Ardal Dwyrain Swydd Northampton
ardal an-fetropolitan yn Swydd Northampton
Ardal an-fetropolitan yn Swydd Northampton, Dwyrain Canolbarth Lloegr, oedd Ardal Dwyrain Swydd Northampton (Saesneg: East Northamptonshire District) rhwng 1974 a 2021. Mae'r ardal bellach o dan lywodraeth awdurdod unedol Gogledd Swydd Northampton.
Math | ardal an-fetropolitan |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Northampton |
Prifddinas | Thrapston |
Poblogaeth | 93,906 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Northampton (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 509.7872 km² |
Cyfesurynnau | 52.45°N 0.5°W |
Cod SYG | E07000152 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of East Northamptonshire Council |
Lleolid yr ardal yng ngogledd-ddwyrain Swydd Northampton. Roedd ganddi arwynebedd o 510 km², gyda 93,906 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Roedd ei phencadlys yn nhref Thrapston.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974, ac fe'i diddymwyd dan The Northamptonshire (Structural Changes) Order 2019 ar 1 Ebrill 2021.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 2 Ebrill 2020
- ↑ The Northamptonshire (Structural Changes) Order 2019; Gwefan deddfwriaeth.gov.uk; adalwyd 23 Awst 2021