Thomas Edward Ellis.[20]
  • Jemima Nicholas- Neuadd y Dref, Abergwaun 24 Chwefror 2024. Arwres Gymreig Brwydr Abergwaun[21][22]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "About Purple Plaques / Ynglŷn â'r Placiau Porffor – Purple Plaques". Cyrchwyd 2023-03-03.
  2. Cavill, Nancy (3 Mawrth 2023). "The war reporter and her 'retreat' in Wales; Nancy Cavill uncovers the little-known links between an American war correspondent and novelist and Wales - as a Purple Plaque is unveiled in her memory at her former home in Monmouthshire... pages 12 - 14". The Western Mail.
  3. "Ynglŷn â'r Placiau Porffor". Chwarae Teg. Cyrchwyd 2023-03-03.
  4. Mosalski, Ruth (2017-03-08). "Purple plaque bid to mark women's contribution to Welsh life". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-03-03.
  5. "Who are Purple Plaques for? Guidelines for proposing a Purple Plaque". Purple plaques. Cyrchwyd 3 Mawrth 2023.
  6. Rieder, Duncan (27 April 2019). "Chwarae Teg calls for Purple Plaques to honour remarkable women in North Wales for International Day of the Girl". Denbighshire Free Press. Cyrchwyd 3 Mawrth 2023.
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 "Purple Plaque stories / Storïau'r Placiau Porffor – Purple Plaques". Cyrchwyd 2023-03-03.
  8. "Merched nodedig y Placiau Porffor". BBC Cymru Fyw. 2023-03-08. Cyrchwyd 2023-03-08.
  9. "Val Feld". 100+ Welsh Women. Cyrchwyd 3 Mawrth 2023.
  10. "Darlith Goffa Ursula Masson". Canolfan Astudiaethau Rhywedd yng Nghymru. Cyrchwyd 3 Mawrth 2023.
  11. "Chinese community champion honoured with purple plaque in Cardiff". BBC News. Cyrchwyd 3 Mawrth 2023.
  12. "Reporter Martha Gellhorn honoured with purple plaque". BBC News (yn Saesneg). 2023-03-03. Cyrchwyd 2021-07-02.
  13. "Coffáu ymgyrchwraig gynnar". Prifysgol Bangor. Cyrchwyd 2023-03-03.
  14. "Rachel's Dairy founder honoured with purple plaque". BBC News. Cyrchwyd 3 Mawrth 2023.
  15. "Cofio AS oedd yn 'un o wleidyddion arloesol ei hoes'". BBC Cymru Fyw. 2022-06-10. Cyrchwyd 2023-03-03.
  16. "Dadorchuddio Plac Porffor i nyrs "arloesol a dewr" o Abertyleri". Golwg360. 2022-05-13. Cyrchwyd 2023-03-03.
  17. "Dadorchuddio plac porffor i gofio am y Gymraes gyntaf i ennill gradd feddygol". Golwg360. 2023-03-03. Cyrchwyd 2023-03-03.
  18. "Plac porffor yn dathlu cyfraniad menyw ddu am y tro cyntaf". newyddion.s4c.cymru. Cyrchwyd 2023-03-24.
  19. "Merched nodedig y placiau porffor". BBC Cymru Fyw. 2023-03-08. Cyrchwyd 2023-08-19.
  20. "Plac porffor i ymgyrchydd heddwch o Geredigion". BBC Cymru Fyw. 3 Tachwedd 2023.
  21. "Pwy oedd Jemima Nicholas?". BBC Cymru Fyw. 2024-02-23. Cyrchwyd 2024-02-24.
  22. Morris, Steven (2024-02-24). "Welsh woman 'who took on French invaders' with pitchfork wins recognition". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2024-02-25.