Archifau Gwent
Archifau Gwent yw'r swyddfa gofnodion leol a chanolfan achau, a leolir yng Nglynebwy, De Cymru ar gyfer sir hanesyddol Sir Fynwy . Mae'n cwmpasu ardaloedd awdurdodau lleol modern Blaenau Gwent, Bwrdeistref Sirol Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.[1]
Math | archif |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | British Steel Tinplate Works General Office |
Sir | Blaenau Gwent |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Cyfesurynnau | 51.7774°N 3.20232°W |
Cod post | NP23 6AA |
Cefndir
golyguSefydlwyd Archifdy Sir Fynwy yn 1938 yn Neuadd y Sir yng Nghasnewydd. Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974, daeth yn Archifdy Sirol Gwent a symudodd i Neuadd y Sir newydd yng Nghwmbrân.[2] Ym mis Hydref 2011 symudodd yr archifdy o Gwmbrân i safle newydd yng Nglynebwy a chafodd ei ailenwi eto i Archifau Gwent. [3]
Lleoliad
golyguMae Archifau Gwent yn adeiladau swyddfa rhestredig Gradd II* Gwaith Dur Glyn Ebwy. Adeiladwyd yr adeilad yma yn 1915/6 ar gyfer Cwmni Haearn a Dur Glynebwy. [4] Yn 2009 cymeradwywyd cynlluniau i'r penseiri Stride Treglown addasu'r adeilad yn bencadlys ar gyfer Archifdy Gwent, gydag estyniad newydd, gofodau arddangos ac addysgiadol.[5] [6] Gorffennwyd yr adeilad gyda cherdd ddwyieithog a ysgrifennwyd yn arbennig gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke, sydd wedi'i hatgynhyrchu'n rhannol ar ffasâd yr estyniad newydd. [7]
Casgliadau
golyguMae gan Archifau Gwent ddwy brif ystafell ddiogel gyda 6 milltir (10 km) o silffoedd, [8] yn cynnwys cofnodion yn dyddio o'r 12fed ganrif. [9] Mae gan yr ystyniad newydd do dwbl i helpu i gadw tymheredd ac amgylchedd sefydlog. [10] Mae Ymddiriedolaeth Archifau Gwaith Dur Glynebwy, [11], grŵp gwirfoddol sy'n casglu hanes y diwydiant yn yr ardal, hefyd wedi'i leoli yn yr Archifau. [10]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwent Archives / Archifau Gwent - Archives Hub". archiveshub.jisc.ac.uk. Cyrchwyd 2023-03-08.
- ↑ "Gwent Archives". Culture24. Cyrchwyd 16 February 2016.
- ↑ "Gwent records office to open next month". South Wales Argus. 29 September 2011. Cyrchwyd 16 February 2016.
- ↑ "British Steel Tinplate Works General Office, Ebbw Vale South". British Listed Buildings. Cyrchwyd 16 February 2015.
- ↑ "Stride Treglown's Gwent Record Office gets green light". Building Design. 28 July 2009. Cyrchwyd 16 February 2016.
- ↑ "Gwent Archive and Genealogy Centre". Stride Treglown. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-05-06. Cyrchwyd 16 February 2015.
- ↑ "Gillian Clarke pens new poem for opening of Gwent Archives". BBC Wales blog. 9 December 2011. Cyrchwyd 16 February 2016.
- ↑ "New Gwent archives centre launches". Who Do You Think You Are? (Magazine). 15 November 2011. Cyrchwyd 16 February 2016.[dolen farw]
- ↑ "Gwent Archives collection". www.gwentarchives.gov.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-26. Cyrchwyd 2019-04-26.
- ↑ 10.0 10.1 Nicola Smith (24 October 2011). "Ebbw Vale steelworks office reopens after £12m refit". BBC News. Cyrchwyd 16 February 2016.
- ↑ "The Ebbw Vale Works Museum Home". evwat.co.uk. Cyrchwyd 2019-04-26.