Gogledd Swydd Northampton

Awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Northampton, Dwyrain Canolbarth Lloegr, yw Gogledd Swydd Northampton (Saesneg: North Northamptonshire).

Gogledd Swydd Northampton
Mathardal awdurdod unedol yn Lloegr Edit this on Wikidata
PrifddinasCorby Edit this on Wikidata
Poblogaeth363,408 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Northampton
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.45°N 0.6°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE06000061 Edit this on Wikidata
Map

Mae gan yr ardal arwynebedd o 986 km², gyda 350,448 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2020.[1] Mae'n ffinio â Gorllewin Swydd Northampton i'r de-orllewin, yn ogystal â siroedd Swydd Gaerlŷr i'r gorllewin, Swydd Rydychen i'r de-orllewin, Rutland i'r gogledd, Swydd Gaergrawnt i'r dwyrain, Swydd Bedford i'r de-ddwyrain, a Swydd Buckingham i'r de.

Gogledd Swydd Northampton yn Swydd Northampton

Ffurfiwyd yr ardal fel awdurdod unedol ar 1 Ebrill 2021[2] pan unwyd y pedair ardal an-fetropolitan Ardal Dwyrain Swydd Northampton, Bwrdeistref Corby, Bwrdeistref Kettering a Bwrdeistref Wellingborough, a oedd gynt dan weinyddiaeth yr hen sir an-fetropolitan Swydd Northampton.

Mae ei phencadlys yn nhref Kettering. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Burton Latimer, Corby, Desborough, Higham Ferrers, Irthlingborough, Kettering, Oundle, Raunds, Rothwell, Thrapston a Wellingborough.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 23 Awst 2021
  2. The Northamptonshire (Structural Changes) Order 2019; Gwefan deddfwriaeth.gov.uk; adalwyd 23 Awst 2021